Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Dyma’r lle i chi! Mae’r dudalen hon yn cynnig sesiynau cyffredinol a chynlluniau gweithgareddau ar gyfer CA2 a CA3 sy’n cwmpasu popeth – er enghraifft, beth i’w roi mewn pecyn llifogydd, beth sydd mewn llifddyfroedd, a chynlluniau gwacáu mewn argyfwng.
Cynhwysir dolennau cyswllt â’r cwricwlwm yn y dogfennau, a bydd yr holl weithgareddau yn eich helpu i gyflawni mewn perthynas â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLIRh)
O ran CA4 /Ôl-16 mae astudiaeth achos Llanelwy, ynghyd â’r adroddiadau data a’r cyflwyniadau cysylltiedig, yn ategu astudiaeth o’r hyn a ddigwyddodd yn Llanelwy gan alluogi’r dysgwyr i roi sylw i’r opsiynau o ran gwaith adfer ac i ddewis yr opsiwn a ffefrir ganddyn nhw.
Mae'r holl adnoddau wedi eu hategu gan taflen wybodaeth llifogydd sy'n rhoi:
Defnyddiwch y cyflwyniad (PowerPoint) hwn i ddisgrifio’r sefyllfa ac i esbonio beth yw llifogydd a pham y maen nhw’n digwydd.
Nod y cynllun sesiynau hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth o beryglon llifddyfroedd, gan sicrhau bod y cyfranogwyr yn gwybod beth i’w wneud pan fo llif, a thanlinellu effeithiau posibl llifogydd ar wahanol bobl yn y gymuned.
Llifogydd CA2/2 (cynllun sesiynau)
Gallwch ddewis o blith y gweithgareddau canlynol er mwyn pwysleisio peryglon llifddyfroedd a beth y gall y dysgwyr ei wneud i’w paratoi eu hunain a’u cartrefi ac i helpu pobl eraill yn y gymuned.
Peryglon llifddwr (cynllun gweithgaredd)
Trafod y pethau ‘ffiaidd’ a allai fod mewn llifddyfroedd a pham y maen nhw’n beryglus.
Beth sydd mewn llifddyfroedd (taflen wybodaeth)
Sut i baratoi ar gyfer llifogydd (cynllun gweithgaredd)
Os ydych yn byw mewn ardal lle mae risg o lifogydd, mae’n werth gofalu bod pecyn neu fag llif yn barod gennych. Yn ystod y gweithgaredd hwn mae’r dysgwyr yn clustnodi’r eitemau y dylid eu cynnwys mewn pecyn llif, gan esbonio pam.
Pecyn llif (cardiau adnoddau)
Beth i'w roi yn eich pecyn llif? (taflen wybodaeth)
Beth i'w wneud cyn llifogydd
Byddwch yn barod am llifogydd (taflen wybodaeth)
Cynllun llifogydd ysgolion (ffurflen)
Cynllun llifogydd personol (ffurflen)
Rydych wedi cael gwybod bod llif ar fin taro eich ardal a bod gennych awr i fynd oddi yno. Dyma weithgaredd trafod er mwyn ystyried sut i ymbaratoi ac i baratoi eich cartref neu eich ysgol ar gyfer llif. Pwy y byddech am gysylltu â nhw a pha gamau y gallech eu cymryd i leihau difrod?
Cynllun Gadael (cynllun gweithgaredd)
Beth i'w wneud mewn llifogydd
Beth i’w wneud ar ôl llifogydd
Mae’r dysgwyr yn clustnodi gwahanol bobl yn y gymuned y mae’n bosibl fod y llif wedi effeithio arnyn nhw, gan drafod teimladau posibl y bobl hynny.
Canlyniad llifogydd (cynllun gweithgaredd)
Canlyniad llifogydd (cardiau trafod)
Mae’r dysgwyr yn ystyried effeithiau cyfnod byr a chyfnod hir llifogydd ac yn rhoi sylw i ffyrdd posibl o ymdrin â’r effeithiau hynny.
Effeithiau llifogydd (cynllun gweithgaredd)
Effeithiau llifogydd (cardiau trafod)
Astudiaeth achos fanwl gysylltiedig â llunio cynllun rheoli perygl llifogydd yng nghanol Dolgellau, gan gynnwys mapiau perygl a gwybodaeth hanesyddol.
Llifogydd Dolgellau Cynllun Rheoli Risg - y broblem (astudiaeth achos)
Llifogydd Dolgellau cynllyn rheoli risg - yr ateb (astudiaeth achos)
Crynodeb o’r llifogydd a ddigwyddodd yn Llanelwy, gan gynnwys data amser real a chyflwyniad ynghylch beth oedd wedi digwydd.
Llifogydd Llanelwy 2012 CA2/3 (adroddiad data)
Llifogydd Llanelwy CA2/3 (astudiaeth achos)
Afon Elwy – Cyflwyniad ynghylch llifogydd Llanelwy (PowerPoint)
Llifogydd Llanelwy 2012 yn y newyddion (adnoddau)
Astudiaeth achos fanwl o’r llifogydd a ddigwyddodd yn Llanelwy, gan gynnwys data amser real a chyflwyniad ynghylch beth oedd wedi digwydd.
Llifogydd Llanelwy 2012 CA4/Ôl-16 (adroddiad data)
Llifogydd Llanelwy CA4/Ôl-16– Y broblem (astudiaeth achos)
Llifogydd Llanelwy CA4/Ôl-16– Yr ateb (astudiaeth achos)
Afon Elwy – Cyflwyniad ynghylch llifogydd Llanelwy (PowerPoint)
Llifogydd Llanelwy 2012 yn y newyddion (adnoddau)
Gofynnir i’r dysgwyr ymateb i’r cwestiwn: "Mae’r risg ar gyfer llifogydd ar hyd afonydd a’r arfordir yn cynyddu yn fyd-eang oherwydd sawl ffactor. Beth ddylid ei wneud i daclo’r mater byd-eang hwn?”
Mae rhoi gwybod i bobl y gallai llif eu taro neu fod llif ar ddigwydd yn hollbwysig, gan fod hynny’n rhoi cyfle i’r bobl dan sylw baratoi.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi rhagolygon ynghylch llifogydd ac yn rhybuddio’r cyhoedd. Hefyd rydym yn cynyddu ymwybyddiaeth o lifogydd ac yn helpu pobl i baratoi ymlaen llaw.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth i’r adnoddau hyn, ynghyd â chael gwybodaeth ynghylch a oedden nhw’n ddefnyddiol a beth yr hoffech chi ei gael yn y dyfodol. Cysylltwch â ni: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk