Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

1 Mawrth 2021

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod dêl masnach wedi’i chytuno ar gyfer ymadawiad y DU o’r UE. Rydym yn adolygu'r fargen i ddeall sut y bydd newidiadau a dyletswyddau newydd yn effeithio ar ein gwaith a gwaith ein rhanddeiliaid. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r tudalen yma pan rydym yn gwybod mwy.

 

Safonau amgylcheddol a dulliau diogelu

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd unrhyw newid yng ngrym y trefniadau i ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru, na'r safonau amgylcheddol

Roedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi ymrwymo i gynnal safonau amgylcheddol ac ymrwymiadau rhyngwladol ar ôl 1 Ionawr 2021, gan ddatgan y byddai’r trefniadau canlynol yn parhau:

  • fframwaith cyfreithiol y Deyrnas Gyfunol ar gyfer gorfodi deddfwriaeth amgylcheddol ddomestig gan gyrff rheoleiddio neu systemau llys yn y Deyrnas Gyfunol
  • y targedau amgylcheddol sydd wedi’u pennu yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd – mae’r rhain eisoes wedi’u cynnwys yn neddfwriaeth y Deyrnas Gyfunol

Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol hefyd wedi ymrwymo i gynnal safonau amgylcheddol.

Caiff yr Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (safleoedd Natura 2000) eu diogelu yn yr un modd ag y cawsant pan oedd y Deyrnas Gyfunol yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

 

Trwyddedau a chaniatadau

Mae’r holl drwyddedau, caniatadau, cofrestriadau, awdurdodiadau ac eithriadau a gyhoeddir gennym yn parhau i fod yn berthnasol a rhaid i unigolion a gweithredwyr gydymffurfio ag unrhyw amodau.

Bydd ein dyletswyddau a'n pwerau yn aros yr un fath pan fydd y cyfnod pontio’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Byddwn yn parhau i:

  • roi a rheoleiddio trwyddedau fel y gwnawn eisoes
  • cynorthwyo unigolion a gweithredwyr a reoleiddir i ddeall rheoliadau a chydymffurfio â nhw

Os oes gennych gwestiynau am drwyddedau neu reoli safleoedd, cysylltwch â chanolfan Cyswllt Cyfoeth.

 

Cynlluniau Masnachu Allyriadau

Cynllun newydd Masnachu Allyriadau’r DU (UK ETS)

Disodlodd Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (UK ETS) gyfranogiad y DU yng Nghynllun Masnachu Allyriadau'r UE (EU ETS) ar 1 Ionawr 2021.

Mae newidiadau allweddol yn effeithio ar ddeiliaid trwyddedau cyfredol gan gynnwys:

  • trosi trwyddedau EU ETS naill ai'n drwyddedau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu'n drwyddedau ysbytai neu allyrwyr bach
  • newid trwyddedau allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn canol mis Ionawr 2021 i gynnwys amodau ar ddyrannu lwfansau am ddim

Mae trwyddedau wedi'u eu trosi yn berthnasol i allyriadau 2021 yn unig. Rhaid i weithredwyr barhau i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan EU ETS ar gyfer cynllun blwyddyn 2020, a ddaw i ben ar 30 Ebrill 2021.

Dysgwch fwy am UK ETS a chydymffurfio â rhwymedigaethau EU ETS cyfredol.

 

Newidiadau i Reoliadau Cynefinoedd 2017

Yn ogystal â DEFRA, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eglurhad o’r newidiadau gweithredol i Reoliadau Cynefinoedd 2017 (LLYW.CYMRU). Mae’r newidiadau yn cynnwys:

  • ailenwi Natura 2000 yn ‘rhwydwaith safleoedd cenedlaethol’
  • trosglwyddo rhai o ddyletswyddau’r Comisiwn Ewropeaidd i’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC)

 

Y terfynau sydd uwchlaw trwyddedau sylweddau ymbelydrol

Os ydych yn cael anhawster cydymffurfio â'ch terfynau trwydded sylweddau ymbelydrol oherwydd problemau a achosir gan ymadael â'r UE neu COVID-19, cyfeiriwch at y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf