Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Mae Coed Llangwyfan yn un o sawl coetir sydd â llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Saif y coetir ar fryn serth sy’n agor allan i lethrau wedi’u gorchuddio â grug.
Mae'r daith gerdded gylchol ag arwyddbyst yn dilyn llwybr mwy gwastad drwy’r coetir i olygfan.
Mae’r maes parcio mawr hefyd yn fan cychwyn ar gyfer nifer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau cyhoeddus sy'n dringo i fryncaerau o’r Oes Haearn lle ceir golygfeydd panoramig.
Mae modd ymuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa o’r fan hon.
Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o’r maes parcio ac mae arwyddion yn dangos y ffordd.
Disgynnwch yn raddol ar hyd llwybr sydd ag ymylon serth, drwy goed conwydd anferth sy’n agor allan i roi golygfeydd dros y dyryn.
Mae golygfan ar y pwynt hanner ordd lle ceir golygfeydd eang ar draws Dyryn Clwyd.
Mae’r llwybr yn dychwelyd ar lwybr lefel is drwy goetir llydanddail i’r maes parcio.
Mae sawl llwybr cyhoeddus o’r maes parcio yng Nghoed Llangwyfan.
Efallai na fyddant wedi’u harwyddo, ac rydym yn argymell eich bod yn mynd â map gyda chi.
Mae un llwybr troed cyhoeddus yn mynd i gopa Moel Arthur, lle ceir bryngaer o’r Oes Haearn.
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn mynd i gopa Penycloddiau, lle ceir bryngaer o’r Oes Haearn arall.
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg ar hyd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sy’n AHNE
Mae'r llwybr pellter hir hwn yn rhedeg drwy ran ogleddol Coed Llangwyfan, ac mae modd ymuno â’r llwybr o’r maes parcio.
Cewch wybod mwy ar wefan Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Mae Coed Llangwyfan 5 milltir i’r dwyrain o Ddinbych.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae parcio’n rhad ac am ddim.
O’r A525 i’r de o Ddinbych, cymerwch y ffordd fach sy’n mynd i gyfeiriad Llandyrnog o’r gylchfan. Ewch yn syth ymlaen wrth y gylchfan nesaf. Cymerwch y chwith nesaf ac mae prif faes parcio Coed Llangwyfan ar y chwith ar ben y bryn, ar ôl mynd heibio i gilfan fach.
Mae Coed Llangwyfan ar fap Arolwg Ordnans (AR) 265.
Y cyfeirnod grid OS yw SJ 138 668.
Mae’r orsaf reilffordd agosaf ym Mwcle.
I gael manylion am gludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.