Croeso
Mae Coed y Fron Wyllt ym mhen dwyreiniol Coedwig Clocaenog a dyma rimyn o goetir hir ag ochrau serth.
Coetir hynafol ydyw'n bennaf, sy'n golygu bod y coetir yn goediog ers 1600 o leiaf.
Erbyn hyn mae'n gartref i lwybr cerdded cylch a chuddfan gwylio bywyd gwyllt sy'n edrych dros wlyptir.
Yn y gwanwyn mae'r llwybr drwy'r coetir yn llawn clychau'r gog a briallu ac mae arogl craf y geifr yn llenwi'r awyr.
Llwybr cerdded
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Llwybr Nant Melindwr
- Gradd: Hawdd
- Pellter: 1½ milltir/2.5 cilomedr
- Amser: 1 awr
Dydych chi byth yn bell iawn o Nant Melindwr ar y daith gerdded hon aiff â chi drwy goetiroedd collddail yn bennaf.
Mwynhewch arddangosfa o flodau’r coetir naill ochr i’r llwybr ar ran allanol y daith yn y gwanwyn.
Mae'r llwybr yn mynd heibio mainc bicnic cyn croesi'r afon dros bompren bren.
Mae'n dychwelyd ar hyd ffordd goedwig gyda chipolwg yma a thraw drwy'r coed a thros y bryniau cyfagos.

Coedwig Clocaenog
Mae Clocaenog yn goedwig gonwydd anferth sydd yr un maint â 10,000 o gaeau rygbi (100km2).
Mae ar ben deheuol Mynydd Hiraethog a chafodd ei phlannu gyntaf yn y 1930au gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Er bod gwaith yn dal i ddigwydd yn y goedwig, mae bellach yn fan i bobl ei mwynhau ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Mae gwiwerod coch yn byw yng Nghoedwig Clocaenog ond mae gweld un yn dipyn o gamp gan eu bod yn symud dros ardaloedd eang ac yn greaduriaid eithaf swil.
Mae grugieir duon prin, sy’n adnabyddus am eu defodau paru trawiadol, yn byw ar gyrion y goedwig.
Yn ogystal â Coed y Fron Wyllt, mae llwybrau ag arwyddbyst yn cychwyn o sawl maes parcio arall sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Clocaenog:
- Bod Petryal – safle picnic tawel ar lan llyn, gyda llwybr cerdded byr a llwybr beicio
- Boncyn Foel Bach – golygfan hardd gydag ardal bicnic a llwybr byr drwy’r coetir
- Pincyn Llys – llwybr byr i fyny’r llethr at gofadail sydd â golygfeydd eang o’i amgylch
- Efail y Rhidyll - coetir y mae’n hawdd dod o hyd iddo gyda llwybr byr
- Rhyd y Gaseg - llwybr byr drwy goetir at raeadr
Coedwig Genedlaethol Cymru
Mae Coedwig Clocaenog yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
- creu ardaloedd o goetir newydd
- gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
- adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Cau a dargyfeirio
- Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
- O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
- Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym
Sut i gyrraedd yma
Lleoliad
Mae Coed y Fron Wyllt dair milltir i'r gorllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.

© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
Cyfarwyddiadau
Cymerwch y B5105 o Ruthun i gyfeiriad Clawddnewydd.
Ym mhentref Llanfwrog cymerwch y ffordd fach gyferbyn â'r dafarn i gyfeiriad Bontuchel.
Ar ôl cyrraedd Bontuchel, cymerwch y troad cyntaf i'r chwith ac ar ôl ½ milltir, bydd maes parcio Coed y Fron Wyllt ar y chwith.
Map yr Arolwg Ordnans
Mae Coed y Fron Wyllt ar fap Explorer 279, 293 neu 294 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 081 570.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Maes parcio
Mae parcio am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Manylion cyswllt
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.