Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Mae arfordir ac amgylchedd morol Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau a chynefinoedd. Ar y dudalen hon, fe welwch gynlluniau gweithgareddau sy'n cwmpasu popeth o sut i ddipio pyllau’n gynaliadwy i wybodaeth a gweithgareddau ar rywogaethau morol prin fel Maelgwn.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i gyflawni yn erbyn y cwricwlwm presennol a bydd yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben Cwricwlwm Cymru.
Ydych chi erioed wedi clywed am Faelgwn? Darganfyddwch stori un o siarcod mwyaf prin y byd a lle mae'n byw yng Nghymru. Mae Prosiect Angelshark:Cymru yn brosiect cydweithredol o dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n ceisio diogelu a deall Maelgwn yn well yng Nghymru.
Mae eLyfr wedi’i ddatblygu ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno deall mwy am y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol ynghyd â Llawlyfr eLyfr i athrawon. I gael gafael ar yr adnoddau ewch e-lyfr Angylion Cymru.
Mae mynd i ddipio pyllau’n ffordd wych o archwilio byd cudd creaduriaid diddorol y môr. Dysgwch fwy am sut mae pyllau’n ffurfio mewn creigiau, y fioamrywiaeth sy'n byw ynddynt a sut i chwilota’n gynaliadwy.
Mae'r gweithgaredd chwarae rôl hwn yn archwilio nodweddion ffisegol anifeiliaid morol a bydd yn cael eich dysgwyr i feddwl am sut maen nhw wedi’i haddasu'n arbennig i fyw mewn amgylchedd morol.
Cynllun gweithgaredd – Nodweddion Creaduriaid
All eich dysgwyr drefnu eu hunain yn gywir i wneud cadwyn fwyd forol? Mae'r gweithgaredd hwn yn annog dealltwriaeth o lif ynni o fewn cadwyni bwyd.
Cynllun gweithgaredd – Gwneud cadwyn fwyd
Cardiau adnoddau - Gwneud cadwyn fwyd
Daliwch yn dynn, mae'n bryd mynd ar Saffari Arfordirol. Mae'r gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i ymchwilio i gynefinoedd drwy wahanol safbwyntiau a graddfeydd. Pe baech chi'n wrachen ludw yn byw ar lan greigiog neu’n chwilen grwydr yn byw ar draeth tywodlyd pa anturiaethau fyddech chi’n eu cael?
Cynllun gweithgaredd - Saffari Arfordirol
Ymchwilio i linellau a siâp gyda'n gweithgaredd Llinellau Cerrig Crwn. All eich dysgwyr weithio gyda'i gilydd i weld a allant drefnu cerrig fel bod eu llinellau'n creu llinell syth neu linell grom?
Cynllun gweithgaredd – Llinellau cerrig crwn
Mae angen llaw gadarn ac chydbwysedd ar gyfer y gweithgaredd hwn sy'n edrych ar fesuriadau ansafonol, uchder, pwysau, cynhwysedd màs, a siâp 3D. Chwalwch eich tŵr unwaith y byddwch wedi'i gwblhau.
Cynllun gweithgaredd – Castell cerrig crwn
Ystum corff, manylder, ac natur gystadleuol yw'r cyfan sy'n ofynnol ar gyfer gêm o Bowlio Traeth.
Cynllun gweithgaredd – Bowlio ar y traeth
Mae gan helfa sborion y cyfan. Mae'n ymarfer eich corff a'ch meddwl. Mae'n annog gwaith tîm a datrys problemau a gallwch fwynhau ac archwilio'r amgylchedd naturiol drwy liw a gwead tra byddwch yn cwblhau eich helfa.
Cynllun gweithgaredd – Helfa sborion
Cardiau adnoddau – Helfa aborion arfordirol
Yn y gorffennol, byddai system twyni arfordirol Gogledd-ddwyrain Cymru wedi ymestyn o'r Rhyl i Dalacre, wedi'i thorri gan aber Afon Clwyd yn unig. Dros amser mae'r dirwedd wedi newid, ac mae'r ardal bellach yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth.
Dysgwch am sut mae tirwedd Gronant a Thalacre wedi newid dros amser drwy wylio ein hamrywiaeth o glipiau fideo. O ddod yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr ar ôl yr Ail Ryfel Byd i gael ei rheoli ar gyfer amrywiaeth o ddibenion heddiw, cewch ddysgu'r cyfan drwy wylio'r cyfweliadau uniongyrchol hyn â rhai o'r bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn chwarae yn yr ardal.
Os na fedrwch chi ddod o hyd i rywbeth, neu os hoffech chi gael mwy o gyngor neu wybodaeth, mae croeso ichi gysylltu â ni ar: