Coed Nercwys, ger yr Wyddgrug

Beth sydd yma

Croeso

Fe welwch nodweddion treftadaeth ynghudd ymysg y coed ac mae'r paneli ar hyd y llwybr yn adrodd hanes y bobl a fu'n byw ac yn gweithio yma.

Mae'r coetir yn gynefin ardderchog i fywyd gwyllt – cadwch lygad yn agored am adar fel bwncathod, drywod eurben, a thitwod penddu.

Mae'r llyn bach o’r enw Llyn Ochin wedi sychu ond mae'r ardal gorsiog hon bellach yn denu gweision y neidr a madfallod dŵr, ac mae planhigion fel plu’r gweunydd yn ffynnu yma.

Mae llechen ger mynedfa'r maes parcio yn coffáu Coed Derw’r Mileniwm a blannwyd yma gan y gymuned leol.

Mae'r llwybr cerdded a'r llwybr beicio mynydd yn dilyn llwybr tebyg ond maent wedi'u harwyddo fel bod cerddwyr, beicwyr a marchogion yn dilyn y llwybr i gyfeiriadau gwahanol.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Coed Nercwys

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 2¾ milltir/4.4 cilometr​
  • Amser: Cymedrol
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch y llwybr cerdded yn glocwedd. Mae'r llwybr cerdded a'r llwybr beicio mynydd yn dilyn llwybr tebyg ond maent wedi'u harwyddo fel bod cerddwyr a beicwyr a marchogion yn dilyn y llwybr i gyfeiriadau gwahanol.  Cymerwch ofal gan fod beicwyr a marchogion yn dilyn rhannau o'r llwybr hwn i’r cyfeiriad arall h.y. gan ddod tuag atoch.

Mae'r llwybr cerdded yn mynd trwy'r clwydi haearn yn y maes parcio ar drac llydan cyn mynd ymlaen i lwybr drwy'r goedwig.

Mae'n dilyn llwybr cylchol o amgylch rhai o'r nodweddion treftadaeth sydd wedi eu cuddio yng nghanol y coed.

Cadwch lygad allan am adfeilion adeiladau mwynglawdd plwm o'r 19 ganrif, adfeilion bwthyn bugail gyda dôl furiog lawn blodau gwyllt yn yr haf a pherllan newydd ei hailblannu.

Tua diwedd y llwybr cerdded, mae yna olygfan gyda charnedd o  gerrig a philer triongli lle ceir golygfeydd panoramig i Dŵr y Jiwbilî ar ben Moel Famau ac Aber Afon Dyfrdwy.

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Beicio Coed Nercwys

  • Gradd: Gwyrdd/Hawdd
  • Pellter: 3.8 cilometr
  • Dringo: 50 metr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae hwn yn llwybr a rennir ar gyfer beicwyr a marchogion. Dilynwch y llwybr beicio mewn cyfeiriad gwrth-glocwedd.  Mae'r llwybr cerdded a'r llwybr beicio mynydd yn dilyn llwybr tebyg ond maent wedi'u harwyddo fel bod cerddwyr a beicwyr a marchogion yn dilyn y llwybr i gyfeiriadau gwahanol. Cadwch lygad allan am gerddwyr a all ddilyn rhannau o'r llwybr hwn yn y cyfeiriad arall h.y. gan ddod tuag atoch.

Mae'r llwybr beicio hwn yn lle gwych i deuluoedd fwynhau beicio'n ddiogel oddi wrth ffyrdd prysur, a dysgu am hanes amrywiol y coetir wrth wneud hynny.

Mae'r llwybr llydan o'r gatiau haearn ger mynedfa’r coetir yn ymdroelli drwy'r goedwig, gan osgoi dringfeydd mawr a chan gynnig golygfeydd ysblennydd dros wastadedd Swydd Gaer a’r tu hwnt.

Llwybrau cerdded eraill

Mae nifer o lwybrau cyhoeddus o faes parcio Coed Nercwys.

Mae’r panel gwybodaeth yn y maes parcio yn cynnwys llwybr awgrymedig i Fryn Alyn, sef y calchbalmant mwyaf ond un yng Nghymru (cymedrol, 4 milltir/6.3 cilometr).

Efallai nad oes arwyddbyst ar y llwybr hwn ac rydym yn argymell eich bod yn mynd â map gyda chi.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae Coed Nercwys wedi’i leoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Cadwyn o gopaon grugog porffor yw Bryniau Clwyd, â bryngaerau arnynt. Mae Dyffryn Dyfrdwy y tu hwnt i'r bryniau gwyntog hyn ac mae'n gartref i drefi hanesyddol Llangollen a Chorwen.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â'r AHNE, ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coed Nercwys 4 milltir i'r de-orllewin o'r Wyddgrug.

Mae yn Sir Fflint.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coed Nercwys ar fap Arolwg Ordnans (AR) 265.

Y cyfeirnod grid OS yw SJ 218 592.

Cyfarwyddiadau

Ewch i'r de o'r Wyddgrug, gan ddilyn yr arwyddion am Nercwys.

Ewch ymlaen trwy Nercwys ac ar yr ail groesffordd, trowch i'r chwith i Ffordd Cae Newydd.

Ar ôl tua ¾ milltir cymerwch y troad cyntaf i'r dde a pharhau am 250m ac mae'r maes parcio ar y chwith.

Cludiant cyhoeddus

Mae’r orsaf reilffordd agosaf ym Mwcle.

I gael manylion am gludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae parcio am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cysylltu

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf