Datganiad caethwasiaeth fodern 2022-23

Lluniwyd y datganiad hwn i fodloni gofynion Rhan 6 o adran 54 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac mae'n rhan o'n hymrwymiad i ‘God Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’ Llywodraeth Cymru a Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig.

Fel y corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn glynu at y safonau uchaf o ran ymddygiad moesegol yn ein holl weithgareddau ac rydym yn ymrwymedig i welliant parhaus. Nid yw CNC yn ymwneud ag arferion masnachu pobl, caethwasiaeth na llafur gorfodol nac yn eu cydoddef.

Mae ein gwerthoedd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni fel sefydliad. Maent yn amlinellu'r hyn sy'n bwysig i ni, sut rydym fel pobl, a'r hyn rydym am ei gyflawni:

  • Rydym yn frwdfrydig am amgylchedd naturiol Cymru
  • Rydym yn gofalu am ein gilydd a'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw
  • Rydym yn gweithio gydag uniondeb
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth nawr ac ar gyfer y dyfodol
  • Rydym yn falch o wasanaethu pobl Cymru​​​​​

Rydym yn ymrwymedig i wella ein harferion busnes i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern a masnachu pobl ac i sicrhau nad ydym yn rhan o unrhyw droseddau hawliau dynol. Rydym yn ymrwymedig i beidio â goddef caethwasiaeth, masnachu pobl nac arferion llafur plant.

Diffiniadau

At ddibenion y datganiad hwn, rydym wedi mabwysiadu'r diffiniadau canlynol:

  • ‘Caethwasiaeth’ yw pan arferir perchnogaeth dros unigolyn. Mae rhywun mewn caethwasiaeth os yw’r canlynol yn berthnasol iddo:
    • mae’n cael ei orfodi i weithio dan fygythiad meddyliol neu gorfforol
    • mae’n eiddo i ‘gyflogwr’ neu'n cael ei reoli ganddo, fel arfer trwy gamdriniaeth feddyliol neu gorfforol neu o dan fygythiad camdriniaeth
    • mae’n cael ei ddad-ddyneiddio, ei drin fel nwydd, neu ei brynu a’i werthu fel ‘eiddo’
    • mae’n cael ei gyfyngu'n gorfforol neu caiff cyfyngiadau eu gosod ar ei ryddid
  • Mae ‘caethwasanaeth’ yn cynnwys y rhwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau drwy orfodaeth.
  • Mae ‘llafur gorfodol’ yn cynnwys gwaith neu wasanaeth a orfodir ar unrhyw unigolyn o dan fygythiad cosb ac nad yw'r unigolyn wedi cynnig ei hun yn wirfoddol ar ei gyfer.
  • Mae ‘masnachu pobl’ yn ymwneud â threfnu neu hwyluso’r broses o symud unigolyn arall gyda'r bwriad o gam-fanteisio arno.

Bydd y datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar gofrestr Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi (TISC) (tiscreport.org).

Ynglŷn â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) 

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru – gan gyflogi 2,400 aelod o staff mewn 17 swyddfa a 36 depo ledled Cymru ac â chyllideb o £240 miliwn yn 2022/23.

Cawsom ein sefydlu yn unol â manylebau Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013. Rydym yn derbyn llythyr cylch gwaith sy'n nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisiau i ni ei gyflawni yn ystod y flwyddyn honno a llythyr cyllid sy'n nodi'r gyllideb sydd ar gael ar ein cyfer.

Mae ein gwaith yn cael ei oruchwylio gan fwrdd sy'n cynnwys y cadeirydd ac 11 o gyfarwyddwyr anweithredol eraill a benodir gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â'r prif weithredwr.

Mae bron i hanner ein hincwm yn deillio o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru, ond rydym hefyd yn cynhyrchu incwm trwy godi tâl am rai o'n gwasanaethau a sawl gweithgaredd masnachol, gan gynnwys gwerthu coed a thenantiaethau. 

Ein cadwyni cyflenwi

Cynhwysir cadwyni cyflenwi CNC yn bennaf o fewn y categorïau canlynol:

  • Peirianneg sifil
  • Fflyd a chyfleusterau
  • Cyfarpar a gwasanaethau TGCh
  • Gwasanaethau proffesiynol
  • Rheoli tir
  • Hydrometreg a thelemetreg
  • Gweithrediadau coedwigaeth

Mae gan CNC lawer o gontractau a fframweithiau presennol ar gyfer categorïau gwariant penodol. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn gorff prynu canolog a'i rôl yw sefydlu contractau a chytundebau fframwaith i’w defnyddio gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn defnyddio fframweithiau Gwasanaeth Masnachol y Goron, Yorkshire Purchasing Organisation (YPO) ac Eastern Shires Purchasing Organisation (ESPO) pan fo hynny'n briodol. Yr arweinydd caffael neu’r arweinydd categori sy’n gwneud y penderfyniadau ynghylch a ddylid prynu o gontract neu gytundeb fframwaith CNC addas.

Rydym yn talu’r cyflog byw i’n holl weithwyr, amser llawn neu ran amser.

Ein polisïau 

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau nad oes achosion o gaethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn digwydd o fewn ein cadwyn gyflenwi nac o fewn unrhyw ran o'n busnes. Rydym yn parhau i ddatblygu ein polisïau a’n gweithdrefnau i adlewyrchu ein hymrwymiad i weithredu’n gynaliadwy, yn foesegol a chydag uniondeb yn ein holl gydberthnasau busnes.

Ein nod yw datblygu, gweithredu a gorfodi systemau, prosesau a rheolaethau effeithiol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw achosion o lafur plant, caethwasiaeth na masnachu pobl yn digwydd sy'n gysylltiedig â'n gweithgareddau. Mae hwn yn ymgymeriad sylweddol a bydd yn cwmpasu nifer o feysydd o fewn busnes CNC.

Mae CNC yn lliniaru'r risg bod caethwasiaeth fodern yn digwydd o fewn ei weithlu trwy sicrhau bod staff a gyflogir yn uniongyrchol yn cael eu recriwtio yn unol â pholisïau recriwtio adnoddau dynol cadarn. Mae polisi chwythu'r chwiban ar waith fel bod aelodau staff yn gallu tynnu sylw at unrhyw bryderon ynghylch camweddau, yn ogystal â chanllawiau i staff sy'n profi cam-drin domestig. Lle y bo’n bosib, mae staff a gyflogir dros dro yn cael eu recriwtio trwy gyflenwyr cymeradwy CNC.

Datblygiad mewn perthynas â'n hymrwymiadau 

Mae ein timau gweithredol yn parhau i fod yn wyliadwrus mewn perthynas â'r mater hwn. Trwy eu gwaith partneriaeth a’u hymgysylltiad rhagweithiol ag asiantaethau arbenigol allanol, rydym wedi datblygu gwell dealltwriaeth o’n meysydd gweithredu posibl lle y gallai achosion o gaethwasiaeth fodern fod yn fwy tebygol.

Rydym wedi sefydlu tudalen fewnrwyd i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn fewnol. Ar y dudalen hon, ceir gwybodaeth am sut i adnabod arwyddion posibl o gaethwasiaeth fodern, sut y gall staff godi pryderon, ac amryw o gyfeiriadau at ffynonellau cyngor manylach.

Rydym wedi sefydlu Gwasanaeth Cefnogi Rheoli Contractau ar gyfer y sefydliad. Er mai ond newydd ei sefydlu ydyw, bydd y tîm hwn yn ymgorffori arferion rheoli contractau da, gan gefnogi staff i reoli contractau i sicrhau y cyflawnir deilliannau drwy roi'r offer a chanllawiau angenrheidiol iddynt. Bydd y fenter hon hefyd yn sicrhau mwy o dryloywder.

Rydym wedi parhau i wneud taliadau prydlon i’n cadwyn gyflenwi yn ystod pandemig COVID-19 er mwyn lleihau’r risg y bydd arferion anfoesegol yn treiddio drwy ein cadwyn gyflenwi.

Fel rhan o'n prosesau tendro, mae caethwasiaeth fodern a chyflogaeth foesegol wedi dod yn ystyriaethau allweddol ac yn ffurfio rhan o'n meini prawf dethol. 

Ein hymrwymiadau ar gyfer y dyfodol

Dyma drydydd datganiad CNC ar gaethwasiaeth fodern. Caiff ein gwaith yn y maes hwn ei ddatblygu bob blwyddyn, ac rydym yn parhau i adolygu ein cynnydd a’n datganiad yn flynyddol, ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a blwyddyn weithredol.

Rydym yn cydnabod bod mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn gofyn am ddull cydgysylltiedig, cydweithredol a hirdymor.

Byddwn yn adolygu ein strategaeth gaffael a'r dogfennau cysylltiedig dros y flwyddyn sydd i ddod a bydd caffael moesegol yn rhan o'r adolygiad hwn. Byddwn hefyd yn ceisio cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hadolygiad o Egwyddorion Gwaith Teg ac ymateb yn briodol i ffurf ddrafft o’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) newydd.

Byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau mewnol a monitro effeithiolrwydd ein gweithredoedd mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Byddwn yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r ffaith fod mwy o dryloywder yn ein cadwyni cyflenwi er mwyn gallu lleihau’r risg o gaethwasiaeth fodern ac arferion anfoesegol.

Dros flwyddyn weithredol 2022-23, byddwn yn parhau i ysgogi trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad am Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a pha risgiau y gallai eu peri i ni fel sefydliad.

Rydym yn ymateb i’r argyfwng sy’n datblygu yn Wcráin, a byddwn yn gweithredu yn unol â pholisi caffael Llywodraeth Cymru o ran nodi unrhyw effeithiau ar ein cadwyni cyflenwi.

Bydd y datganiad hwn yn cael ei adolygu yn flynyddol ac mae wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd.

Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru
Dyddiedig: 13.06.2022

Diweddarwyd ddiwethaf