Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Mae mawndiroedd ymhlith cynefinoedd mwyaf prin a mwyaf pwysig Cymru. Ar y dudalen hon, fe welwch gynlluniau gweithgareddau ar gyfer popeth o 'Pam mae corsydd yn bwysig?' i gyfarwyddiadau ar sut i gyfrifo faint o garbon sydd wedi'i ddal mewn metr sgwâr o fawn.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau yn eich helpu i lwyddo yn y cwricwlwm presennol a bydd yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Eisiau dysgu am fawndiroedd? Sut maen nhw'n ffurfio a pham maen nhw'n bwysig?
Edrychwch ar ein nodyn gwybodaeth.
Cardiau adnoddau – Lluniau o fawndiroedd
Mae'r gweithgaredd hwn yn esbonio'r buddion niferus y mae mawndiroedd yn eu cynnig i bobl a'r amgylchedd.
Pam mae corsydd yn bwysig? (cynllun gweithgaredd)
Pam mae corsydd yn bwysig? (cardiau adnoddau)
Cwis rhyngweithiol, i gors ai peidio i gors? Dyna’r cwestiwn.
Meddwl eich bod yn gwybod y cyfan am gorsydd? Profwch eich gwybodaeth drwy chwarae'r gêm ryngweithiol hon.
I gors ai peidio i gors? (cynllun gweithgaredd)
I gors ai peidio i gors? (cardiau adnoddau)
I gors ai peidio i gors? (datganiadau ac atebion)
Mae ein gêm 'Ar eich marciau, barod, cronnwch!' yn gêm ar ffurf 'tag' ac mae’n esbonio wrth ddysgwyr beth sydd ei angen ar fawn i ddechrau ffurfio. Mae hefyd yn annog trafodaeth am y ffactorau a all effeithio ar gyfraddau cronni mawn.
Cynllun gweithgaredd – Ar eich marciau, barod, casglwch!
Cardiau adnoddau – Ar eich marciau, barod, casglwch!
Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru. Mae'r fideo yma gan Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn esbonio sut y dechreuon nhw ddatblygu hyd at 10,000 o flynyddoedd ôl.
Fideo - Sut mae cyforgorsydd mawn yn ffurfio (gan prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE)
Mae’r gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar sut y mae mawn, ar yr ucheldiroedd ac mewn corsydd gwlyptirol, yn helpu i ddal dŵr a’i hidlo’n naturiol.
Her hidlo dŵr ‘Mae mawn yn anhygoel’ (cyllun gweithgaredd)
Her hidlo dŵr ‘Mae mawn yn anhygoel’ (taflen waith)
Mae mawndiroedd yn llawn bywyd gwyllt.
A all eich dysgwyr drefnu eu hunain yn gadwyn fwyd fel sydd mewn mawndir?
Cynllun gweithgaredd – Gwneud Cadwyn Fwyd, #15 yn ein pecyn Anifeiliaid a Chynefinoedd, Gweithgareddau a Gemau.
Cardiau adnoddau – Cadwyni bwyd mawndiroedd
Ar ein tudalen we Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae gennym weithgareddau anifeiliaid a chynefinoedd i chi roi cynnig arnyn nhw gyda'ch dysgwyr. Defnyddiwch ein gweithgaredd 'Gwe Bywyd' i greu gwe fwyd fel sydd mewn mawndir ac archwilio cyd-ddibyniaeth a chyfnewid egni.
Mae'r gweithgaredd hwn yn archwilio pa weithredoedd dynol sy'n cael effaith ar gynefinoedd bregus y mawndiroedd, beth yw eu canlyniadau, ac yn ymchwilio i'r hyn y gellir ei wneud i adfer mawndiroedd.
Cynllun gweithgaredd - Mawndiroedd sy’n crebachu
Mae mawndiroedd yn storio llawer iawn o garbon ac yn gweithredu fel dalfeydd carbon naturiol, sy'n eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Beth yw ôl troed carbon unigol eich dysgwyr? Faint o fawn fyddai ei angen i wrthbwyso hyn? Bydd ein Taflen Waith Cyfrifydd Carbon Mawndiroedd yn helpu eich dysgwyr i ddychmygu sawl metr ciwb y byddai eu hangen o garbon wedi’i storio mewn mawn i'w wrthbwyso.
Cynllun gweithgaredd - Faint o fawn sydd ei angen i wrthbwyso eich ôl troed carbon? ...Yn dod cyn hir
Taflen waith - Faint o fawn sydd ei angen i wrthbwyso eich ôl troed carbon? ...Yn dod cyn hir
Cardiau adnoddau – Ôl troed carbon ...Yn dod cyn hir
Gall unrhyw aflonyddwch ar fawndir olygu ei fod yn newid o ecosystem sy'n amsugno carbon i ecosystem sy'n gollwng nid yn unig garbon diweddar, ond
carbon a amsugnwyd dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf. Dysgwch fwy am sut y gall mawndiroedd newid o fod yn ddalfeydd carbon i allyrwyr carbon gan ddefnyddio ein nodyn gwybodaeth.
Nodyn gwybodaeth - Mawndiroedd: Sut y gall dalfeydd carbon droi'n allyrwyr carbon
Yn aml, mae mawndiroedd yn gynefinoedd gwarchodedig ac yn amgylcheddau a all fod yn beryglus. Er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch dysgwyr yn cael ymweliad diogel a dymunol, cysylltwch â ni cyn eich ymweliad i gael caniatâd ar gyfer eich gweithgareddau arfaethedig. Mae gennym ffurflen fer a syml i chi ei llenwi ac yn ein hateb, byddwn ni’n rhoi gwybod am unrhyw gyfyngiadau cyfredol sydd ar waith, yn helpu gyda mapiau ac yn cynnig arweiniad.
Gofynnwch i'ch dysgwyr gynnal ymchwiliad ymarferol syml i asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon ardal o fawndir. Edrychwch ar ein cynllun gweithgaredd.
Cynllun gweithgaredd - Asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndir
Taflen waith - Asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndir
Tasg 7, Cardiau adnoddau - Asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndir
Dysgwch fwy am y rhaglen adfer genedlaethol ar gyfer cyforgorsydd a chynefinoedd mawndirol yng Nghymru. Ewch i dudalen we Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Mae tîm y prosiect wedi bod yn gofyn i ymwelwyr ddod yn wyddonwyr lleyg, gafael yn eu camera a chymryd rhan mewn gwaith ymchwil gwyddonol go iawn a ddefnyddiwyd i greu ffilm treigl amser o ddwy gors bwysig yng Ngheredigion - Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron a Chors Fochno. Gallwch weld y ddwy dirwedd hynod ddiddorol hyn yn newid drwy'r tymhorau ar y fideo isod.
Fideo - Fideo Cors Caron a Chors Fochno tros amser (LIFE WRB)
Eisiau dysgu am fuddion dysgu yn yr awyr agored ar gyfer iechyd a lles? Angen cyfiawnhau mynd â'ch dysgwyr i'r awyr agored? Cymerwch olwg ar ein posteri gwybodaeth.