Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych

Beth sydd yma

Gwyliwch rhag y lorïau cludo pren sy’n defnyddio’r ffyrdd coedwig yn ystod y gwaith cynaeafu. Dilynwch yr holl arwyddion a’r cyfarwyddiadau.

Croeso

Adeiladwyd Cronfa Ddŵr Alwen a'i hargae enfawr tua dechrau'r 20fed ganrif er mwyn darparu dŵr i borthladd Penbedw.

Mae'r maes parcio yn fan cychwyn ar gyfer sawl llwybr i gerddwyr a seiclwyr.

Mae'r llwybr o amgylch Llyn Alwen yn addas i deuluoedd ac mae digon i’w ddarganfod o’r goedwig i lên gwerin.

Mae dewis o ddwy daith sy'n mynd o amgylch Llyn Alwen a Llyn Brenig, neu, am lwybr byrrach rhwng y ddau lyn, gallwch ddilyn y llwybr cyswllt.

Mae yna ganolfan ymwelwyr gyda chaffi a thoiledau ger Llyn Brenig.

""

Llwybrau cerdded a beicio

Gall y llwybrau hyn gael eu defnyddio gan gerddwyr a seiclwyr.

Rhaid i seiclwyr ddilyn y rhan fwyaf o'r llwybrau yn erbyn y cloc a cherddwyr gyda’r cloc - dilynwch yr arwyddion sy’n dangos y ffordd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Llwybr Alwen

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 6¾ milltir/10.9 cilomedr
  • Dringfa: 110 medr
  • Amser: Beicwyr 1½-2 awr; cerddwyr 2½-3½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae hwn yn llwybr sy'n cael ei rannu - gall cerddwyr a beicwyr ei ddefnyddio. Rhaid i seiclwyr ei ddilyn yn erbyn y cloc a cherddwyr gyda’r cloc – cadwch lygad allan am arwyddion yn nodi’r ffordd. Meinciau picnic ar hyd y llwybr.

Mae'r llwybr, sydd addas i deuluoedd, yn mynd trwy goedwig, gweundir ac ar hyd ymyl y dwr ar lwybrau pwrpasol a llwybrau coedwig – gyda golygfeydd cyfnewidiol ar hyd y gronfa a thuag at fynyddoedd Eryri.

Mae paneli darluniedig ar hyd y llwybr yn cyflwyno bywyd gwyllt, diwylliant a llên gwerin tirwedd yr ucheldir.

Cylch Llynoedd

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 9½ milltir/15.3 cilomedr
  • Dringfa: 120 medr
  • Amser: Beicwyr 2-3 awr; cerddwyr 4-5 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae hwn yn llwybr sy'n cael ei rannu - gall cerddwyr a beicwyr ei ddefnyddio. Rhaid i seiclwyr ei ddilyn yn erbyn y cloc a cherddwyr gyda’r cloc – cadwch lygad allan am arwyddion yn nodi’r ffordd.

Dilynwch y llwybr hwn o gwmpas glannau mewnol y ddau lyn.

Llwybr y Ddau Lyn

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 14 milltir/22.7 cilomedr
  • Dringfa: 220 medr
  • Amser: Beicwyr 3-4 awr; cerddwyr 4-5 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae hwn yn llwybr sy'n cael ei rannu - gall cerddwyr a beicwyr ei ddefnyddio. Rhaid i seiclwyr ei ddilyn yn erbyn y cloc a cherddwyr gyda’r cloc – cadwch lygad allan am arwyddion yn nodi’r ffordd.

Mwynhewch y golygfeydd agored ac amrywiol o amgylch Llyn Brenig a Chronfa Alwen.

Linc Llynoedd

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 2 filltir/3.1 cilomedr (un ffordd)
  • Dringfa: 40 medr
  • Amser: Beicwyr 20-30 munud; cerddwyr 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr hwn yn cysylltu Llyn Brenig a Llyn Alwen.

Defnyddiwch y llwybr cyswllt hwn i ymuno â'r llwybrau eraill neu i ddilyn llwybr byrrach rhwng y ddau lyn.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Rhostir Hafod Elwy

Mae Cylch Llynoedd a Llwybr y Ddau Lyn yn mynd trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Rhostir Hafod Elwy.

Mae Hafod Elwy yn glytwaith o weundir uchel, rhostiroedd a chors, sy’n swatio rhwng coedwigoedd conwydd a chronfeydd dwr.

Mae'r dirwedd hon yn hafan i rai o'n hadar mwyaf prin -  Mynydd Hiraethog, y mae Hafod Elwy yn rhan ohono, yw un o'r ychydig leoliadau sydd ar ôl yng Nghymru lle rydych chi’n dal i allu gweld y grugiar goch a’r grugiar ddu.

Mae nifer o adar brodorol ac adar eraill ar ymweliad hefyd yn dod o hyd i loches ymysg grug Hafod Elwy. Yn y gwanwyn, mae’r ehedydd yn dychwelyd yma i nythu.

Yn yr haf, mae lliwiau pinc a phorffor y grug yn carpedu’r rhostir, tra bod twffiau gwyn siâp cyffon ysgyfarnog plu’r gweunydd yn britho’r meysydd.

Cewch weld hefyd y mwsoglau cors niferus sydd fel 'lawntiau' o amrywiol arlliwiau gwyrdd ymysg y twmpathau llus.

Am fwy o wybodaeth am beth i'w weld yn y warchodfa cadwch olwg am ein panel gwybodaeth.

Canolfan ymwelwyr Llyn Brenig

Mae’r fynedfa i faes parcio Llyn Brenig oddi ar y B4501, 1 filltir o’r fynedfa maes parcio Alwen.

Mae ganddi gaffi, toiledau, siop bysgota, parc chwarae a chyfleusterau llogi beic.

Mae canolfan ymwelwyr Llyn Brenig wedi ei rheoli gan Ddŵr Cymru/Welsh Water.

Gweler gwefan Llyn Brenig am fwy o wybodaeth.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Alwen 11 milltir i’r de-orllewin o Ddinbych.

Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau sirol Bwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Cronfa Ddŵr Alwen ar fap Arolwg Ordnans (OS) Explorer 264.

Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 956 529.

Cyfarwyddiadau

O’r de

Dilynwch y B4501 o Gerrigydrudion tuag at Ddinbych, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn hyd at Lyn Brenig.

Wedi 3 o filltiroedd, trowch i’r chwith i lawr llwybr caregog tuag at faes parcio Alwen.

O’r gogledd

Dilynwch y B4501 o Ddinbych tuag at Gerrigydrudion.

Wedi 11 o filltiroedd, ewch heibio i faes parcio canolfan ymwelwyr Dŵr Cymru/Welsh Water Llyn Brenig.

Wedi 1 filltir, mae’r troad am faes parcio Alwen ar y dde.

Dilynwch y llwybr caregog hwn tuag at faes parcio.

Cludiant cyhoeddus

Mae’r orsaf reilffordd agosaf yn y Rhyl.

I gael manylion am gludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Gweithredir y maes parcio ger Cronfa Ddŵr Alwen gan Dŵr Cymru.

Rhaid talu £2.50 am barcio.

Mae angen ichi dalu ffi'r maes parcio â’r arian cywir.

Manylion cysylltu

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf