Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
O brosesau naturiol i ymyrraeth gan bobl, mae yna lawer o weithgareddau sy’n effeithio ar ansawdd dŵr mewn ffordd gadarnhaol a negyddol yng Nghymru. Yma fe gewch adnodau i egluro sut mae achosion o lygredd yn digwydd a sut maen nhw’n effeithio ar yr amgylchedd naturiol ac ar bobl.
Gall llygredd achosi effeithiau andwyol helaeth i amgylchedd naturiol Cymru. Er y gall digwyddiadau o lygredd fod yn gymharol fach yn unigol, gyda’i gilydd gallant effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd naturiol ac ar bobl.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn galluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd sy’n cael eu disgrifio ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Mae dolenni i’r Cwricwlwm wedi’u cynnwys yn y dogfennau a bydd yr holl weithgareddau yn eich helpu i gyflawni nifer o agweddau o’r sgiliau trawsgwricwlaidd o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Gall dŵr yfed ac ymdrochi o ansawdd gwael beryglu iechyd dynol ac ecosystemau. Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn diffinio ansawdd dŵr a sut caiff ei reoli a’i reoleiddio.
Nodyn gwybodaeth - Ansawdd dŵr
O garthion amrwd i wastraff amaethyddol, os na chânt eu rheoli a’u storio yn gywir, gall y llygryddion hyn lygru ein dyfrffyrdd a chael effaith negyddol ar fywyd gwyllt ac ansawdd dŵr.
Darganfyddwch pa un yw’r llygrydd gwaethaf a chrëwch eich enghreifftiau ffug eich hunain gyda’n cynllun gweithgaredd a’n cardiau adnoddau.
Cynllun gweithgaredd – Llygryddion lletchwith
Cardiau adnoddau – Llygryddion lletchwith
Ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng eich elifion bragu a’ch elifion silwair? (mae pechaduriaid llygru eraill ar gael). Rydym wedi dyfeisio gêm i’ch sbarduno ac i’ch helpu i ddysgu’r eirfa.
Cynllun gweithgaredd - Gêm geirfa llygryddion lletchwith
Cardiau adnoddau - Gêm geirfa llygryddion lletchwith
Mae ocsigen wedi ei doddi yn ffordd o fesur faint o ocsigen sydd wedi ei doddi mewn dŵr. Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn archwilio pam ei fod yn bwysig, sut mae’n mynd mewn i ddŵr ac yn archwilio pa ffactorau all ddylanwadu ar lefelau o ocsigen sydd wedi toddi.
Nodyn gwybodaeth – Ocsigen wedi toddi
Mae cymylogrwydd yn ffordd o fesur pa mor gymylog, brwnt neu fwll yw corff o ddŵr. Nid yw sampl o ddŵr o angenrheidrwydd yn ddiogel i’w yfed dim ond am fod y lefel cymylogrwydd yn isel. Gall fod wedi’i lygru neu ei halogi o hyd. Dysgwch pam fod cymylogrwydd yn bwysig, pa ffactorau sy’n gallu effeithio arno, a chrëwch eich mesurydd cymylogrwydd eich hun er mwyn dod o hyd i lefelau cymylogrwydd eich tarddiad dŵr chi.
Nodyn gwybodaeth – Cymylogrwydd dŵr
Cynllun gweithgaredd – Mesur cymylogrwydd dŵr
Cardiau adnoddau – Mesur cymylogrwydd dŵr
Darganfyddwch sut y mae mawn a phridd gwahanol yn helpu i gadw a hidlo dŵr yn naturiol a rhowch gynnig ar wneud eich hidlydd dŵr eich hunan gyda’n her hidlo dŵr ‘Mae mawn yn anhygoel’.
Cynllun gweithgaredd – Her hidlo dŵr – ‘Mae mawn yn anhygoel’
Taflen waith – Her hidlo dŵr – ‘Mae mawn yn anhygoel’
Mae llygredd plastig yn peri niwed aruthrol i’r organebau sy’n dod ar ei draws. O’r cwrelau lleiaf i forfilod enfawr, mae miliynau o anifeiliaid ac adar yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i lyncu plastig yn y môr neu fynd yn sownd ynddo. Mae’r gêm hon yn amlygu’r peryglon y mae creaduriaid y môr yn eu hwynebu, wrth i’r dysgwyr (y crwbanod môr) geisio croesi grid (y môr mawr) gan osgoi gwastraff plastig peryglus.
Cynllun gweithgaredd – Croesi'r crwbanod
Mae’r dysgwyr yn gweithio mewn tîm i roi eitemau yn eu trefn yn ôl yr amser y byddai’n ei gymryd i’r eitemau dorri i lawr yn y môr. Fel rhan o’r gweithgaredd, byddant yn ystyried yr effaith y gall sbwriel ei chael ar yr amgylchedd.
Cynllun gweithgaredd – Sbwriel hirbarhaol
Cardiau adnoddau – Sbwriel ar y tir
Cardiau adnoddau – Sbwriel yn y môr
Tabl – Llinell amser gwastraff
Edrychwch ar ein tudalen we am weithgareddau ac adnoddau sy’n egluro effeithiau andwyol sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff ar yr amgylchedd naturiol.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn: