Croeso
Mae Coetir Efail y Rhidyll yn un o blith sawl maes parcio yng Nghoedwig Clocaenog, sef ardal enfawr o goetir, gweundir agored, ac afonydd.
Y maes parcio bach yw’r man cychwyn ar gyfer llwybr cerdded byr sydd â nodwyr arno, sy’n ddelfrydol ar gyfer torri siwrnai i ymestyn eich coesau neu i fynd am dro gyda’ch ci.
Mae sawl llwybr cyhoeddus gerllaw os oes map gennych ac os hoffech fynd ar daith gerdded hwy.
Mae wedi’i enwi ar ôl Ystad enfawr Efail y Rhidyll (Pool Park) gynt, a oedd ym mherchnogaeth teulu Bagot.
Llwybr cerdded
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Llwybr Efail y Rhidyll
- Gradd: Hawdd
- Pellter: ¾ milltir/1.2 cilomedr
- Amser: 30 munud
Mae’r llwybr byr hwn yn dilyn nant ac yna’n dringo’n raddol drwy’r coetir.
Sylwch ar y coed ffynidwydd Douglas enfawr sy’n ffynnu yma a’r clystyrau o glychau’r gog yn y gwanwyn.

Coedwig Clocaenog
Mae Clocaenog yn goedwig gonwydd anferth sydd yr un maint â 10,000 o gaeau rygbi (100km2).
Mae ar ben deheuol Mynydd Hiraethog a chafodd ei phlannu gyntaf yn y 1930au gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Er bod gwaith yn dal i ddigwydd yn y goedwig, mae bellach yn fan i bobl ei mwynhau ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Mae gwiwerod coch yn byw yng Nghoedwig Clocaenog ond mae gweld un yn dipyn o gamp gan eu bod yn symud dros ardaloedd eang ac yn greaduriaid eithaf swil.
Mae grugieir duon prin, sy’n adnabyddus am eu defodau paru trawiadol, yn byw ar gyrion y goedwig.
Yn ogystal â Efail y Rhidyll, mae llwybrau ag arwyddbyst yn cychwyn o sawl maes parcio arall sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Clocaenog:
- Bod Petryal – safle picnic tawel ar lan llyn, gyda llwybr cerdded byr a llwybr beicio
- Boncyn Foel Bach – golygfan hardd gydag ardal bicnic a llwybr byr drwy’r coetir
- Coed y Fron Wyllt – coetir hynafol gyda llwybr ar hyd glan yr afon a chuddfan i wylio bywyd gwyllt
- Pincyn Llys – llwybr byr i fyny’r llethr at gofadail sydd â golygfeydd eang o’i amgylch
- Rhyd y Gaseg - llwybr byr drwy goetir at raeadr
Coedwig Genedlaethol Cymru
Mae Coedwig Clocaenog yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
- creu ardaloedd o goetir newydd
- gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
- adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Cau a dargyfeirio
- Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
- O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
- Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym
Sut i gyrraedd yma
Lleoliad
Mae Efail y Rhidyll ddwy filltir i’r de-orllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.

© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
Cyfarwyddiadau
Ewch ar ffordd y B5105 o Ruthun tuag at Glawddnewydd.
Ar ôl 1½ filltir, mae’r maes parcio ar y dde.
Map Arolwg Ordnans
Mae Efail y Rhidyll ar fap Arolwg Ordnans (AR) Explorer 279, 293 neu 294.
Y cyfeirnod grid AR ar gyfer y maes parcio yw SJ 101 560.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Maes parcio
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Manylion cyswllt
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.