Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud- datblygu geirfa, cyfansoddi barddoniaeth neu hyrwyddo llafaredd, mae'r amgylchedd naturiol yn newid yn gyson ac yn ffynhonnell gyfoethog sy’n ysbrydoli dysgwyr. Gellir defnyddio llawer o'n hadnoddau i hyrwyddo iaith a llythrennedd a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion a phrosesau naturiol yr un pryd. Bydd y gemau a'r gweithgareddau canlynol yn eich helpu i gyflawni yn erbyn y cwricwlwm presennol a bydd yn caniatáu i ddysgwyr wneud cynnydd yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn galluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd sy’n cael eu disgrifio ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Mae dolenni i’r Cwricwlwm wedi’u cynnwys yn y dogfennau a bydd yr holl weithgareddau yn eich helpu i gyflawni nifer o agweddau o’r sgiliau trawsgwricwlaidd o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Mae’r 18 gweithgaredd a gêm o fewn y llyfryn Iaith a Llythrennedd yn yr Awyr Agored, sy’n amrywio o weithgareddau sillafu i farddoniaeth acrostig, yn canolbwyntio ar ddangos sut i ddefnyddio’r amgylchedd naturiol fel symbyliad i hwyluso iaith a llythrennedd.
Mae angen cardiau adnodd a gwybodaeth ar gyfer rhai o’r gweithgareddau a’r gemau. Dewiswch hwy o’r rhestr isod.
Gweithgaredd 2 Pigog gogleisiol – (cardiau adnodd)
Mae pecyn cymorth addysgu wedi cael ei ddatblygu gan fyfyrwyr israddedig blwyddyn 2 sy’n astudio’r Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol De Cymru. Dechreuodd ‘Geiriau Diflanedig’ fel ymateb i dynnu geiriau natur bob dydd o eiriadur plant adnabyddus gan nad oedd y geiriau’n cael eu defnyddio’n ddigon aml gan blant i’w cynnwys. Daeth ‘Geiriau Diflanedig’ yn brotest yn erbyn colli’r byd naturiol ac yn ddathliad o’r creaduriaid a’r planhigion yr ydym yn rhannu ein bywydau gyda nhw.
Mae’r pecyn adnoddau’n llawn syniadau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, a bydd yn ysbrydoli plant blynyddoedd cynnar i gysylltu gyda natur. Mae’n werth cymryd golwg.
Pecyn adnoddau – Geiriau Diflanedig
Mae llyfrau’n adnodd gwych ar gyfer cyflwyno a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr am yr amgylchedd naturiol. Os ydych chi’n chwilio am y llyfr nesaf i’w ddarllen i gefnogi eich dysgu yn yr awyr agored, mae gennym ni restrau llyfrau i roi rhywfaint o ysbrydoliaeth naturiol i chi!
Grym geiriau – Ffuglen am yr amgylchedd a newid hinsawdd i blant ac oedolion ifanc. Mae ein rhestr lyfrau a ddatblygwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru, yn awgrymu llyfrau ffuglen Cymraeg a Saesneg sy’n cyd-fynd â’r thema.
Rhestr lyfrau i oedolion ifanc – Yr amgylchedd a newid hinsawdd
Llyfrau i’ch helpu i ddod at eich coed
Ydych chi’n gwybod am lyfr am natur a ddylai gael ei gynnwys? Pa restrau llyfrau natur eraill fyddai’n ddefnyddiol? Cysylltwch â ni gydag unrhyw awgrymiadau.
Mae dysgwyr yn elwa o dreulio amser yn yr awyr agored a gall llyfrau fod yn sbardun i ysbrydoli eich dysgwyr i fynd ar antur ym myd natur.
Ar ôl sylwi ar y potensial ar gyfer dysgu sydd i’w gael yn llyfr Emily Gravett, ‘Taclus’, penderfynodd Rebecca Shone, athrawes Blwyddyn 2 yn Ysgol Sychdyn, archwilio rhai o themâu’r llyfr o ran rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy gyda'i dysgwyr.
Fideo – Dysgu awyr agored wedi'i ysbrydoli gan lyfr
Sbardunodd yr un llyfr antur ddysgu yn yr awyr agored i Heti sy’n 7 mlwydd oed. Ar ôl darllen y llyfr ‘Taclus’ gan Emily Gravett gyda'i mam, roedd Heti eisiau mynd allan i goetir cyfagos i ddysgu mwy am goetiroedd a'r anifeiliaid sy'n byw yno. Wedi'i hysbrydoli gan y llyfr, cymerodd ran mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu ymarferol a oedd yn ymwneud â'r stori gan annog pob un ohonom i wneud pethau bach i helpu natur.
Fideo - Antur dysgu yn yr awyr agored...trwy lyfrau
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano, neu am gymorth neu wybodaeth, cysylltwch â ni:
E-bost: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ffôn: 0300 065 3000