Penderfyniadau rheoleiddiol ar gyfer rheoli gwastraff

Ailddechrau cyfleuster trin carthion preifat

Mae angen cymryd camau gofalus cyn ailddechrau cyfleuster trin carthion ar ôl cyfnod o lif araf o elifion.

Yn ystod gweithrediad arferol, mae llif rheolaidd o elifion carthion yn cadw micro-organebau yn fyw yn y broses fiolegol. Mae'r cyfleuster trin carthion yn dibynnu ar y broses fiolegol i fwydo a chael gwared ar lygryddion, gan drin elifion carthion i ansawdd digonol cyn ei ollwng i ddŵr wyneb neu ddŵr daear.

Gall ailddechrau’r cyfleuster ar ôl iddo gael ei gau o ganlyniad i’r COVID-19 orlwytho'r micro-organebau. Gallai hyn arwain at elifion o ansawdd gwael yn llygru'r amgylchedd os nad yw’r gweithredwr yn cymryd camau gofalus i arwain y broses fiolegol.

Canllawiau

Yng Nghymru, mae gollwng elifion carthion i ddŵr daear neu ddŵr wyneb yn cael ei reoleiddio o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Rhaid i'r gollyngiad fodloni'r safonau a nodir mewn trwydded amgylcheddol neu fodloni telerau esemptiad.

Mae gweithredwyr sy'n gollwng elifion o ansawdd gwael yn cymryd y risg o dorri’r rheolau neu esemptiad amgylcheddol os yw'r gollyngiad yn achosi llygredd dŵr wyneb neu ddŵr daear. Wrth i fusnesau agor, mae cynnydd yn y llif neu ddechrau’r cyfleuster trin yn sydyn yn debygol iawn o arwain at elifion o ansawdd gwael os nad yw’r gweithredwyr yn cymryd camau i sicrhau bod y cyfleuster yn gallu gweithredu'n effeithiol.

Dylai gweithredwyr sydd wedi arfer ag amrywiadau tymhorol mewn llif a llwythi fel meysydd gwersylla, pentrefi gwyliau ac atyniadau i dwristiaid ddilyn eu gweithdrefnau arferol ar gyfer cynnydd yn y llif i'w cyfleusterau trin gan gydymffurfio â'u trwyddedau amgylcheddol.

Dylai gweithredwyr nad ydynt wedi arfer ag amrywiadau tymhorol mewn llifoedd carthion ofyn am gyngor technegol arbenigol ar gyfer ail-gomisiynu eu cyfleuster trin carthion. Gellir gwneud hyn trwy gysylltu ag un o’r canlynol.

  • Eich contractwr cynnal a chadw arferol ar gyfer y cyfleuster trin carthion
  • Gwneuthurwr neu osodwr y cyfleuster trin carthion
  • Peiriannydd cynnal a chadw proffesiynol ar gyfer y cyfleuster trin carthion

Fel rhan o'r broses ailddechrau, efallai y bydd angen ail-hadu’r cyfleuster parod â slwtsh o gyfleuster arall. Bydd angen i weithredwyr gofrestru esemptiad gwastraff U6 i gario’r slwtsh hwn o gyfleuster carthion arall.

Mae British Water wedi creu canllawiau ar gyfer ailddechrau cyfleuster parod i drin carthion ac mae rhestr o beirianwyr cynnal a chadw addas i'w gweld ar eu gwefan.

Efallai y bydd gan y cyfleuster trin hefyd gyn-driniaeth ar ffurf trapiau braster, olew a saim. Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod y rhain yn barod i'w defnyddio eto pan fydd y cyfleuster trin yn weithredol neu gallwch fod mewn perygl o niweidio'r cyfleuster. Dylid defnyddio cynhyrchion glanhau yn gynnil gan y bydd y broses fiolegol yn y cyfleuster trin yn sensitif i lefelau gormodol o gemegau.

Ar ôl i gyfleuster trin gael ei ailddechrau neu fod llifoedd wedi cynyddu, rhaid i'r gweithredwr barhau i’w fonitro i sicrhau ei fod yn gweithredu'n gywir ac nad yw'n achosi llygredd.

Os oes pryderon bod llygredd yn digwydd dylai'r gweithredwr hysbysu ei gyswllt rheoliadol neu ffonio ein llinell gymorth 24 awr.

Gwaredu diodydd gwastraff

Rhaid peidio â thywallt diodydd gwastraff i lawr draeniau sy'n arwain at gyfleusterau trin carthion preifat neu'n uniongyrchol i ddŵr wyneb neu ddŵr daear oherwydd gall achosi llygredd.

Dim ond cludwyr gwastraff trwyddedig ddylai gael gwared â diodydd gwastraff a dylid ond eu gwaredu mewn cyfleusterau gwastraff a ganiateir, addas. Cysylltwch â Chymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain i gael cyngor neu cyfeiriwch at yr hierarchaeth wastraff.

Cardiau copi ar gyfer cludwyr gwastraff

Oherwydd bod ein swyddfeydd ar gau, nid ydym yn gallu darparu cardiau copi ar gyfer cludwyr gwastraff ar hyn o bryd.

Gellir defnyddio eich rhif cyfeirnod fel tystiolaeth o'ch cofrestriad.

Terfynau storio gwastraff

Yn dilyn adolygiad, nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys bellach

Rhwymedigaethau cynhyrchwyr o ran pecynnu

Yn dilyn adolygiad, nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys bellach

Llofnodi dogfennaeth gwastraff

Yn dilyn adolygiad, nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys bellach

Cymhwysedd technegol

Yn dilyn adolygiad, nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys bellach

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf