O dan y cynigion yn y Bil Amgylchedd, bydd gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gynhyrchu Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol bob pum mlynedd a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.Bydd yn dangso sut y dylid rheoli adnoddau naturiol yng Nghymru er mwyn cael y cyfraniad gorau i gyrraedd nodau datblygu cynaliadwy tymor hir, sy’n cael eu dangos yn y Ddeddf Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol.

Yn y Bil Amgylchedd, bydd gofyn hefyd i Cyfoeth Naturiol Cymru gynhyrchu Datganiadau Ardal yn dangos y blaenoriaethau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol ar sail ardal.

Mae’r Dull sail Ardal felly’n gosod cyd-destun mwy lleol ar gyfer gweithredu’r Polisi Cenedlaethol.Mae’n gofyn am ymarfer cynllunio cydlynedig ar y cyd – i gytuno ar broblemau a blaenoriaethau’r ardal, nodi cyfleodd a sicrhau fod y trefniadau presennol sy’n effeithio ar reoli adnoddau naturiol yn gweithio’n gyfun i’w ddarparu.

Y Profion

Sefydlwyd y profion Rheoli Adnoddau Naturiol yn gynnar yn 2014 i brofi ffyrdd ymarferol o weithio fel y gellir eu mabwysiadu ar draws y sefydliad ac wrth weithio gyda rhanddeiliaid allanol.Yn y bôn, roedd y profion yn golygu cysylltu ar lefel leol gydag ystod eang o randdeiliaid, yn enwedig awdurdodau lleol, er mwyn:deall y problemau, casglu tystiolaeth a chwilio am gyfleoedd ynghylch sut y gellir rheoli adnoddau naturiol mewn modd a fyddai’n cefnogi ffyniant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.Canolbwyntiwyd ar chwilio am ffyrdd gwahanol o daclo problemau sydd wedi bod yn anodd eu datrys yn y gorffennol.

Yr Ardaloedd Prawf  

Y tair ardal brawf yw:

Mae’r ardaloedd hyn yn seiliedig ar ddalgylchoedd afonydd.Maen nhw wedi’u dewis oherwydd eu hystod eang o broblemau a chyfleoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf