Cofrestr gyhoeddus ar-lein newydd bellach yn fyw!

Mae ein cofrestr gyhoeddus ar-lein newydd bellach yn fyw - gan ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth am geisiadau trwydded. Yn y blog hwn, mae Stephen Attwood, arweinydd ein tîm Arloesi Rheoleiddio yn siarad am sut adeiladodd y tîm y datblygiad newydd hwn, a'r budd rydym yn gobeithio y bydd yn ei gynnig i'n cwsmeriaid.

“Rydym yn cyhoeddi trwyddedau ac eithriadau i ddiwydiant, busnesau ac unigolion gyflawni rhai gweithgareddau sydd â'r potensial i lygru neu niweidio'r amgylchedd.

“Rydyn ni eisiau bod yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau a’i gwneud hi mor hawdd â phosib i gwsmeriaid weld ceisiadau a gwybodaeth am drwyddedau. Mae ein cofrestr gyhoeddus ddiweddaredig yn gam mawr wrth wella sut rydym yn gweithio gyda'n cwsmeriaid trwy sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael ar-lein.

“Gallwch chi chwilio am a lawrlwytho dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus yn ymwneud â gwastraff, ansawdd dŵr a thrwyddedau amgylcheddol gweithfeydd, a thrwyddedau adnoddau dŵr. Bydd dogfennau trwyddedau morol hefyd ar gael yn fuan.

“Gall cwsmeriaid nawr gael gafael ar ddogfennau trwyddedau, sy'n ymwneud â safleoedd yng Nghymru, heb orfod gwneud cais. Gallwch hefyd chwilio yn ôl cod post neu enw'r dref - rhywbeth rydyn ni'n gwybod roedd ein llawer o'n cwsmeriaid eisiau ei wneud.

“I ddechrau, dim ond dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus a dderbyniwyd gan gwsmeriaid, neu a grëwyd gennym ni, o 1 Medi 2018 fydd ar gael. Byddwn yn gwrando ar eich adborth ac yn gweithio i wneud gwelliannau. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod mwy o wybodaeth am gyfundrefnau eraill ar gael, yn y dyfodol.

"Gallwch barhau i gysylltu â ni i gael mynediad at ddogfennau o'r gofrestr gyhoeddus hyd at 1 Medi 2018.

Edrych ar y rhestr lawn o'n cofrestrau cyhoeddus, a'r wybodaeth sydd ynddynt.

 

 

Image credit: istock.com/anyaberkut

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru