Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Mae Pincyn Llys yng Nghoedwig Clocaenog, sef ardal enfawr o goetir, gweundir agored, ac afonydd.
Mae'r maes parcio bach wrth ochr y ffordd, ac mae yn fan cychwyn ar gyfer taith gerdded fer i gofadail Pincyn Llys.
Bwynt uchaf Coedwig Clocaenog yw cofadail Pincyn Llys a cheir golygfeydd ar draws Dyffryn Clwyd.
Bu i’r Arglwydd Bagot godi’r cofadail hwn yn 1830 er mwyn coffáu plannu coedwig gonwydd.
Cafodd y coed eu cwympo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn darparu pyst pren ar gyfer y ffosydd a’r pyllau glo. Ailblannodd y Comisiwn Coedwigaeth y goedwig yn y 1930au.
Mae nodwyr ar hyd y llwybr, sy’n cychwyn o’r panel gwybodaeth ar ochr arall y ffordd, gyferbyn â’r maes parcio.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r daith gerdded yn cychwyn mewn coetir cysgodol ac yn mynd â chi i weundir agored cyn y darn byr ond serth i gofadail Pincyn Llys.
Mae’n werth darllen yr arysgrifau cyfan ar y cofadail.
Saif y cofadail ym man uchaf Coedwig Clocaenog (1358 troedfedd / 414m) ac mae gwrthglawdd hynafol a phwynt triongli lle y ceir golygfeydd ar draws Dyffryn Clwyd.
Mae’r daith gerdded yn dychwelyd i’r maes parcio ar hyd yr un llwybr.
Mae Llwybr Hiraethog yn rhedeg trwy Pincyn Llys.
Mae’r llwybr hwn yn cysylltu pentrefi Mynydd Hiraethog, sef Pentrefoelas, Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr a Llanrhaeadr ar hyd cyfres o lwybrau cyhoeddus, lonydd a ffyrdd tawel.
Cewch wybod mwy ar wefan Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Mae Clocaenog yn goedwig gonwydd anferth sydd yr un maint â 10,000 o gaeau rygbi (100km2).
Mae ar ben deheuol Mynydd Hiraethog a chafodd ei phlannu gyntaf yn y 1930au gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Er bod gwaith yn dal i ddigwydd yn y goedwig, mae bellach yn fan i bobl ei mwynhau ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Mae gwiwerod coch yn byw yng Nghoedwig Clocaenog ond mae gweld un yn dipyn o gamp gan eu bod yn symud dros ardaloedd eang ac yn greaduriaid eithaf swil.
Mae grugieir duon prin, sy’n adnabyddus am eu defodau paru trawiadol, yn byw ar gyrion y goedwig.
Yn ogystal â Pincyn Llys, mae llwybrau ag arwyddbyst yn cychwyn o sawl maes parcio arall sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Clocaenog:
Mae Coedwig Clocaenog yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Pincyn Llys 4½ milltir i’r de-orllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
Ewch ar ffordd y B5105 o Ruthun tuag at Lanfwrog.
Ar ôl yr eglwys, ewch ar y ffordd gyntaf ar y dde i gyfeiriad Telpyn.
Ewch yn eich blaen i Bontuchel a throwch i’r chwith ar ôl y bont fechan i fynd ar is-ffordd tuag at Glocaenog.
Mae’r maes parcio ar yr ochr dde ar ôl dwy filltir, yn fuan ar ôl i’r ffordd fynd i mewn i’r goedwig.
Mae Pincyn Llys ar fap Arolwg Ordnans (AR) Explorer 264 neu 265.
Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans yw SJ 064 556.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.