Ein hadnoddau naturiol

Mae’r aer, y tir, dŵr, bywyd gwyllt, planhigion a phridd – ein ‘hadnoddau naturiol’ – yn darparu’n hanghenion sylfaenol, yn cynnwys bwyd, ynni, iechyd a mwynhad.

Wrth ofalu amdanynt yn y ffordd iawn, gallant ein helpu i leihau llifogydd, gwella ansawdd yr aer a chyflenwi deunyddiau adeiladu. Maent hefyd yn gartref i fywyd gwyllt prydferth a phrin a thirweddau nodedig y gallwn eu mwynhau ac sy’n hybu’r economi drwy dwristiaeth.

Pwysau cynyddol

Ond mae’n hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol yn dod o dan bwysau cynyddol – yn sgil y newid yn yr hinsawdd, poblogaeth sy’n tyfu a’r angen i gynhyrchu ynni.

Bydd ein Adroddiad ar gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru yn edrych ar dystiolaeth gyfredol ar gyflwr ein hadnoddau naturiol. 

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein hamgylchedd yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni i gyd edrych ar ei ôl fel y gall barhau i roi’r pethau sydd eu angen arnom i ni. Gall unrhyw benderfyniadau a wnawn ni gael effaith ganlyniadol ar yr amgylchedd cyfan, yn awr ac i sawl cenhedlaeth i ddod.

Dull cydgysylltiedig

Mae amgylchedd iach yn helpu i gynnal pobl a’r economi. Mae angen i ni ofalu am ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gydgysylltiedig sy’n dwyn buddiannau lluosog i bobl a natur, yn awr ac yn y dyfodol. Rydym i gyd yn hyn gyda’n gilydd, o’r Llywodraeth i’r sector cyhoeddus i fusnesau i unigolion - mae’n rhaid i ni gyd wneud ein rhan.

Mae angen i ni gynllunio a pharatoi am yr heriau sydd o’n blaen – p’un ai bod y rhain yn argyfyngau economaidd byd-eang neu’n newid hinsawdd. Pan fo’n hamgylchedd yn gweithio ar ei orau, gwyddom fod cymdeithas gyfan yn ffynnu.

Y cynnydd hyd yma

Mae degawdau o waith yn deall, gwarchod a gwella’n hamgylchedd wedi mynd â ni yn bell. Mae’n hafonydd a’n traethau yn lanach, mae’r aer yn fwy ffres ac mae’n tirweddau prydferth yn cynnig cyfleoedd hamdden a natur sydd gyda’r gorau yn y byd i bobl Cymru, ac yn denu miliynau o dwristiaid bob blwyddyn.

Er gwaethaf hyn, mae nifer o’n planhigion a’n bywyd gwyllt yn dirywio ac mae gennym lawer o broblemau i’w taclo o hyd sydd wedi bod yn anodd hyd yma. Rydym wedi cyrraedd cyn belled â hyn gyda’n hymdrechion. Mae’r problemau sydd ar ôl yn rhai llawer mwy dyrys.

Cyrraedd y lefel nesaf

Dyna pam rydym angen dull gweithredu gwahanol – un sy’n edrych ar y darlun cyfan yn hytrach na chanolbwyntio ar rannau unigol o’n hamgylchedd. Dull sy’n deall sut y mae amgylchedd iach a gwydn yn cefnogi llewyrch economaidd a chymdeithasol. Bydd yn golygu gweithio ar lefel gymunedol neu dirweddol i uno pethau gyda’i gilydd a datblygu atebion ar y cyd.

Drwy ddeall y perthnasau pwysig rhwng ein hamgylchedd, cymdeithas a’r economi, gallwn fynd i’r afael â’r dirywiad hwn mewn ffordd a fydd o fudd i bawb.

Ond bydd hyn yn cymryd amser

Mae’r daith tuag at lwyddiant yn un hir ac ni allwn wrthdroi tueddiadau tymor hir dros nos. Mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth. Bydd dilyn dull cydgysylltiedig o reoli’n cyfoeth naturiol – ‘rheoli adnoddau naturiol’ – yn ein helpu i daclo hen broblemau mewn ffyrdd newydd. Dod o hyd i well atebion i’r heriau sy’n ein hwynebu – a chreu Cymru fwy llwyddiannus, iach a gwydn, yn awr ac yn y dyfodol.

Treialu ar lawr gwlad

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol yn nalgylchoedd Dyfi, Rhondda a Thawe, i brofi sut y gall rheoli adnoddau naturiol weithio mewn ffordd ymarferol.

Cyflwyno rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) gyda’i gilydd yn creu deddfwriaeth fodern ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru a gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd hyn yn ein helpu ni i ymdrin â’r heriau a wynebwn a chymryd gwell mantais ar y cyfleoedd posibl i Gymru. Mae Deddf yr Amgylchedd yn canolbwyntio ar greu gwytnwch o fewn ein hecosystemau ac adnabod y manteision a ddarparant os ydym yn eu rheoli yn ddoeth.

Mae Deddf yr Amgylchedd wedi rhoi pwrpas newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru - i gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. Byddwn yn gweithredu set benodol o egwyddorion wrth sicrhau ein bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant.

Rydym wedi cynhyrchu llyfryn i gyflwyno ein ffordd newydd o weithio.

Cyflwyno rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

 

Diweddarwyd ddiwethaf