Iechyd, addysg a dysgu – dan sylw

Ceir arferion rhagorol ledled Cymru gyda gwahanol grwpiau'n manteisio ar yr amgylchedd naturiol i sicrhau cyfleoedd o ran iechyd, dysgu ac addysg, a gwneud y mwyaf ohonynt. Dyna sydd dan sylw ar y dudalen hon – lleoliadau, sefydliadau,  unigolion a phynciau sydd wedi cael sylw yn ein cylchlythyr Addysg a Dysgu misol am eu harferion da, ynghyd â rhagor o wybodaeth a syniadau i’ch helpu i ddatblygu neu wella'r hyn ydych yn ei wneud yn eich lleoliad chi.  

Hoffech chi dderbyn diweddariadau bob mis ynglŷn â sut y gall eich grŵp chi ddysgu yn, dysgu am a dysgu ar gyfer yr amgylchedd naturiol?  Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Addysg a Dysgu i gael ysbrydoliaeth, cymorth a’r newyddion diweddaraf drwy anfon e-bost i ni.

O Gymru i Chile – aelodau Rhwydwaith Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru’n rhannu eu brwdfrydedd dros ddysgu yn yr awyr agored

Chwefror 2023

Yn ystod y pandemig, cysylltodd Paula Valentina Araneda Parischewsky, o Chile, â Carolyn Burkey a Polly Snape o Ddysgu Awyr Agored Gogledd Cymru i drafod y posibilrwydd o gynnal hyfforddiant dysgu yn yr awyr agored i addysgwyr yn Chile. 18 mis yn ddiweddarach, yn dilyn galwadau Zoom di-rif, e-byst, a thaith awyren bell i America Ladin, fe wnaeth yr holl gynllunio a thrafod gofalus ddwyn ffrwyth wrth i’r ddwy o Sir Ddinbych adael eu teuluoedd i fynd i gyflwyno hyfforddiant dysgu yn yr awyr agored. Sut mae dysgu yn yr awyr agored yn Chile yn cymharu â Chymru? Mae Carolyn a Polly yn rhannu eu hanturiaethau.

Mwynhau hud y gaeaf gyda’ch dysgwyr

Ionawr 2023

Nid yw'r ffaith ei bod hi’n oer y tu allan yn golygu bod eich dysgwyr wedi colli eu hegni na’u hawydd i chwarae. Mae'r gaeaf yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i ysgogi dychymyg trwy chwarae – dyma ein syniadau.

Mudiad Meithrin – defnyddio’r awyr agored i feithrin datblygiad yr iaith Gymraeg 

Ionawr 2023

Dyma Nia Chapman, Swyddog Cefnogi Gogledd Powys, a Mirain Jones, Arweinydd Cylch Meithrin Dyffryn Banw yn rhannu eu barn am fuddion treulio amser yn yr awyr agored a sut mae hyn yn helpu i hyrwyddo datblygiad yr iaith Gymraeg.

Timau teuluol – Prosiect yn tynnu pobl ifanc oddi wrth ei sgriniau ac yn cynnig chwa o awyr iach i deuluoedd Conwy 

Ionawr 2023

Mae Greg Woolley o Ysgol Goedwig Nant y Glyn, Bae Colwyn yn rhannu ei brofiadau o gynnal prosiect sy'n dod â phobl ifanc a'u teuluoedd at ei gilydd yn yr awyr agored.  

Cyfranwyr mentrus, creadigol - disgyblion Pen-y-garn yn creu ‘Arty Parky’

Rhagfyr 2022

Ar ôl treulio amser yn archwilio ac yn cymryd sylw o harddwch naturiol eu hamgylchedd naturiol lleol, mae disgyblion Blwyddyn 4 a 6 Ysgol Gynradd Pen-y-garn, ger Pont-y-pŵl wedi bod yn sianelu eu dawn greadigol gan greu darnau o gelf naturiol.

Cyfle i ddysgu am goed Nadolig

Rhagfyr 2022

Mae’r Nadolig ar ei ffordd, ond ydych chi erioed wedi cymryd eiliad i fmeddwl sut y daeth coed bytholwyrdd, boed yn goed pinwydd, sbriws neu ffynidwydd, i fod yn symbol o’r Nadolig? Pam fyddwn ni'n torri coeden dda, yn ei llusgo i'r tŷ ac yn ei haddurno? Beth am edrych ar darddiad yr arferiad gyda'ch dysgwyr?

"Mae'n oer y tu allan!" - Sut i 'barhau' i ddysgu yn yr amgylchedd naturiol yn ystod misoedd y gaeaf

Tachwedd 2022

Rydych chi'n edrych allan drwy'r ffenest ac yn gweld diwrnod llwyd a diflas neu'n teimlo awel oer, ffres yn dod drwy'r drws wrth i chi ei agor. "Byddwn ni’n ei adael tan yfory", rydych chi'n dweud wrthoch chi eich hun. Mae'n hawdd meddwl am esgusodion am beidio â mentro allan i'r amgylchedd naturiol gyda'ch dysgwyr pan fydd y tymheredd yn gostwng ond dyw'r ffaith ei bod hi'n oer y tu allan ddim yn golygu bod eich dysgwyr wedi colli eu hegni na'u hawydd i chwarae. Dyma ein syniadau ar sut i fwynhau'r awyr agored gyda'ch dysgwyr yn ystod y misoedd oer sydd o'n blaenau.

Gwreiddio cariad at yr amgylchedd naturiol a gwerthfawrogiad ohono ymhlith plant bach yn Rachael's Playhouse

Mae Hannah Jones a Rachael Barnett yn cynnal safleoedd gofal plant llwyddiannus yn Hirwaun ac Aberdâr i blant 18 mis i 5 oed. Eglura Hannah sut mae safle Aberdâr yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr o oed ifanc gymryd rhan yn yr amgylchedd naturiol a chysylltu ag ef.

Ysgol Rhos Helyg, Ceredigion ar daith ar hyd Llwybr Arfordir

Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac yn ymestyn ledled arfordir Cymru, yn cynnig llu o gyfleoedd dysgu. A'r Llwybr yn dathlu ei 10fed pen-blwydd yn 2022, lansiwyd cyfres o adnoddau addysg i gefnogi grwpiau i ddysgu ar y llwybr, am y llwybr ac ar gyfer y llwybr. Hefyd, cynigiwyd i grwpiau addysg a fynychodd ein gweminarau 'Llwybr Arfordir Cymru - eich llwybr i ddysgu arfordirol' hyd at £200 o fwrsariaeth deithio i helpu tuag at gost ymweld â'r llwybr. Un safle a fanteisiodd ar y cynnig oedd Ysgol Rhos Helyg, ger Tregaron, Ceredigion. Dyma’r athrawes Sioned Owen yn rhannu eu profiadau.

"Brwydr goncyrs – beth yw hynny?" Beth sydd wedi digwydd i'r gêm iard chwarae?

Concyrs bach, sgleiniog yw rhai o emau naturiol trysor yr hydref. Ar un adeg, mawr oedd y chwilio amdanynt, cyn eu paratoi am frwydr trwy eu pobi yn y ffwrn neu eu socian mewn finegr, yna eu rhoi ar linyn yn barod i’r iard chwarae. Gofynnwn yn awr pam mae un o'r gemau hynaf fel petai wedi mynd yn angof?

Edrych tuag at ddyfodol naturiol: Sir y Fflint yn gobeithio tyfu ei darpariaeth dysgu yn yr awyr agored

Mae Jane Borthwick, Cynghorydd Dysgu Gwelliant Cynradd, Sir y Fflint yn rhannu'r gwersi addysgwyd ac mae’n gobeithio cynyddu'r ddarpariaeth dysgu yn yr awyr agored yn fwy fyth wrth i'r sir fyndi’r afael â’r Cwricwlwm i Gymru.

Plant bach bywyd gwyllt: gofal plant gyda natur

Mae creu amser a lle ar gyfer profiadau dysgu actif a difyr yn yr amgylchedd naturiol i’r plant dan ei gofal yn ail natur i’r gwarchodwr plant o Sir Gaerfyrddin, Kelly Still.

Gwersi y gallwn eu dysgu o fyd natur

Pa wersi allwn ni eu dysgu o fyd natur? Dyma ein syniadau ni.

Sut gall dysgu yn, amdan ac ar gyfer yr amgylchedd naturiol helpu ein hiechyd a lles?

Yn 2008, cyhoeddodd y Sefydliad Economeg Newydd astudiaeth 'Pum ffordd tuag at les', a nododd gamau gweithredu seiliedig ar dystiolaeth i wella lles.  Mae gan bob cam gysylltiad â bod ym myd natur.

Sut mae Natur wedi tyfu

Yn 2021, fe wnaethom ni gyflwyno Natur i chi, ardal ddysgu awyr agored weledigaethol yn Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo a oedd yn y camau cynllunio. Yn ddiweddar, buom yn siarad â Phennaeth Cynorthwyol yr ysgol, Ian Chriswick, i ddarganfod sut mae wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Disgyblion Ysgol Abererch, Pwllheli rhannu eu barn ar arddio ysgol

mae disgyblion Ysgol Abererch, Pwllheli, enillwyr cystadleuaeth ‘Gardd Ysgol y Flwyddyn 2021’ S4C, yn cymryd hoe o dyfu blodau, perlysiau a chennin er mwyn rhannu eu barn ar arddio ysgol.

“Dyw e ddim yn chwyldroadol nac yn galed. Dim ond plant cyffredin ydyn ni sydd wedi cymryd camau bach i wneud ein cornel ni o'r byd yn wyrddach”

Gwyliwch fideo o’r dysgwyr a'u hathrawes yn trafod eu hymdrechion.

Gwneud y gorau o'r awyr agored er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd

Sut y gellir defnyddio'r amgylchedd naturiol er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd? Dyma rai o’n syniadau ni. 

Athrawes Sir y Fflint yn rhoi hyfforddiant troseddu amgylcheddol CNC ar waith

Yn dilyn hyfforddiant gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), penderfynodd Megan Hughes, athrawes Blwyddyn 3 yn Ysgol Sychdyn, Sir y Fflint, roi'r hyfforddiant 'O Safle’r Drosedd i‘r Llys Barn: Troseddu amgylcheddol’ ar waith.

Athrawes yn disgrifio ymchwiliad i dipio anghyfreithlon yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru fel “un o’r wythnosau mwyaf cofiadwy a GWYCH yn fy ngyrfa addysgu!” 

“O na fyddai’n haf o hyd” - arferion i ddathlu dechrau’r haf o bob cwr o’r byd

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o’r ffordd y mae’r Nadolig yn cael ei ddathlu ar draws y byd, ond a ydych chi erioed wedi gofyn i’ch dysgwyr feddwl ac ymchwilio i ddathliadau dechrau’r haf?

Diweddarwyd ddiwethaf