Coedwig Clocaenog - Bod Petryal, ger Rhuthun

Beth sydd yma

Mae cerbydau wrthi’n cludo pren ar y ffyrdd coedwig – byddwch yn wyliadwrus a dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle.

Croeso

Mae Bod Petryal yn un o blith sawl maes parcio yng Nghoedwig Clocaenog, sef ardal enfawr o goetir, gweundir agored, ac afonydd.

Mae’r safle picnic tawel hwn, sydd wrth ochr llyn, yn cynnig llwybr cerdded byr a llwybr beicio, ac mae’n fan cychwyn delfrydol i gael blas ar y goedwig.

Mae Bod Petryal wedi’i enwi ar ôl hen fwthyn y ciper, a arferai fod yn rhan o Ystad Pool Park. 

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Tro’r Ciper

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: ½ milltir/1 cilomedr
  • Amser: 20 munud

Mae’r daith gerdded fer hon yn mynd heibio coed enfawr, hen fwthyn y ciper, a’r llyn hardd.

Llwybr Darganfod Anifeilaid

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: ½ milltir/1 cilomedr
  • Amser: 30 munud

Mae’r Llwybr Darganfod Anifeiliaid yn cychwyn ar yr un llwybr â Thaith Gerdded y Ceidwad.

Mae’r daflen Llwybr Pos Anifeiliaid yn rhoi cliwiau i helpu plant i ddod o hyd i’r anifeiliaid sy’n cuddio yn y coed - gallwch lwythwch gopi i lawr o waelod y dudalen hon.

Bwthyn y ciper

Llwybr aml ddefnydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Trot Bod Petryal

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 2 filltir/3.3 cilomedr
  • Amser: 1 awr ar gefn geffyl, 1¼ awr o gerdded, 20 munud seiclo
  • Gwybodaeth am y llywbr: Gall cerddwyr, beicwyr a marchogion defnyddio'r ffordd hon.

Mae’r ffordd hon yn crwydro trwy’r goedwig ar ffyrdd y goedwig ac mae'n addas ar gyfer y teulu i gyd.

Chwiliwch am gnocell y coed wrth fwynhau picnic ar ymyl y llyn. 

Coedwig Clocaenog

Mae Clocaenog yn goedwig gonwydd anferth sydd yr un maint â 10,000 o gaeau rygbi (100km2).

Mae ar ben deheuol Mynydd Hiraethog a chafodd ei phlannu gyntaf yn y 1930au gan y Comisiwn Coedwigaeth.

Er bod gwaith yn dal i ddigwydd yn y goedwig, mae bellach yn fan i bobl ei mwynhau ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Mae gwiwerod coch yn byw yng Nghoedwig Clocaenog ond mae gweld un yn dipyn o gamp gan eu bod yn symud dros ardaloedd eang ac yn greaduriaid eithaf swil.

Mae grugieir duon prin, sy’n adnabyddus am eu defodau paru trawiadol, yn byw ar gyrion y goedwig.

Yn ogystal â Bod Petryal, mae llwybrau ag arwyddbyst yn cychwyn o sawl maes parcio arall sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Clocaenog:

  • Boncyn Foel Bach – golygfan hardd gydag ardal bicnic a llwybr byr drwy’r coetir
  • Coed y Fron Wyllt – coetir hynafol gyda llwybr ar hyd glan yr afon a chuddfan i wylio bywyd gwyllt
  • Pincyn Llys – llwybr byr i fyny’r llethr at gofadail sydd â golygfeydd eang o’i amgylch
  • Efail y Rhidyll - coetir y mae’n hawdd dod o hyd iddo gyda llwybr byr
  • Rhyd y Gaseg - llwybr byr drwy goetir at raeadr

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Clocaenog yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Bod Petryal 8 milltir i’r de-orllewin o Ruthun.

Mae yn Sir Ddinbych.

© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741

Cyfarwyddiadau

Cymerwch ffordd y B5105 o Ruthun i Gerrigydrudion.

Ewch drwy bentref Clawddnewydd ac, yn fuan ar ôl pasio maes parcio Boncyn Foel Bach, mae maes parcio Bod Petryal ar y chwith.

Map Arolwg Ordnans

Mae Bod Petryal ar fap Arolwg Ordnans (AR) 264.

Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans yw SJ 036 512.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf