Mynediad di-rwystr i'r awyr agored

Mae Rachel Parry o'r tîm Hamdden, Iechyd, Lles ac Addysg yn sôn am sut yr ydym wedi ei gwneud yn haws i ymwelwyr ddod o hyd i lwybrau di-rwystr yn ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Amrywiaeth cyfoethog o gyfleoedd i fwynhau natur

Mae ein llwybrau di-rwystr, sy'n gyfeillgar i gadeiriau olwyn, yn rhoi cyfle i bawb brofi rhaeadrau, dyffrynnoedd mynyddig, coetiroedd, morlinau, twyni tywod a rhostiroedd.

Mae gan rai o'n safleoedd ganolfannau ymwelwyr hygyrch hefyd ac mae gan sawl un fannau chwarae hygyrch. Mae Garwnant, un o'n canolfannau ymwelwyr yn ne Cymru, wedi ei gynnwys yn y Rough Guide to Accessible Britain a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Fodd bynnag, mae mynediad cynhwysol yn golygu mwy na dileu rhwystrau ar lawr gwlad; mae hefyd yn golygu ei bod yn hawdd cael gafael ar wybodaeth am ble y gallwch fwynhau'r awyr agored.

Er bod digon o leoedd hygyrch ar gael, nid oedd gennym wybodaeth hygyrch am ble'r oedden nhw! Roedd yn rhaid i bobl edrych ar we-dudalen pob un o’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn unigol er mwyn canfod a oedd llwybrau a chyfleusterau oedd yn cwrdd â’u hanghenion yno.

Gwe-dudalen siop-un-stop newydd am lefydd i ymweld â nhw sy’n addas ar gyfer pob gallu

Roedd yr asesiadau o effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd mewn rhai o'n safleoedd yn ddiweddar yn argymell ein bod yn gwella'r ffordd yr ydym yn cyfathrebu ag ymwelwyr.

Er mwyn helpu i wneud hynny, rydym wedi cyhoeddi gwe-dudalen "Llefydd i ymweld â nhw ar gyfer phob gallu" newydd. Mae ganddi grynodeb o'r cyfleusterau hygyrch sydd gennym ledled Cymru ynghyd â dolenni i we-dudalen unigol bob coetir neu Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae'r dudalen newydd hon yn galluogi pobl i weld ar unwaith beth sydd ar gael a chlicio i gael gwybodaeth fanwl am y llwybrau a'r cyfleusterau ymwelwyr ym mhob safle.

Nawr gallwn nid yn unig fod yn falch o’r nifer o safleoedd a llwybrau sydd gennym sy'n hygyrch i bawb ond hefyd yn hapus ein bod yn darparu gwybodaeth llawer gwell i bobl ar gyfer cynllunio eu hymweliad.

Ein gwaith i wella mynediad i bawb

Un agwedd yn unig yw'r we-dudalen newydd o’r gwaith yr ydym yn ei wneud er mwyn gwneud ein safleoedd yn fwy hygyrch, cynhwysol a chroesawgar, fel bod pawb yn gallu mwynhau'r awyr agored.

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith i wella mynediad i bawb:

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru