09.11.20

Mae ein safonau ffosfforws o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wedi’u pennu gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, a hefyd yn gyson â’r cyfyngiadau ffosfforws llym a geir yn argymhellion diweddaraf Grŵp Cynghori Technegol y Deyrnas Gyfunol ar gyfer Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes unrhyw gyfyngiadau llymach y gellid eu defnyddio o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Pennwyd y cyfyngiadau hyn yn 2015 ac fe’u dilynwyd ers hynny.

Aethom ati i ddiwygio ein targedau ffosfforws o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn 2017, a hynny er mwyn adlewyrchu canllawiau diweddaraf y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur. At ei gilydd, mae’r targedau hyn yn llymach na chyfyngiadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac yn berthnasol i afonydd a ddynodwyd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae Afon Gwy’n un o’r afonydd hynny, ac felly mae’r targedau llymach ar gyfer ffosfforws mewn grym yno.

Rydym bron â chwblhau asesiad o gydymffurfiaeth rhwng y data sydd gennym ar ffosfforws a’r targedau newydd ar gyfer yr holl afonydd yng Nghymru a ddynodwyd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Unwaith y gwnawn ni hynny bydd gennym well dealltwriaeth o’r cyngor y dylem ei roi i randdeiliaid eraill er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol.

Fe gwrddom â rhanddeiliaid i ddweud bod yr archwiliadau cychwynnol yn awgrymu y bydd lefelau maethynnau mewn rhannau o Afon Gwy yn rhagori ar y targedau newydd yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae hynny’n deillio o’r penderfyniad i fabwysiadu safonau llymach yng nghynllun rheoli Ardaloedd Cadwraeth Arbennig 2017, ac nid yw’n golygu bod ansawdd y dŵr wedi dirywio. Bydd ein hasesiad o gydymffurfiaeth yn cynorthwyo CNC a’i bartneriaid wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â rheoli ansawdd afonydd.

Afonydd sy’n rhoi bywyd i Gymru ac rydym yn ymrwymo i gyflawni’r safonau uchaf posib mewn iechyd afonydd. Gwyddom fod yno lawer o waith i’w wneud eto, a byddwn yn cydweithio â’n partneriaid ymhob sector i gyrraedd y nod.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf