Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Gall dysgwyr o bob oedran fwynhau gweithgareddau tân gwersyll a defnyddio offer. Mae’r rhain yn cyfoethogi lles a chyfforddusrwydd ffisegol ac ar yr un pryd yn gyfleoedd i wella sgiliau a gwybodaeth, mewn cyd-destun bywyd bob dydd.
Mae gwneud tanau gwersyll yn ddiogel a defnyddio offer ar gyfer ystod o weithgareddau awyr agored, o arddio i Ysgol Goedwig, yn annog gwydnwch, yn datblygu sgiliau asesu risg ac yn rhoi’r ymdeimlad o gyflawniad. Mae gan y dudalen we hon ddigon o wybodaeth i gefnogi dysgu sut i ddefnyddio offer yn ddiogel a sut i gynnau, rheoli a diffodd tân gwersyll bach.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i alluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Mae ein nodyn gwybodaeth yn egluro beth yw tân, a sut y gellir ei reoli unwaith y bydd yn llosgi.
Angen cyngor ar sut i ddarganfod, lleoli a sicrhau pellter diogel wrth drefnu a gosod cylch boncyffion? Darllenwch ein Nodyn gwybodaeth.
Nodyn gwybodaeth – Gosod cylch boncyffion
Wrth gynllunio cael tân gwersyll, mae’n bwysig eich bod yn ystyried sut i wneud hynny’n ddiogel a’ch bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddifrodi’r amgylchedd naturiol a niweidio unigolion.
Argymhellir bod gan arweinydd unrhyw weithgaredd tân gwersyll y canlynol:
Os ydych chi’n ystyried dod yn hyfforddwr achrededig i ddysgu eraill i gynnau tân a defnyddio offer yn ddiogel, gallech ystyried dilyn hyfforddiant i fod yn ymarferydd Ysgol Goedwig. Mae Ysgol Goedwig yn broses ysbrydoledig sy’n cynnig cyfleoedd cyson i blant, pobl ifanc ac oedolion i gyflawni a datblygu hunanhyder drwy gael profiadau dysgu ymarferol mewn coedwig leol.
Llyfryn – Canllaw i’r Ysgol Goedwig yng Nghymru
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwedudalen Cod Cefn Gwlad.
Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau yn ein Nodyn gwybodaeth.
Nodyn gwybodaeth - Tanio, rheoli a diffodd tân gwersyll yn ddiogel
Pa brydau bwyd blasus fydd eich dysgwyr yn gallu eu paratoi a’u bwyta o gwmpas y tân? Edrychwch ar rai o’r ryseitiau ydym yn eu hawgrymu.
Nodyn Gwybodaeth: Coginio ar dân gwersyll
Mae gwneud siarcol yn arferiad hynafol i wneud tanwydd a ddefnyddid yn bennaf ar gyfer coginio ac mewn diwydiant. Mae’r gweithgaredd hwn yn archwilio gwyddoniaeth a thechnoleg cynhyrchu siarcol a phapur siarcol drwy wneud arbrawf ymarferol.
Cynllun gweithgaredd - Gwneud golosg ar dân gwersyll
Cyfle i fynd ati i wneud arbrawf tanwydd pren ac ymchwilio i nodweddion llosgi gwahanol fathau o bren.
Cynllun gweithgaredd - Ymchwilio i danwydd tân gwersyll
Unwaith y bydd eich grŵp wedi ymgynefino â thrin offer yn ddiogel, dylech eu hannog i wneud defnydd o’u gwybodaeth. Er enghraifft, wrth docio, cymryd toriadau a chynorthwyo gwelliannau bioamrywiaeth drwy greu pentyrrau o foncyffion a blychau adar.
Gallant hefyd ddefnyddio offer i dorri pren (gyda chaniatâd perchnogion tir) ar gyfer gweithgareddau tân gwersyll ar y we-dudalen hon ac i wneud polion ar gyfer lloches a chynhyrchion pren eraill.
Nodyn gwybodaeth - Cysgodfeydd a chuddfannau
Cardiau adnoddau - Her goroesi lloches
Nodyn gwybodaeth – Tomenni cynefin a stwmpenni
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn: