Mae adnoddau naturiol yng Nghymru yn wych – mynyddoedd garw a choetiroedd, tirweddau ac arfordiroedd hardd, a bywyd gwyllt rhyfeddol.

Maent yn hanfodol er mwyn inni oroesi ac maent yn darparu'r pethau sylfaenol sydd eu hangen arnom i fyw: aer glân, dŵr glân a bwyd. Maent yn creu swyddi ar gyfer miloedd o bobl megis ffermwyr, coedwigwyr a gweithredwyr twristiaeth – gan greu cyfoeth a ffyniant.

Maent yn rhoi ansawdd gwell o fywyd inni i gyd, a chyfleoedd i fwynhau'r awyr agored yn erbyn cefndir harddwch naturiol a threftadaeth Cymru. Mae pobl yn dod o bedwar ban y byd i'w profi. Mae ganddynt gysylltiad cynhenid â diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg.

Ein swyddogaeth ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw gofalu am yr adnoddau naturiol hyn a'r hyn y maent yn eu darparu ar ein cyfer: i helpu i leihau'r risg i bobl ac adeiladau o lifogydd a llygredd; i ofalu am fannau arbennig ar gyfer llesiant, bywyd gwyllt a phren; ac i weithio gydag eraill i'n cynorthwyo ni i gyd yn y gwaith o'u rheoli mewn modd cynaliadwy. Mae gan bobl sy'n gweithio yma yn CNC y wybodaeth, yr arbenigedd a'r brwdfrydedd i helpu i wireddu'r nod o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Fydd y Datganiad Llesiant yn amlinellu sut i wneud hyn.

1. Hyrwyddo amgylchedd Cymru a'r gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy
2. Sicrhau bod tir a dŵr yng Nghymru'n cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy ac integredig
3. Gwella cydnerthedd ac ansawdd ein hecosystemau
4. Lleihau'r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd
5. Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy boddhaus
6. Hyrwyddo busnesau llwyddiannus a chyfrifol, sy'n defnyddio adnoddau naturiol heb beri difrod iddynt
7. Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol, sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf

Datganiad llesiant (PDF 1.2MB)

Diweddarwyd ddiwethaf