Coedwig Clocaenog - Rhyd y Gaseg, ger Ruthun

Beth sydd yma

Croeso

Mae Rhyd y Gaseg yn un o blith sawl maes parcio yng Nghoedwig Clocaenog, sef ardal enfawr o goetir, gweundir agored, ac afonydd.

Y maes parcio bach yw’r man cychwyn ar gyfer taith gerdded fer drwy’r coetir a heibio rhaeadr.

Mae'r coetir yn llawn coed o fathau gwahanol gan gynnwys poplys, ffynidwydd Douglas, derw a ffawydd.

Mae rhyd yn dal i groesi’r nant yma.

Mae yna gored yn y goedwig hefyd ac mae’n bosib ei bod wedi’i chysylltu ar un adeg ag Ystad Efail y Rhidyll nid nepell i ffwrdd.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Rhyd y Gaseg

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1 filltir/1.6 cilomedr
  • Amser: 45 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn mynd dros ryd a phont bren. Mae yna rai dringfeydd a disgynfeydd serth.

Dydych chi byth yn bell o sŵn dŵr ar y llwybr dymunol hwn drwy’r coetir.

Mae’r rhaeadr tua hanner ffordd ar hyd y llwybr – mae’n werth ei gweld ar ôl glaw mawr.

Yn y gwanwyn mae'r llwybr drwy'r coetir yn llawn clychau'r gog a briallu ac craf y geifr.

""

Coedwig Clocaenog

Mae Clocaenog yn goedwig gonwydd anferth sydd yr un maint â 10,000 o gaeau rygbi (100km2).

Mae ar ben deheuol Mynydd Hiraethog a chafodd ei phlannu gyntaf yn y 1930au gan y Comisiwn Coedwigaeth.

Er bod gwaith yn dal i ddigwydd yn y goedwig, mae bellach yn fan i bobl ei mwynhau ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Mae gwiwerod coch yn byw yng Nghoedwig Clocaenog ond mae gweld un yn dipyn o gamp gan eu bod yn symud dros ardaloedd eang ac yn greaduriaid eithaf swil.

Mae grugieir duon prin, sy’n adnabyddus am eu defodau paru trawiadol, yn byw ar gyrion y goedwig.

Yn ogystal â Rhyd y Gaseg, mae llwybrau ag arwyddbyst yn cychwyn o sawl maes parcio arall sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Clocaenog:

  • Bod Petryal – safle picnic tawel ar lan llyn, gyda llwybr cerdded byr a llwybr beicio
  • Boncyn Foel Bach – golygfan hardd gydag ardal bicnic a llwybr byr drwy’r coetir
  • Coed y Fron Wyllt – coetir hynafol gyda llwybr ar hyd glan yr afon a chuddfan i wylio bywyd gwyllt
  • Pincyn Llys – llwybr byr i fyny’r llethr at gofadail sydd â golygfeydd eang o’i amgylch
  • Efail y Rhidyll - coetir y mae’n hawdd dod o hyd iddo gyda llwybr byr

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Clocaenog yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Rhyd y Gaseg 1 filltir i’r de-ddwyrain o Ruthun.  

Mae yn Sir Ddinbych.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Rhyd y Gaseg ar fap Explorer 256, 264 or 265 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 111 566.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B5105 o Ruthun tuag at Gerrig-y-drudion.

Ar ôl ¼ milltir, gyferbyn â’r eglwys, trowch i’r chwith ar is-ffordd untrac.

Parhewch am ¾ milltir ac mae’r maes parcio ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Bwcle.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf