Diweddaraf: ein hymateb i bandemig y coronafeirws

Ymweld â’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur

Wrth ymweld â'n coetiroedd, cofiwch ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol i ddiogelu Cymru drwy wneud y canlynol:

  • cynllunio ymlaen llaw
  • cadw pellter oddi wrth eraill
  • parcio'n gyfrifol
  • bod yn amyneddgar a pharchus
  • dilyn y Cod Cefn Gwlad

Darllenwch y dudalen ar gyfer y coetir neu’r warchodfa cyn eich ymweliad.

Ffyrdd o weithio

Mae’r rhan fwyaf o’n staff yn parhau i weithio o’u cartref. Rydym yn parhau i ymweld â safleoedd a chasglu data yn ystod digwyddiadau amgylcheddol sylweddol, ac ymateb i faterion sydd o’r risg mwyaf i’r cyhoedd a’r amgylchedd.

Rheoliadau amgylcheddol

Rydym yn disgwyl i fusnesau ac unigolion barhau i gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac amodau eu trwyddedau.

Os yw busnes neu unigolyn a reoleiddir yn wynebu problemau o ran cydymffurfio ag amodau trwydded a bod hynny’n ganlyniad uniongyrchol i'r amgylchiadau eithriadol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, dylai:

  • Roi gwybod inni am y materion a sut y cânt eu rheoli cyn gynted ag y bo modd.
  • Blaenoriaethu cydymffurfio â'r amodau trwydded hynny sy'n diogelu'r amgylchedd yn uniongyrchol.
  • Cymryd pob cam ymarferol arall i atal a lleihau i’r eithaf unrhyw niwed i'r amgylchedd neu risgiau i iechyd y cyhoedd.
  • Cadw cofnodion clir a chynhwysfawr o'r penderfyniad a wnaed a'r camau a gymerwyd.

Os bydd busnesau ac unigolion a reoleiddir yn dilyn y canllawiau hyn, byddwn yn mynd ati mewn ffordd gymesur a rhesymol i asesu cydymffurfiaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Byddwn yn parhau i wirio ac asesu cydymffurfiaeth mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys galwadau ffôn, ymweliadau â ffocws â safleoedd blaenoriaeth, a defnyddio amryw o ddulliau amgen ar gyfer casglu gwybodaeth.

Digwyddiadau ar ein tir

Mae rhai sefydliadau yn cynnal digwyddiadau ar ein safleoedd. Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol os hoffech wybod a oes unrhyw newidiadau i ddigwyddiad yr ydych yn ei fynychu.

Trefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad

Canllawiau i reolwyr tir a safle

Gweler canllawiau ar gyfer rheolwyr safleoedd diwylliannol naturiol ac awyr agored ar gyfer gweithredu safleoedd mor ddiogel ag sydd bosibl.

Ein gweithgareddau coedwigaeth

Rydym yn parhau â’n gweithgareddau cynaeafu i gynorthwyo’r cyflenwad o gynhyrchion pren.

Cynhelir archwiliadau llym ar ein holl safleoedd coedwigaeth i sicrhau ein bod yn gweithredu o fewn canllawiau cyfredol y Llywodraeth o ran mesurau Coronafirws ac ymbellhau cymdeithasol. 

Ceisiadau am drwyddedau cwympo a Sgrinio Effeithiau Amgylcheddol 

Rydyn ni’n prosesu ceisiadau am drwyddedau cwympo coed a Cheisiadau Sgrinio Effeithiau Amgylcheddol fel arfer. Ein nod yw cwblhau'r rhain yn ôl yr amserlenni safonol. Os bydd oedi gyda'ch cais, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac efallai y byddwn yn gofyn am amser ychwanegol i wneud ein penderfyniad.

Pan bydd angen ymweld â safle, byddwn yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Ni fyddem yn disgwyl cyfarfod â rheolwyr safleoedd, ond byddwn yn cysylltu â nhw ymlaen llaw i sicrhau y gallwn gynnal y gwaith yn ddiogel.

Mae ein staff trwyddedu yn gweithio gartref a gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost ar  fellinglicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu

  • Rydym yn dal i brosesu ymgynghoriadau cynllunio ond efallai y bydd yn cymryd mwy o amser inni roi cyngor a gall fod yn hwy na’r cyfnod a nodir yn ein safonau gwasanaeth cyhoeddedig arferol.
  • Rydym wedi ailddechrau'r broses o ddarparu ein Cyngor Cynllunio Dewisol arferol lle y mae adnoddau'n caniatáu, ac nid oes dim perygl o effaith andwyol ar ein gallu i ddarparu ein gwasanaeth statudol.
  • Penderfynir ar sail pob achos unigol ynglŷn â’n hargaeledd i gynnal ymweliad safle, a bydd hynny’n amodol ar gynnal asesiad risg digonol. Dylid cyflwyno ceisiadau am ymweliadau safle drwy e-bost.
  • Mae ein staff yn dal i weithio o gartref. Gofynnir ichi anfon unrhyw ymholiadau neu ymgynghoriadau drwy e-bost ac nid drwy'r post cyffredin.

Yn achos prosiectau yn Sir Benfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, anfonwch e-bost at: swplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn achos prosiectau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Sir Fynwy, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Blaenau Gwent, Caerffili, a Merthyr Tudful, anfonwch e-bost at: southeastplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn achos prosiectau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Ceredigion, Parc Cenedlaethol Eryri, anfonwch e-bost at: northplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn achos prosiectau ym Mhowys, Ceredigion, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, anfonwch e-bost at: MidPlanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Newidiadau i'r gwasanaeth dadansoddol

Mae digwyddiadau diweddar wedi effeithio'n sylweddol ar ein gwasanaethau dadansoddol. Mae'n rhaid i ni flaenoriaethu dadansoddi CNC mewnol, felly rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i beidio â darparu gwasanaethau masnachol.

Os oes gennych bryderon, cysylltwch drwy ebostio ein gwasanaethau dadansoddol. 

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf