Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol
Cysylltwch â ni
neu ffoniwch 0300 065 3000 24 awr o'r diwrnod
Croesewir galwadau yn Gymraeg neu Saesneg
Beth mae angen i ni wybod
Er mwyn i ni allu ymateb i’ch gwybodaeth cyn gynted ag sy’n bosib, bydd angen i chi roi’r manylion hyn:
- Ble mae rhywbeth yn digwydd / wedi digwydd? Os yw’n bosib, rhowch y cyfeirnod grid, er enghraifft, NT 252 735. Fel arall, rhowch gyfarwyddiadau / disgrifiadau manwl o’r lleoliad
- Beth sy’n digwydd? / Beth sydd wedi digwydd?
- Pwy sydd/oedd yn gyfrifol am y digwyddiad?
- Pryd mae hyn wedi digwydd?
Digwyddiadau rydym ni’n ymdrin â nhw
- difrod neu berygl i’r amgylchedd naturiol
- trosedd yn erbyn bywyd gwyllt sydd wedi digwydd yn barod (ffoniwch yr heddlu ar 101 i roi gwybod am rywbeth sy’n digwydd nawr)
- difrod i glwydfan ystlumod
- llygredd dŵr neu dir
- potsio neu bysgota anghyfreithlon
- pysgod mewn trafferth neu wedi marw
- amheuaeth o dorri coed yn anghyfreithlon
- amheuaeth o glefyd coed
- prif gwrs dŵr wedi blocio a allai arwain at berygl llifogydd
- tynnu dŵr o gyrsiau dŵr yn anghyfreithlon
- addasiadau i gyrsiau dŵr sydd wedi eu gwneud heb ganiatâd gennym ni (eg treillio, sythu, cronni neu gwaith i'r glan neu'r gwely)
- gostyngiad anarferol yn llif yr afon
- difrod i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- llosgi gwastraff masnachol, diwydiannol neu beryglus, fel asbestos, heb drwydded
- dympio gwastraff ar raddfa fawr, gan gynnwys mathau o wastraff peryglus
- Gweithgareddau anghyfreithlon sy’n ymwneud â rhai rhywogaethau estron goresgynnol (eu bridio, eu defnyddio neu eu cyfnewid, eu gwerthu neu eu hysbysebu, caniatáu iddynt atgynhyrchu, eu rhyddhau i'r amgylchedd neu eu cludo (ac eithrio at ddibenion dileu) neu dorri rheolau gweithgareddau trwyddedig.
- safleoedd gwastraff anghyfreithlon a chludwyr gwastraff sydd heb drwydded
Digwyddiadau NAD YDYM yn ymdrin â nhw
Os byddwch yn gweld unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, rhowch wybod i'ch awdurdod lleol neu chwmni cyfleustodau.
- nwy yn gollwng
- peipen ddŵr wedi byrstio
- arogl, lliw neu flas gwahanol i’r arfer ar ddŵr yfed
- llifogydd o ganlyniad i beipen ddŵr mewn tŷ wedi byrstio neu lifogydd o ddraeniau ffyrdd
- tipio sbwriel cartref neu ychydig o wastraff masnachol yn anghyfreithlon
- niwsans sŵn domestig
- aroglau o eiddo domestig neu fasnachol bach
- Llosgi gwastraff domestig neu wastraff gardd
- plâu domestig
- allyriadau mwg o gerbydau
- cynnal ffyrdd
- toriadau mewn cyflenwadau trydan neu ddŵr
- draeniau a charthffosydd domestig wedi blocio
- anifeiliaid wedi marw
Sylwer: Os ydych yn gweld anifeiliaid marw peidiwch â rhoi gwybod i ni oni bai eu bod mewn prif afon ac yn debygol o achosi llifogydd neu lygredd. Dylech roi gwybod i ni os ydych wedi gweld dyfrgwn marw, neu anifeiliaid eraill a allai fod wedi marw o ganlyniad i lygredd.
Yn ystod llifogydd
- Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl.
- Gwiriwch beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf neu ffoniwch Floodline 0345 988 1188
- Beth i'w wneud mewn llifogydd.
Adroddwch am ddraeniau a gylïau wedi'u blocio
Os ydych chi'n poeni am lifogydd a achosir gan ddraeniau neu gylïau wedi’u blocio neu ddŵr yn rhedeg oddi ar gaeau, adroddwch hyn wrth eich awdurdod lleol.
Adroddwch am afonydd wedi blocio a thirlithriadau
Os ydych chi'n poeni am afonydd sydd wedi'u blocio, tirlithriadau neu lifogydd o afonydd a'r môr, adroddwch hyn ar unwaith i'n llinell digwyddiadau 24 awr ar 03000 65 3000.
Rhowch wybod am broblemau gyda nwy, trydan neu garthffosiaeth
Os ydych chi'n poeni am ddŵr llifogydd sy'n effeithio ar eich gwasanaethau nwy, trydan, dŵr neu garthffosiaeth, ffoniwch eich cyflenwr.
Ar gyfer llifogydd carthffosydd, neu os yw'ch toiled neu sinc yn llenwi yn ystod llifogydd, ffoniwch eich cwmni dŵr lleol.
Rhywogaethau ymledol/estron
Os gwelwch rywogaethau ymledol / estron, ewch i wefan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron am fwy o wybodaeth ar sut i'w riportio.
Achosion o chwyn niweidiol (gan gynnwys llysiau’r gingroen)
Mae’r prif gyfrifoldeb dros reoli chwyn yn gorwedd gyda meddiannydd y tir lle y mae’r chwyn yn tyfu. Mae’n bwysig bod yn wyliadwrus o broblemau chwyn posibl a chymryd camau’n ddi-oed. Gellir cael mwy o wybodaeth ar wefan chwyn niweidiol Llywodraeth Cymru.
Anifeiliaid o’r môr wedi'u tirio
Os byddwch yn dod o hyd i anifail o’r môr sydd wedi'i dirio, ewch i Wefan Rhaglen Ymchwil y Deyrnas Unedig i Forfilod wedi Tirio i gael manylion ynglŷn â sut i roi gwybod am y digwyddiad.
Anifeiliaid wedi eu gwenwyno
Os ydych yn meddwl bod unrhyw anifail gwyllt, anifail fferm neu anifail anwes wedi marw mewn amgylchiadau amheus, rhowch wybod i’r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt drwy ffonio 0800 321600.
Costau galwadau
Mae mwy o fanylion am gostau galwadau i’w gweld ar wefan Gov.uk.