Mae adroddiadau a chyhoeddiadau a gynhyrchir gan y rhaglen ar gael ar y dudalen hon 

Adroddiadau a chyhoeddiadau

Adroddiad terfynol

Adroddiad cryno

Fframwaith gweithredu blaenoriaethau

Ar ôl LIFE Cynllun Cadwraeth

Cynlluniau Gweithredu Thematig Natura 2000

Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth (PIPs)

Y Prosiect IPENS – Cynlluniau Gwella Safleoedd

Adroddiad Ffeithiau a Ffigurau

Rhestr o Ddata Gofodol ar gyfer Nodweddion

Dull o bennu costau camau ymchwiliol ar gyfer safleoedd Natura 2000 morol yng Nghymru

Cyfrifo gwerthoedd economig y gwasanaethau ecosystemol a ddarperir gan nodweddion a safleoedd Natura 2000 yng Nghymru

Dadansoddiad Penderfyniad yn seiliedig ar Feini Prawf Amryfal ar gyfer Nodweddion Natura 2000 yng Nghymru - Asesu Anghenion Cadwraeth

Nodweddion morol Natura 2000 yn agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd

Costau camau gweithredu ar y tir

Bylchau mewn tystiolaeth yn ymwneud â Natura 2000 yng Nghymru

Ymdrin â Blaenoriaethu

Nodi Nodweddion Dyfrol (yn ddibynnol iawn ar ddŵr) Natura 2000

Asesu ac Ymdrin ag Effeithiau Nitrogen Atmosfferig ar Safleoedd (ANNNIS)

Rhestr o’r gwasanaethau ecosystemau

Ariannu Natura 2000 yng Nghymru

Atebion newydd ar gyfer Natura 2000 yng Nghymru

Mynd i’r afael â heriau ar safleoedd Natura 2000 Cymru

Heriau’n wynebu cynefinoedd a rhywogaethau Natura 2000 Cymru

Adroddiad cychwynnol

Cwestiynau cyffredin

Strategaeth cyfathrebiadau ac adfocatiaeth

Strategaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd a dosbarthu

Adroddiad terfynol

Mae'r Adroddiad Terfynol y Rhaglen Natura 2000 LIFE fel y'i cyflwynwyd i LIFE ar gael i'w lawr lwytho gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Rhaglen Natura 2000 LIFE yng Nghymru - Adroddiad Terfynol (Saesneg yn unig)

Adroddiad cryno

Mae Adroddiad Cryno Rhaglen Natura 2000 LIFE ar gyfer Cymru wedi’i gyhoeddi bellach, a gellir ei lawrlwytho ar ffurf pdf isod. Mae’r adroddiad yn amlygu ac yn crynhoi prif gasgliadau a chanlyniadau’r Rhaglen. Mae gennym gopïau caled ar gael. Os yw eich sefydliad yn dymuno cael copïau, a wnewch chi anfon cais atom trwy e-bost sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Rhaglen Natura 2000 LIFE yng Nghymru - Adroddiad Cryno

Rhaglen Natura 2000 LIFE yng Nghymru - Adroddiad Cryno - fersiwn hawdd i argraffu 

Fframwaith gweithredu blaenoriaethau (2013)

Fe gyflwynwyd yr adran ar Gymru o’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth Natura 2000 sydd wedi'i ddiweddaru i’r Comisiwn Ewropeaidd ar ddechrau mis Mawrth ac fe’i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth yn ddull o gynllunio sy’n pennu sut y mae’r Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd yn bwriadu rheoli eu Safleoedd Natura 2000, a sut mae ariannu’r gweithgareddau rheoli hyn. Hefyd mae’n nodi ‘r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweithredu. Mae canlyniadau Rhaglen Natura 2000 Life yng Nghymru yn sail i’r fersiwn ddiwygiedig o’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth Cymru.

Bydd yr adran ar Gymru o’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth yn ddogfen ffynhonnell a thrysorfa dystiolaeth werthfawr i gynorthwyo gyda rhoi Cynllun Adfer Natur Cymru ar waith. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno diweddariad i’r Fframwaith, sy’n cymryd lle fersiwn cynharach 2013.

Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth Natura 2000

Ar ôl LIFE Cynllun Cadwraeth

Mae’r gwaith dadansoddi a wnaed yn ystod oes y rhaglen Natura 2000 LIFE wedi’i ddefnyddio i lunio adolygiad cynhwysfawr o’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth, sef offeryn cynllunio sy’n pennu sut y mae aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn bwriadu rheoli eu safleoedd Natura 2000 a sut y bydd y gweithgareddau rheoli hyn yn cael eu hariannu. Mae’r Cynllun Cadwraeth ‘After-LIFE’ yn pennu sut y gellir gweithredu a chyflwyno Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth Cymru ar gyfer adfer y safleoedd hyn i gyflwr ffafriol. Mae’n tynnu sylw at gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid allweddol eraill.

Ar ôl LIFE Cynllun Cadwraeth

Cynlluniau Gweithredu Thematig Natura 2000 - Rhaglen N2K LIFE

Mae Rhaglen Natura 2000 LIFE wedi creu 11 Cynllun Gweithredu Thematig, pob un yn ymdrin â chamau gweithredu strategol blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r prif broblemau a’r risgiau a nodwyd fel y rhai sy’n cael effaith andwyol ar nodweddion Natura 2000 ledled y rhwydwaith.

Ewch i tudalen Rhaglen LIFE N2K Cynllun Gweithredu Thematig am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho'r cynlluniau. 

Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth (PIPs)

Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid a Swyddogion Cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall yn well yr heriau y mae safleoedd Natura 2000 yn eu hwynebu yng Nghymru ac maen nhw wedi cynhyrchu Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth ar gyfer holl safleoedd Natura 2000.

Mae Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth yn gynlluniau â blaenoriaeth, wedi'u costio sy'n crynhoi'r gweithredoedd arfaethedig sy'n ofynnol erbyn 2020 er mwyn helpu i wella cyflwr nodweddion cynefin a rhywogaeth dynodedig y safle. Mae gweithredoedd yn mynd i'r afael â materion a risgiau blaenoriaeth uchel a chanolig sy'n atal y nodweddion rhag cyrraedd cyflwr ffafriol. Mae Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth yn ddogfennau byw, sy'n llawn gwybodaeth wedi'u tynnu o Gronfa Ddata Gweithredoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (sy'n dal yr holl weithredoedd dynodedig). Bydd y gronfa ddata yn parhau i gael ei diweddaru gan swyddogion cadwraeth wrth i weithredoedd cyfredol gael eu cwblhau a rhai newydd gael eu hadnabod.

Gallant ofyn am fynediad at Gynlluniau Gwella â Blaenoriaeth. Mae hyn yn gofyn am drwydded data, gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sensitif. Gall defnyddwyr cofrestredig hefyd gael mynediad at y Gronfa Ddata Gweithredoedd trwy Allrwyd Cyfoeth Naturiol Cymru. Os hoffech chi fynediad at y Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth, neu os ydych chi angen adnewyddu'ch enw defnyddiwr a chyfrinair anfonwch e-bost at sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Y Prosiect IPENS – Cynlluniau Gwella Safleoedd

Mae ein chwaer-brosiect yn Lloegr, IPENS (Improvement programme for England’s Natura 2000 sites) wedi cyhoeddi eu Cynlluniau Gwella Safleoedd ar-lein. Mae’r rhain yn nodi’r camau â blaenoriaeth y mae eu hangen i gyflawni a chynnal cyflwr ffafriol o fewn safleoedd.

Cynlluniau Gwella Safleoedd 

Adroddiad Ffeithiau a Ffigurau

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o Natura 2000 yng Nghymru ac yn cynnwys set o ystadegau, gan gynnwys nifer a maint y safleoedd a warchodir, eu lleoliad a chynefinoedd a rhywogaethau dynodedig. Mae hyn yn dangos y cyd-destun lle mae angen gwneud penderfyniadau rheoli allweddol.

Adroddiad ffeithiau a ffigurau

Safleoedd a nodweddion AGA a ACA 

Rhestr o Ddata Gofodol ar gyfer Nodweddion

Nod yr astudiaeth hon yw creu rhestr o ddata gofodol cyfredol o ddosbarthiad nodweddion Natura 2000 mewn ACA a AGA yng Nghymru, sydd ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y rhestr yn clustnodi setiau data ac yn nodi ble maent, y sawl sydd berchen arnynt, eu ffurf, ac yn gwerthuso cwmpas y data, i ba raddau mae pobl yn ymddiried ynddo a’i ansawdd. Mae’r canlyniadau wedi eu crynhoi yn yr adroddiad hwn.

Rhestr o Ddata Gofodol ar gyfer Nodweddion 

Dull o bennu costau camau ymchwiliol ar gyfer safleoedd Natura 2000 morol yng Nghymru

Yn ystod oes y prosiect, tynnodd Rhaglen Natura 2000 LIFE sylw at fwlch mawr yn y dystiolaeth o safbwynt pennu costau materion a chamau risg safleoedd Natura morol. Wrth bennu’r costau ar gyfer camau safleoedd Morol, gwelodd y rhaglen nad oedd unrhyw gostau wedi’u pennu ar gyfer camau ymchwiliol a bod gan hyn y potensial o arwain at amcangyfrif rhy isel yng ngofynion ariannu cyffredinol safleoedd Natura 2000 Morol. Rhoddwyd contract i EcoSol i geisio ymdrin â’r bwlch hwn mewn tystiolaeth, a hynny trwy ddatblygu matrics costio.

Dull o bennu costau camau ymchwiliol ar gyfer safleoedd Natura 2000 morol yng Nghymru 

Cyfrifo gwerthoedd economig y gwasanaethau ecosystemol a ddarperir gan nodweddion a safleoedd Natura 2000 yng Nghymru

Nod Rhaglen LIFE Natura 2000 yw meintioli’r buddion a ddarperir gan nodweddion a safleoedd Natura 2000 (N2K) yng Nghymru i ddangos ei werth i’r economi a chymdeithas. Mae hyn i dynnu sylw at y manteision o gyfeirio mesurau economaidd tuag at wella a chynyddu’r buddion a ddarperir.

Mae’r papur byr yn edrych ar ymarferoldeb o roi gwasanaeth ecosystemau sydd â gwerth ariannol cyflwynwyd gan nodweddion N2K yng Nghymru, ar ffurf ffigurau safonol sy’n caniatáu cymariaethau rhwng safleoedd ac astudiaethau prisio gwasanaethau ecosystem eraill.

Cyfrifo gwerthoedd economig y gwasanaethau ecosystemol a ddarperir gan nodweddion a safleoedd Natura 2000 yng Nghymru 

Dadansoddiad Penderfyniad yn seiliedig ar Feini Prawf Amryfal ar gyfer Nodweddion Natura 2000 yng Nghymru - Asesu Anghenion Cadwraeth

Mae CNC wedi cyfarwyddo ADAS UK Ltd (ADAS) i gynnal Dadansoddiad Penderfyniad Meini Prawf Lluosog (Multi-Criteria Decision Analysis (MCDA) o nodweddion N2K yng Nghymru.

Y diben yn yr achos hwn yw sefydlu, yn y ffordd fwyaf gwrthrychol a gwyddonol bosibl, pa nodweddion sydd â’r anghenion a’r sbardunau mwyaf er mwyn eu rheoli a’u hadfer. Bydd hyn yn erfyn gwerthfawr ar gyfer ymarferwyr a phenderfynwyr i’w helpu i ganfod lle gellir cyfeirio adnoddau prin er mwyn cael yr effaith orau, a pha feysydd gwaith y dylid mynd i’r afael â nhw yn gyntaf.

Dadansoddiad Penderfyniad yn seiliedig ar Feini Prawf Amryfal ar gyfer Nodweddion Natura 2000 yng Nghymru - Asesu Anghenion Cadwraeth 

Nodweddion morol Natura 2000 yn agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd

Mae llawer o waith wedi’i wneud o’r blaen i asesu pa mor fregus yw nodweddion a safleoedd Natura 2000 yng Nghymru i newid hinsawdd. Fodd bynnag, nid oedd y gwaith hwn yn cynnwys nodweddion morol, felly ceid bwlch hollbwysig o ran tystiolaeth yn y maes hwn. Er mwyn gwneud yn iawn am y bwlch hwn trefnwyd gweithdy i ystyried bregusrwydd cynhenid nodweddion morol Natura 2000 yn wyneb newid hinsawdd. Bydd yr asesiad hwn yn rhoi sgôr bregusrwydd fras ar gyfer y nodweddion ar lefel Cymru gyfan, gan ei gwneud yn bosibl inni werthuso risg perthynol newid hinsawdd i nodweddion Natura 2000 hollbwysig.

Nodweddion morol Natura 2000 yn agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd

Nodweddion morol Natura 2000 yn agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd - dadansoddiad 

Costau camau gweithredu ar y tir

Mae cyfres o gamau gweithredu manwl â blaenoriaeth wedi’u datblygu ar gyfer holl safleoedd Natura 2000 yng Nghymru a cyn belled ag y bo modd, mae costau tybiedig wedi’u pennu ar gyfer camau gweithredu unigol. Dyma’r tro cyntaf i gamau gweithredu ar gyfer safleoedd Natura 2000 gael eu costio mewn ffordd systematig ar draws y gyfres. Mae’r papur hwn yn amlinellu’r dull a ddefnyddiwyd i bennu’r costau yn amgylchedd y tir.

Costau camau gweithredu ar y tir 

Bylchau mewn tystiolaeth yn ymwneud â Natura 2000 yng Nghymru

Yn ystod Rhaglen LIFE Natura 2000 Cymru, darganfuwyd bylchau mewn tystiolaeth yn ymwneud â rheoli safleoedd Natura 2000. Casglwyd awgrymiadau yn nigwyddiadau cychwynnol y prosiect, yn ystod gweithdai gyda rhanddeiliaid ac yn ystod cyfweliadau gydag arbenigwyr rhywogaethau a chynefinoedd a Swyddogion Cadwraeth CNC. Cafodd yr holl gynigion eu gwerthuso, a chafodd y bylchau hynny y gellid ymdrin â hwy fel rhan o waith y prosiect neu y gellid eu hymgorffori fel rhan o Gynlluniau Gwella â Blaenoriaeth neu’r Cynllun Cadwraeth After-LIFE eu pennu. Dangosir y bylchau a erys yn y ddogfen hon. Mae’r rhestr wedi’i chyflwyno i Brosiect Bylchau mewn Tystiolaeth Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Bylchau mewn Tystiolaeth yn ymwneud â Natura 2000 yng Nghymru 

Ymdrin â Blaenoriaethu

Fel rhan o’r dasg o ddatblygu dull strategol o reoli ac adfer safleoedd Natura 2000 yng Nghymru, mae’n ofynnol i Raglen Natura 2000 LIFE sefydlu gweithdrefn ar gyfer blaenoriaethu camau gweithredu.

Mae blaenoriaethu’n sicrhau y caiff yr adnoddau cyfyngedig eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol lle y mae eu hangen fwyaf. Mae’n caniatáu i gamau gweithredu gael eu targedu at y materion a’r risgiau hynny sy’n cael yr effaith fwyaf niweidiol ar gyflwr ffafriol. Ymhellach, mae’n atal adnoddau rhag cael eu taenu’n rhy denau ac mewn modd anghyfartal nes cyflawni fawr ddim.

Bydd camau gweithredu a gaiff eu pennu fel blaenoriaeth yn cael adnoddau yn gynharach na’r rheini nad ydynt yn flaenoriaeth. O’r herwydd, gellir ystyried y blaenoriaethu hwn fel ffordd o fynegi ‘brys’.

Mae’r ddogfen hon yn pennu’r dull a ddefnyddiodd Rhaglen Natura 2000 LIFE i ddatblygu fframwaith â blaenoriaeth ar gyfer Natura 2000 yng Nghymru.

Ymdrin â Blaenoriaethu 

Nodi Nodweddion Dyfrol (yn ddibynnol iawn ar ddŵr) Natura 2000 

Nodi Nodweddion Dyfrol (yn ddibynnol iawn ar ddŵr) Natura 2000 

Asesu ac Ymdrin ag Effeithiau Nitrogen Atmosfferig ar Safleoedd (ANNNIS)

Nod y gwaith hwn yw cynorthwyo i ddatblygu dull i fynd i'r afael ag effaith dyddodiad nitrogen ar safleoedd Natura 2000 yng Nghymru; mater y tynnwyd sylw ato gan y rhaglen.

Adroddiad AAANIS

AAANIS Atodiad 1

AAANIS Atodiad 2

Rhestr o’r gwasanaethau ecosystemau

Teclyn yw’r Rhestr Gwasanaethau Ecosystemau Natura 2000, i helpu ymarferwyr nodi’r gwasanaethau ecosystemau sy’n cael eu darpau gan nodweddion rhywogaethau a chynefinoedd penodol Natura 2000 ac sy’n sail ar gyfer datblygu’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer safleoedd. Y bwriad yw y bydd yn cynnwys gwybodaeth gwaelodlin y gellir ychwanegu ato pan geir rhagor o wybodaeth. Mae’r adroddiad yn disgrifio’r dulliau o ddatblygu Rhestr Ecosystemau a chrynodeb o’r canlyniadau.

Adroddiad gwasanaethau ecosystemau (yn cynnwys crynodeb gweithredol yn Gymraeg)

Rhestr o’r gwasanaethau ecosystemau

Ariannu Natura 2000 yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio opsiynau ariannu presennol Natura 2000 yng Nghymru ac opsiynau posib i’r dyfodol. Mae’n gweithredu fel rhyw fath o ‘fap ariannu’ ac adnodd sy’n cyfleu potensial gwahanol fathau o ariannu i fynd i’r afael â’r camau rheoli disgwyliedig, ac yn nodi’r mecanweithiau y gellir eu defnyddio i roi’r camau hynny ar waith. Mae felly yn ceisio darparu opsiynau i amrywio’r ffynonellau ariannu er mwyn ymdrin â bwlch ariannu disgwyliedig Natura 2000 Cymru. Mae’n gam pwysig i alluogi arfarniad eang ei gwmpas o opsiynau ariannu fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth, unwaith y bydd anghenion cadwraeth a rheolaeth Natura 2000 yng Nghymru wedi cael eu dwyn ynghyd a’u sefydlu ar eu gwedd derfynol.

Ariannu Natura 2000 yng Nghymru (yn cynnwys crynodeb gweithredol yn Gymraeg)

Ariannu Natura 2000 yng Nghymru - Rhestr eiddo

Atebion newydd ar gyfer Natura 2000 yng Nghymru

Er mwyn dechrau cyflwyno ac ymchwilio i arddulliau ac atebion newydd ar gyfer mynd i’r afael yn well â’r heriau sy’n wynebu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Cymru, cynhaliodd Rhaglen Natura 2000 LIFE astudiaeth clustnodi a chloriannu amryw ddulliau newydd dichonol. Bu i’r dulliau astudio gynnwys adolygiad llenyddiaeth a gweithdai technegol er mwyn dwyn i mewn amryw fuddiolwyr, a thynnu ar eu gwybodaeth a’u profiad. Ceir y canlyniadau yn yr adroddiad hwn ac yn y “Rhestr dulliau ac arddulliau newydd” atodedig.

Rhestr dulliau ac arddulliau Newydd

Mynd i’r afael â heriau ar safleoedd Natura 2000 Cymru

Yn 2013, ymchwiliodd rhaglen Natura 2000 LIFE Cymru i’r dulliau rheoli a ddefnyddir ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r pwysau ar rywogaethau a chynefinoedd Natura 2000. Ategwyd yr astudiaeth gan sawl achlysur ymgynghori, pryd y gofynnwyd i fuddiolwyr wneud sylwadau ynghylch addasrwydd y dulliau, a rhoi gwybod am rai ychwanegol. Ceir y canlyniadau yn yr adroddiad hwn, ac yn y “Rhestr dulliau rheoli presennol” atodedig.

Mynd i’r afael â heriau ar safleoedd Natura 2000 Cymru

Rhestr dulliau rheoli presennol 

Heriau’n wynebu cynefinoedd a rhywogaethau Natura 2000 Cymru

Yn 2013, ymchwiliodd Rhaglen Natura 2000 LIFE Cymru er mwyn clustnodi’r problemau a’r peryglon sy’n effeithio ar nodweddion rhywogaethau a chynefinoedd Natura 2000 presennol. Canlynwyd yr ymchwil gan gyfres o achlysuron buddiolwyr a gynhaliwyd ledled Cymru. Yn yr achlysuron hyn, cyflwynwyd dull a chanlyniadau’r dadansoddi problemau a pheryglon, a gofynnwyd i gynrychiolwyr gyfrannu gwybodaeth, arbenigedd a barn. Ceir y canlyniadau yn yr adroddiad hwn.

Heriau’n wynebu cynefinoedd a rhywogaethau Natura 2000 Cymru 

Adroddiad cychwynnol

Fis Chwefror 2013, cynhaliwyd dau ddigwyddiad cychwynnol i gyflwyno nodau ac amcanion Rhaglen LIFE Natura 2000 i randdeiliaid a sefydliadau partner. Yn ogystal â dysgu am y rhaglen, cymerodd y rhai oedd yn bresennol ran mewn gweithdai ar ariannu a blaenoriaethau Natura 2000 yng Nghymru a chyfrannu hefyd at nodi bylchau mewn tystiolaeth.

Adroddiad cychwynnol

Adroddiad cychwynnol - atodiadau

Cwestiynau cyffredin

Beth yw Natura 2000? Pam y mae Natura 2000 yn bwysig? Beth yw Rhaglen Natura 2000 LIFE a beth yw pwrpas y prosiect? Ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau hyn a mwy yn y ddogfen isod.

Cwestiynau Cyffredin 

Strategaeth cyfathrebiadau ac adfocatiaeth

Mae’r strategaeth cyfathrebu ac adfocatiaeth yn darparu fframwaith a sail resymol, gyffredinol, ar gyfer holl waith y prosiect sy'n cynnwys cysylltu a chyfathrebu ddwy ffordd gyda rhanddeiliaid. Mae hefyd yn cynnwys manylion gwaith penodol a sut y bydd yn cael ei gynnal.

Strategaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd a dosbarthu

Mae strategaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd a dosbarthu’n allbwn gofynnol Rhaglen LIFE N2K a phob prosiect natur LIFE+. Mae’r strategaeth hon yn rhoi fframwaith a rhesymeg i holl waith cyhoeddusrwydd a chyfathrebu'r tȋm prosiect, yn ogystal â manylion yr hyn sydd raid ei wneud a sut y dylid gwneud hynny.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf