Ein gwasanaeth addysg, dysgu a sgiliau

Mae'r rydym yn berchen arno ac yn ei reoli yn rhoi cyfleoedd i bobl o bob oedran a gallu ddysgu am yr amgylchedd a sut y mae’n cael ei reoli’n gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

Yn ogystal â’n tir, mae gennym fynediad i gyfoeth o dystiolaeth, data, mapiau ac adroddiadau sy’n cwmpasu holl agweddau ein hamgylchedd naturiol a’r ffordd y mae’n cael ei reoli. Drwy weithio â phartneriaid, addysgwyr a dysgwyr gallwn roi mewnwelediad i bwysigrwydd gofalu am awyr, tir, dŵr, bywyd gwyllt, planhigion a phridd er mwyn gwella lles Cymru, a sicrhau gwell dyfodol i bawb. 

Pa un ai ydych yn chwilio am adnoddau cysylltiedig â’r cwricwlwm, data cymhleth, hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio, cyngor a chanllawiau, gwaith ymchwil neu wybodaeth am safle penodol, mae ein staff arbenigol ar gael i’ch helpu a’ch cefnogi.

Ein hamcan yw cael mwy o blant, pobl ifanc ac oedolion i werthfawrogi a chysylltu â natur er mwyn sicrhau dinasyddion moesol a deallus heddiw ac i’r dyfodol.

Ar hyn o bryd mae’r tudalennau hyn yn cael eu datblygu, felly cadwch lygad ar agor am adnoddau cysylltiedig â’r cwricwlwm ar amrediad o bynciau gan gynnwys rheoli dŵr, llifogydd, ynni adnewyddadwy, rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, daeareg, gwastraff a thipio anghyfreithlon, a gwybodaeth am ein heriau, lleoliadau a’n cyngor Bagloriaeth Cymraeg, ar gyfer grwpiau hunan-arwain sy’n defnyddio ein tir ar gyfer dysgu.

Cysylltwch â Ni

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano neu os hoffech unrhyw gymorth neu wybodaeth, cysylltwch â ni ar:

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Addysg, dysgu a sgiliau i gael diweddariadau misol.

Diweddarwyd ddiwethaf