Newyddion Diweddaraf - Rhaglen N2K LIFE

Newyddion Diweddaraf

Mawrth 2016 - Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth Natura 2000 

Fe gyflwynwyd yr adran ar Gymru  o’r  Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth Natura 2000 sydd wedi'i ddiweddaru i’r Comisiwn Ewropeaidd ar ddechrau mis Mawrth ac  fe’i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth yn ddull o gynllunio sy’n pennu sut y mae’r Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd yn bwriadu rheoli eu Safleoedd Natura 2000,  a sut mae ariannu’r gweithgareddau rheoli hyn. Hefyd mae’n nodi ‘r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweithredu. Mae canlyniadau  Rhaglen Natura 2000 Life yng Nghymru yn sail i’r fersiwn  ddiwygiedig o’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth Cymru.

Bydd yr adran ar Gymru o’r Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth yn  ddogfen ffynhonnell a thrysorfa dystiolaeth werthfawr i gynorthwyo gyda rhoi Cynllun Adfer Natur Cymru ar waith.  Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i  gyflwyno diweddariad i’r Fframwaith,  sy’n cymryd lle fersiwn cynharach 2013.

Fframwaith Gweithredu â Blaenoriaeth Natura 2000

Chewfror 2016 - Bwletin Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru

Ymddangosodd y Rhaglen yn rhifyn mis Chwefror Bwletin Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Mae’r erthygl yn cynnwys cyhoeddi Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth ar gyfer pob safle Natura 2000 yng Nghymru a hefyd mae’n tynnu sylw at greu Cynlluniau Gweithredu Thematig ar gyfer ymdrin â’r sialensiau hollbwysig sy’n effeithio ar safleoedd Natura 2000 ledled Cymru, a’r cynllun ‘After-LIFE’. Ymhellach, mae’r erthygl yn disgrifio’r Cynllun Gwella â Blaenoriaeth ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Fenn’s Whixhall, Wem & Cadney Mosses ger Wrecsam, gogledd Cymru.

Bwletin Adnoddau Naturiol – Chwefror 2016

Chwefror 2016 - Rhaglen Natura 2000 LIFE ar wefan y JNCC

Mae Rhaglen Natura LIFE ar gyfer Cymru yn ymddangos ar wefan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC). Y JNCC yw’r corff cyhoeddus sy’n cynghori Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig ynghylch cadwraeth natur o fewn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r we-dudalen yn nodi canlyniadau a llwyddiannau’r prosiect.

JNCC

Ionawr 2016 – cyhoeddi’r 6ed cylchlythyr

Cwblhawyd Rhaglen Natura 2000 LIFE fis Medi 2015, ond mae’r sialens yn parhau! Mae ein cylchlythyr olaf yn nodi canlyniadau hollbwysig y prosiect, ac mae’n cynnwys newyddion am sut y gallwch gael gafael ar Gynlluniau Gweithredu Thematig, Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth ac adroddiadau eraill. Ymhellach, mae’n cynnwys gwybodaeth am y cynllun “After-LIFE”, ynghyd â’r ffilmiau byr a gynhyrchwyd gan y prosiect. Gellir lawrlwytho’r cylchlythyr trwy ddefnyddio’r ddolen isod.

Cylchlythyr 6 Natura 2000 LIFE – Ionawr 2016

Cyfrif Twitter

Oeddech chi’n gwybod bod gan Raglen Natura 2000 LIFE gyfrif Twitter? Gallwch ddilyn y prosiect ar @LNatura2000. Mae gennym dudalen facebook hefyd. Dilynwch ni i gael y newyddion diweddaraf am y Rhaglen a Natura 2000 yng Nghymru.

Ionawr 2016 – Cyhoeddi Erthyglau

Mae’r Rhaglen wedi cyhoeddi erthyglau yn “Natur Cymru”, “Biodiversity News” ac yng nghylchlythyrau “Living Waters for Wales" a “Cyfoeth”, gan nodi ein casgliadau hollbwysig – gan gynnwys y gost o ymdrin â’r sialensiau ar ein 112 o safleoedd Natura, a chyhoeddi Cynlluniau Gwella â Blaenoriaeth ar gyfer pob safle Natura 2000 yng Nghymru. Mae’r erthyglau hefyd yn tynnu sylw at greu Cynlluniau Gweithredu Thematig i ymdrin â’r sialensiau hollbwysig sy’n effeithio ar safleoedd Natura 2000 ar draws Cymru, a’r cynllun “After-LIFE” sy’n disgrifio sut y bydd y camau gweithredu’n cael eu cyflawni.

Erthygl Natur Cymru (pdf)

Natura 2000 yng Nghymru – rhyddhau ffilmiau byrion

Erbyn hyn gellir gweld rhai o drysorau naturiol Cymru gyda chlic ar y llygoden. Fel rhan o’r rhaglen, rydym wedi creu cyfres o 11 o ffilmiau, gyda phob un yn canolbwyntio ar rywogaeth neu gynefin Natura 2000 gwahanol. Mae’r pynciau yn cynnwys twyni tywod deinamig, gwlyptiroedd tra diddorol ac ucheldiroedd ysblennydd yn ogystal â britheg y gors, ystlumod a madfallod dŵr cribog. Mae pob ffilm hefyd yn rhoi sylwi i fanteision eraill sy’n deillio o’n hamgylchedd naturiol, megis cyfleoedd hamdden, incwm o’r diwydiant ymwelwyr, amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli llygredd. Maent yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ardaloedd gwarchodedig Cymru – Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

Fflimiau Natura 2000

Fflimiau Natura 2000 (YouTube)

Awst 2015 - 5ed cylchlythyr wedi’i gyhoeddi

Mae ein pumed cylchlythyr wedi ei gyhoeddi a’i ddosbarthu i’n rhanddeiliaid. Mae’r cylchlythyr yn cynnwys newyddion ar cynlluniau gweithredu thematig, adroddiadau newydd a’n gweithdai yn mis Awst. Gellir lawrlwytho’r cylchlythyr isod, ond os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, cysylltwch â sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Cylchlythyr 5 Rhaglen Natura 2000 LIFE

Awst 2015 - Digwyddiadau Canlyniadau

Gan ein bod bellach yn agosáu at ddiwedd y prosiect, hoffem rannu ein canfyddiadau drafft â rhanddeiliaid â budd i gael eu sylwadau a'u hadborth.

Hoffem ofyn am eich adborth mewn perthynas â chanlyniadau allweddol canlynol y prosiect a’i rannu:  

  • Canlyniadau cyfunol y Cynlluniau Gwella Blaenoriaethol ar gyfer bob un o’r 112 safle
  • Camau gweithredu ar gyfer 12 o faterion a risgiau thematig (gweler isod)
  • Camau gweithredu strategol ar gyfer materion trawsbynciol
  • Blaenoriaethau ledled Cymru
  • Fframwaith Gweithredu Blaenoriaethol

Yr materion a risgiau thematig (h.y. y rhai sy’n cael effaith mawr ar draws y rhwydwaith Natura 2000) yw:

  • Effeithiau mynediad a hamdden
  • Llygredd aer
  • Newid yn yr hinsawdd
  • Llygredd Dŵr Gwasgaredig
  • Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol
  • Rheoli pori a da byw
  • Rhywogaethau ymledol a phathogenau
  • Newidiadau a wnaed gan ddyn i’r amodau hydrolig
  • Sbwriel morol
  • Pysgodfeydd Môr
  • Rheoli coetir yn  anaddas neu’n annigonol
  • Darnio cynefin

Rydym yn trefnu dau weithdy.

  • 19eg o Awst yn swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru , Maes y Ffynnon, Bangor
  • 25ain o Awst yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tydfil

Os hoffech ddod i unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, a fyddech mor garedig â danfon ateb atom drwy e-bost i sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan nodi pa weithdy yr hoffech ei fynychu, a hynny erbyn y 31ain o Orffennaf. Sylwer fod lleoedd yn brin, felly trafodwch gyda’ch cydweithwyr i weld pwy fyddai’r person fwyaf addas i gynrychioli eich sefydliad. Byddwn yn cadarnhau eich lle yn ystod yr wythnos yn dilyn y 31 Gorffennaf.

Am fwy o wybodaeth ewch i’n tudalennau gwe http://cyfoethnaturiolcymru/about-us/our-projects/life-n2k-wales neu am newyddion diweddaraf rheolaidd ewch i’n tudalen facebook : www.facebook.com/LIFEN2K

Ebrill 2015 - Gweithdy thematig wlyptiroedd

Ar yr 22fed o mis Ebrill chynhaliodd ni weithdy thematig wlyptiroedd o dan arweiniad ein cydlynydd dwr croyw a gwlyptiroedd Theresa Kudelska, a rheolwr rhaglen Kathryn Hewitt. Nod y gweithdy thematig Rhaglen LIFE N2K oedd clustnodi camau gweithredu strategol cyfredol a rhai newydd ar gyfer nodweddion ACA gwlyptiroedd ledled Cymru a thrafod syniadau ar gyfer prosiectau posibl. Y gobaith yw y bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i fwrw goleuni ar y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â phrosiectau a mentrau i’r dyfodol.

Mawrth 2015 – Gweithdy thematig coetiroedd

Cynhaliodd Rhaglen Natura 2000 LIFE weithdy yn Aberystwyth i drafod y gwaith strategol sydd ei angen, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, i dalu sylw i’r problemau allweddol sy’n effeithio nid yn unig ar ein safleoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig mewn coetiroedd ond hefyd ar safleoedd Natura 2000 eraill sy'n cael eu heffeithio gan weithgareddau coedwigaeth a'n hadnoddau coetiroedd yn eu cyfanrwydd yng Nghymru.

Bydd canlyniadau’r gweithdy thematig yn cael eu defnyddio wrth baratoi'r cynllun gweithredu thematig a fydd yn:

  1. Canolbwyntio ar y gwaith strategol sydd ei angen i dalu sylw i broblemau rheoli coetiroedd ar gyfer cyfres Natura 2000 yng Nghymru
  2. Cynnwys amrywiaeth i o weithgareddau, gan gynnwys rhai ymarferol yn y maes ar ffurf prosiectau posibl, datblygu trefniadau newydd, newidiadau arfaethedig i bolisïau a deddfwriaeth, newidiadau a gynigir i gynlluniau grant, mentrau marchnata ayb
  3. Talu sylw, lle bo’n addas, i faterion ehangach a gwaith yn y tymor hir e.e. hyd at 2050
  4. Cynnwys a chyfuno, lle bo’n addas, waith arall perthnasol sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gyda chynigion yn codi o gynlluniau, polisïau a strategaethau eraill
  5. Lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, cael cymaint o fuddion ac y gellir eu cael o wasanaethau yn ôl ecosystemau a buddion cymdeithasol ac economaidd eraill ynghyd â gwella nodweddion N2K

Chwefror 2015 – Gweithdy thematig afonydd

Fis Chwefror 2015, cynhaliodd y Rhaglen Natura 2000 LIFE weithdy cynllun gweithredu thematig Afonydd yn Aberystwyth. Diben y gweithdy oedd nodi a chadarnhau blaenoriaethau ar gyfer problemau, gweithredu ar risgiau a gweithrediadau strategol ar gyfer afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ledled Cymru. Gobeithir y bydd yr wybodaeth o help wrth benderfynu ynghylch prosiectau a mentrau yn y dyfodol.

Prif nodau’r gweithdy oedd:

  • Adolygu / canfod y prif broblemau / risgiau sy’n effeithio ar bob afon Ardal Cadwraeth Arbennig
  • Adolygu blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gwaith ar gyfer pob afon Ardal Cadwraeth Arbennig
  • Penderfynu pa waith strategol sydd i’w gynnwys yng Nghynlluniau Thematig Rhaglen N2K LIFE

Bydd canlyniadau’r gweithdy o help gyda'r cynlluniau gweithredu thematig sy'n ganlyniad pwysig i raglen N2K LIFE ac a fydd yn trafod sut y gellir taclo problemau/risgiau strategol ledled Cymru. Bydd hyn yn defnyddio gwybodaeth wedi’i gasglu ar draws safleoedd a bydd yn ceisio dangos unrhyw fylchau a chyflwyno argymhellion ynghylch y dulliau rheoli sydd ar gael i dalu sylw i broblemau strategol.

Chwefror 2015 – Aelodau newydd o’r tîm

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi croesawu dau aelod newydd i Dîm Natura 2000 LIFE.   Ymunodd Jan Verbeek â ni fel swyddog data fis Rhagfyr ac chymerodd Helen Bloomfield le Jennifer Kelly fel cydlyndd morol fis Chwefror 2015.

Rhagfyr 2014 - Pedwerydd cylchlythyr wedi’i gyhoeddi

Mae ein pedwerydd cylchlythyr wedi ei gyhoeddi a’i ddosbarthu i’n rhanddeiliaid. Mae’r cylchlythyr yn cynnwys newyddion ar estyn ein prosiect, prosesau ymgynghori a’n gweithdai cynllun gweithredu thematig nesaf. Gellir lawrlwytho’r cylchlythyr isod, ond os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, cysylltwch â sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Cylchlythyr 4 Rhaglen Natura 2000 LIFE - Rhagfyr 2014

Rhagfyr 2014 – Tudalen facebook ar gael

Mae gan Raglen Natura 2000 LIFE dudalen facebook erbyn hyn. Bydd ein tudalen facebook newydd yn ein galluogi i roi’r diweddaraf i’n rhanddeiliaid ynghylch digwyddiadau a newyddion am brosiectau, a hefyd bydd yn ein helpu i roi gwybod i’r cyhoedd yn gyffredinol am bwysigrwydd rhwydwaith Natura 2000. Mae’r ddolen gyswllt ar gyfer ein tudalen facebook i’w gweld isod.

www.facebook.com/LIFEN2K

Tachwedd 2014 – Estyn y prosiect

Mae Uned LIFE y Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau y bydd Rhaglen Natura 2000 LIFE yn cael ei hestyn hyd fis Medi 2015. Roedd i fod i orffen ym mis Rhagfyr 2014 yn wreiddiol, a bydd yr estyniad yn caniatáu i’r rhaglen gwblhau’r holl ganlyniadau gofynnol, cyflawni proses ymgysylltu gynhwysfawr a diweddaru’r Fframwaith Gweithredu Blaenoriaethau cyn y dyddiad gorffen.

Tachwedd 2014 – Fframwaith gweithredu blaenoriaethau

Mae’r fframwaith yn offeryn cynllunio, sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, ac sy’n nodi sut mae aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd yn bwriadu rheoli eu safleoedd Natura 2000 i sicrhau bod y nodweddion mewn cyflwr ffafriol.

Cynhyrchwyd fersiwn gyntaf Fframwaith y Deyrnas Unedig yn 2013.   Gofynodd yr uned LIFE am i elfen Cymru o fersiwn nesaf y Fframwaith gael ei chwblhau fel rhan o ganlyniadau Rhaglen Natura 2000 LIFE.  Cynhyrchwyd yr fersiwn newydd yn 2016 ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Fframwaith gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer safleoedd Natura 2000

Medi 2014 – Ymweliad gan LIFE

Ar ddiwrnod heulog, braf ym Medi, bu inni groesawu’r swyddogion desg dechnegol ac ariannol o Uned LIFE y Comisiwn Ewropeaidd. Wedi trafodaeth fanwl am hynt y prosiect, aethom ar ymweliad safle i’r Rhaeadr Fawr, sy’n Ardal Gadwraeth Arbennig ddynodedig. Aeth Hywel Roberts, uwch-reolwr gwarchodfeydd, â ni ar daith ddiddorol, ac esboniodd inni amryw broblemau cadwraeth y safle, a’r gwaith y mae angen ei wneud er mwyn mynd i’r afael â nhw.

Medi 2014 - Erthygl Farming Wales

Yn rhifyn mis Medi o’r “Amaethwr/Farming Wales”, cylchgrawn chwarterol Undeb Genedlaethol yr Amaethwyr, cyhoeddodd raglen LIFE Natura 2000 erthygl o’r enw “Valuing the Natural Wealth of Wales”.  Roedd yr erthygl yn canolbwyntio ar Eryri, Ardal Cadwraeth Arbennig a’i chynefin hynod amrywiol.  Roedd yr erthygl yn tanlinellu pwysigrwydd gweithio gyda ffermwyr i helpu i reoli cynefinoedd yr ucheldir. Gellir lawrlwytho’r erthygl isod.

Erthygl "Amaethwr / Farming Wales"

Awst 2014 – Aelodau newydd y tîm

Yn ddiweddar croesawyd 2 aelod newydd i Dîm LIFE Natura 2000: Suzanne Hearn sydd wedi ei recriwtio fel Swyddog Data ac Andrew Jeffery sydd wedi ymuno â ni fel Cydgysylltydd Rhaglen.

Gorffennaf 2014 – Sioe Frenhinol Cymru

Ar 21 Mehefin, cynhaliodd y Rhaglen Natura 2000 LIFE digwyddiad yn Sioe Frenhinol Cymru o'r enw "Gynllunio dyfodol gwych i'n safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd". Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad gan Emyr Roberts, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru a sgwrs gan Kathryn Hewitt, Rheolwr Rhaglen N2K LIFE a Dewi Jones o Cyswllt Cymru.

Mehefin 2014 – Trydydd cylchlythyr wedi’i gyhoeddi

Mae ein trydydd cylchlythyr wedi ei gyhoeddi a’i ddosbarthu i’n rhanddeiliaid. Mae’r cylchlythyr yn cynnwys diweddariadau ar ein cynnydd gyda golwg ar ein Cynlluniau Gwella Blaenoriaethol a’n Cynlluniau Gweithredu â Thema. Gellir lawrlwytho’r cylchlythyr isod, ond os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, cysylltwch â sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Cylchlythyr 3 Rhaglen Natura 2000 LIFE - Mehefin 2014

Mai 2014 – Diwrnod Natura 2000

Mynegodd gweithwyr swyddfa Maes y Ffynnon Cyfoeth Naturiol Cymru eu cefnogaeth i ddiwrnod Natura 2000 trwy “chwifio eu hadennydd glöyn byw” ar yr 21ain o Fai. Sef, yn sylfaenol, plethu eu bodiau ynghyd a chwifio’u bysedd!

Yr 21ain o Fai yw penblwydd y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Y Gyfarwyddeb hon, a’r Gyfarwyddeb Adar, yw sylfaen y Rhwydwaith Natura 2000.

Er gwaethaf 20 mlynedd ei fodolaeth a’i bwysigrwydd ecolegol, cymdeithasol ac economaidd, nid yw’r rhwydwaith Natura 2000 yn adnabyddus iawn. Amcan Natura 2000 yw cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynefinoedd a rhywogaethau Natura 2000.

Yr amcan yw i bob unigolyn, corff neu sefydliad ddangos arwydd o ymwybyddiaeth gymdeithasol o blaid cadwraeth yr ecosystem naturiol a’r adar sy’n ei phreswylio. Pob blwyddyn, bydd yr arwyddion yn cyfrannu at gadwraeth safle Natura 2000 neilltuol yn Ewrop.

Hydref 2013 - Erthygl Natur Cymru

Ym mis Medi 2013, cyhoeddwyd erthygl yn chwarterolyn Natur Cymru am raglen LIFE Natura 2000. Roedd yr erthygl, sef “Giving nature a hand : Natura 2000 species and habitats” yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed gan y tîm o ran clustnodi’r problemau a’r peryglon cyfredol sy’n wynebu rhywogaethau a chynefinoedd Natura 2000 ac yn rhoi trosolwg i’r darllenwyr o’r gwaith arfaethedig gyda golwg ar ddatblygu Cynlluniau Gwella Blaenoriaethol.

Gallwch lawrlwytho’r erthygl isod neu gallwch fynd i wefan Natur Cymru i gael rhagor o newyddion am fioamrywiaeth yng Nghymru.

Erthygl Natur Cymru

Medi 2013 - Cyhoeddi ail daflen newyddion y prosiect

Medi 2013 - Cyhoeddi Ail Daflen Newyddion y Prosiect Cafodd ein hail daflen newyddion ei chyhoeddi ac mae wedi’i e-bostio i bob un o’n rhanddeiliaid. Os nad ydych wedi derbyn ein taflen newyddion ac os hoffech glywed y newyddion diweddaraf am Raglen LIFE Natura 2000, cysylltwch â Hayley MacDonald-Jones i gael eich enw ar y rhestr bostio, e-bost: sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Cylchlythyr 2 Rhaglen Natura 2000 LIFE - Medi 2013

Medi 2013 - Cynhadledd mannau arbennig Ewrop

Ar 26 a 27 Medi, bydd Prosiect “Strengthening the uptake of EU Funds for Natura 2000”, sy’n cael ei redeg gan WWF Germany, yn cynnal cynhadledd ddau ddiwrnod yng Nghaerdydd ar ‘Ariannu Natura 2000’. Bydd tȋm rhaglen LIFE Natura 2000 yno a bydd yn rhedeg gweithdy ar ddulliau newydd a gwahanol o ariannu safleoedd Natura 2000.

European Commission - Financing Natura 2000

Cynhadledd partneriaeth bioamrywiaeth Cymru

Dewch i gyfarfod â’r tȋm yng Nghynhadledd partneriaeth bioamrywiaeth Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 18 a 19 Medi. Bydd Kathryn Hewitt, ein Rheolwr Rhaglen yn rhoi sgwrs a byddwn hefyd yn rhedeg gweithdy i drafod dulliau newydd o reoli safleoedd Natura 2000.

Ymwelwch â gwefan partneriaeth bioamrywiaeth Cymru i gael ffurflen archebu ar gyfer cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Cynhadledd partneriaeth bioamrywiaeth

Gorffennaf 2013 - Biodiversity News

Yn rhifyn yr haf o Biodiversity News, cyhoeddodd Rhaglen LIFE N2K ddarn byr oedd yn rhoi sylw i’r gweithdai a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2013, i glustnodi’r problemau a’r peryglon cyfredol sy’n effeithio ar safleoedd a rhywogaethau Natura 2000. Cyhoeddir 'Biodiversity News' bedair gwaith y flwyddyn gan Defra. Mae’n cynnwys newyddion, diweddariadau, erthyglau nodwedd, ac erthyglau lleol a rhanbarthol sy’n berthnasol i fioamrywiaeth a Fframwaith Bioamrywiaeth y DU, yn ogystal â manylion cyhoeddiadau perthnasol a digwyddiadau a gynhelir yn fuan.

Gellir gweld rhifyn yr haf o Biodiversity News isod, a gellir gweld rhifynnau eraill ar wefan Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).

Biodiversity news

Mehefin 2013 – Gweithdy technegol

“Problemau a Pheryglon i safleoedd a Nodweddion Natura yng Nghymru a’r dulliau rheoli a ddefnyddir i’w hateb”

Cynhaliwyd cyfres o weithdai fis Mehefin 2013 mewn pedwar man ledled Cymru gan ddenu 77 o gynrychiolwyr o wahanol grwpiau o randdeiliaid yno. Trafodwyd pa broblemau a pheryglon oedd fwyaf blaenllaw a thrafodwyd hefyd addasrwydd y dulliau rheoli. Gofynnwyd i’r rhai oedd yn bresennol gyflwyno tystiolaeth o fylchau y gallai’r prosiect eu llenwi.

Mai 2013 – Cyhoeddi taflen newyddion cyntaf y prosiect

Cafodd ein taflen newyddion cyntaf ei chyhoeddi ac mae wedi’i e-bostio i bob un o’n rhanddeiliaid. Os nad ydych wedi derbyn ein taflen newyddion ac os hoffech glywed y newyddion diweddaraf am Raglen LIFE Natura 2000, cysylltwch â Hayley MacDonald-Jones i gael eich enw ar y rhestr bostio, e-bost: sitesactions@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

LIFE Cylchlythyr 1 - Mai 2013

Ebrill 2013 – Newid i Gyfoeth Naturiol Cymru

O 1 Ebrill 2013, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n disodli’r Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Ni fydd y newid enw’n effeithio llawer ar waith Rhaglen LIFE Natura 2000. Fodd bynnag, bydd yn galluogi cydweithwyr o’r cyrff blaenorol a oedd â rhan yn rheolaeth Natura 2000 i weithio’n agosach.

Chwefror 2013 – Lansio’r prosiect

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad cychwynnol fis Chwefror 2013, un ym Mangor ac un ger Merthyr Tudful, i gyflwyno rhanddeiliaid i Raglen LIFE Natura 2000 ac i’w hannog i gymryd rhan. Daeth 87 o gynrychiolwyr o amrywiaeth eang o randdeiliaid a sefydliadau i’r digwyddiadau. Cafodd y cynrychiolwyr drosolwg o nodau a manteision y rhaglen ac amlinelliad o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yn ystod y misoedd i ddod. Cyflwynodd y cynrychiolwyr wybodaeth werthfawr ar weithdai ynghylch:

  • Blaenoriaethau i Natura 2000 yng Nghymru
  • Ariannu Natura 2000 yng Nghymru

Cefnogir gan LIFE, offeryn ariannol o eiddo'r Gymuned Ewropeaidd: N2K Cymru, LIFE 11 NAT/UK/385

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf