Gyda'n gilydd, gallwn fynd i'r afael â Llygredd Amaethyddol
Amaethyddiaeth yw asgwrn cefn economi wledig Cymru ac yn ystod mis cyntaf fy nghyfnod fel Cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru, rydw i wedi dod yn fwy ymwybodol o sut mae ffermio yn llunio’r cefn gwlad sydd o gwmpas ein cymunedau a'r dylanwad y mae’n ei gael ar ein hamgylchfyd.
Yn ystod y mis cyntaf hwn, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, ei bod yn bwriadu cyflwyno rheoliadau newydd yn y Gwanwyn gyda'r nod o leihau nifer yr achosion o lygredd amaethyddol. Rwy’n croesawu’r cam hwn ac rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i amlinellu sut mae angen i hyn weithio ochr yn ochr â mesurau eraill sydd eisoes ar y gweill.
Digwyddiad llygredd
Mae Amaethyddiaeth wedi bod yn gyfrifol am rhwng 115 a 165 o achosion profedig o lygredd yn flynyddol yn ystod pob un o'r wyth mlynedd diwethaf, gyda thua hanner o'r rhain yn gysylltiedig â ffermydd godro. Dengys ein tystiolaeth fod y digwyddiadau hyn yn cael eu hachosi gan leiafrif bychan o ffermwyr - dim ond tua 3.8% o ffermydd llaeth yng Nghymru sy'n gysylltiedig â digwyddiad profedig o lygredd bob blwyddyn.
Ac felly, wrth i fi deithio trwy Gymru, rwy'n pwyso a mesur ble’r ydym ni, a ble rydym yn mynd o ran amaethyddiaeth yng Nghymru, yn enwedig yn y sector llaeth.
Gwyddom fod maint buchesi yn cynyddu, sy'n golygu mai felly hefyd y mae hi o ran maint y slyri a gynhyrchir. Fodd bynnag, y cwestiwn sydd angen i ffermwyr ei ofyn yw a oes ganddyn nhw’r seilwaith a'r tir ar gael i reoli storio a rheoli slyri yn ddiogel.
Arfer ffermio
Mae gwasgaru slyri a thail yn rhan dderbyniol o arfer ffermio, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud ar dir sydd â'r gallu i amsugno'r maetholion yn ddiogel. Mae cynllunio rheoli maetholion yn allweddol. Mae slyri yn adnodd ariannol pwysig ar ffermydd, ac mae’n gallu darparu maetholion cost isel gwerthfawr, gyda phob buwch yn cynhyrchu gwerth cyfartalog o £78 y flwyddyn.
Mae slyri hefyd, fodd bynnag, yn llygrwr o bwys os yw'n mynd i mewn i ddyfrffosydd. Mae'n tynnu’r ocsigen o'r dŵr ac yn lladd bywyd yr afon. Er y gall y llygredd symud ymlaen o fewn oriau a gall y dŵr redeg yn glir, gall yr effaith hirdymor fod yn aruthrol. Mae rhywogaethau fel brithyllod, eogiaid, trochwyr a siglennod llwyd yn dibynnu ar larfau pryfed a chramenogion. Pan fydd y mathau hyn o infertebratau yn cael eu lladd ochr yn ochr â'r pysgod, gall adferiad ein nentydd a’n hafonydd gymryd llawer iawn o flynyddoedd.
Mae'r un ffrydiau a'r afonydd hyn yn rhoi inni amrywiaeth eang o fuddion yng Nghymru - gan gynnwys cyflenwad dŵr yfed glân, dŵr ar gyfer defnydd busnes a chyfleoedd hamdden.
Felly mae llygredd amaethyddol yn broblem y mae angen i ni i gyd fynd i'r afael â hi fel rhan o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a diogelu lles cenedlaethau'r dyfodol.
Dim bwled arian
Does dim un bwled arian penodol all ddatrys y broblem hon - mae'r ateb yn gyfuniad o wahanol driniaethau, ac mae angen i bob un ohonynt gael eu hategu gan ffyrdd newydd o feddwl.
Mae rheoleiddio effeithiol yn un o ddetholiad o offer sydd ar gael i ni a phan fyddwn yn ei gyfuno â chyngor, mentrau gwirfoddol a mesurau aswiriant a buddsoddi, a gwneud y defnydd gorau o arloesedd, mae'n darparu cymysgfa rymus fydd yn helpu i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd ac, ar yr un pryd, yn cefnogi ffermio er mwyn i hwnnw fod yn ddiwydiant cynaliadwy a ffyniannus ar gyfer y dyfodol.
Mae datrys problemau llygredd amaethyddol yn gofyn am fabwysiadu dull cydgysylltiedig. Bellach mae ffermwyr, cyrff amaethyddol, pysgotwyr, rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, a Llywodraeth Cymru yn cydweithio trwy is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru (WLMF) ar lygredd amaethyddol er mwyn mynd i'r afael â'r mater ar y cyd.
Rwy'n falch iawn bod Zoe Henderson, un o'n haelodau ar Fwrdd CNC, yn cadeirio'r grŵp pwysig hwn.
Prosiectau sydd mewn grym
Mae nifer o brosiectau ar y gweill gan aelodau'r WLMF gan gynnwys penodi wyth swyddog amaethyddol newydd gennym ni yn CNC. Bydd y swyddogion newydd hyn yn gweithio gyda ffermwyr ar hyd a lled Cymru, gan roi cyngor ar sut i atal llygredd a chydymffurfio â gofynion rheoliadol yn ogystal â rhannu arfer gorau. Y nod yw ymweld â thua 30% o'r 1,700 o ffermydd godro yng Nghymru yn ystod y flwyddyn gyntaf hon.
Mae Cyswllt Ffermio hefyd wedi prif ffrydio pecyn ymwybyddiaeth, cyngor a hyfforddiant i ffermwyr ar hyd a lled Cymru ynghyd â rhaglen gymorth wedi'i thargedu ar gyfer ffermwyr o fewn i’r 28 dalgylch blaenoriaeth sy'n cael eu heffeithio'n sylweddol gan lygredd amaethyddol.
Mae Dŵr Cymru yn ehangu ei brosiect llwyddiannus PestSmart; mae coleg amaethyddol Gelli Aur yn edrych ar ddyfeisiadau dad-ddyfrio arloesol ac mae CNC hefyd yn falch o fod yn cefnogi prosiect partneriaeth dan arweiniad NFU Cymru er mwyn gyrru ymlaen y dasg o ddatblygu dull gwirfoddol o reoli maetholion sy'n cael ei arwain gan ffermwyr.
Ac mae'r mathau hyn o ddulliau gweithredu eisoes yn dechrau cael effaith.
Mae arolwg diweddar ar ran Menter a Busnes yn dangos bod 87% o ffermwyr bellach yn ystyried llygredd amaethyddol fel pwnc hynod bwysig, ac mae 1047 o geisiadau wedi'u gwneud ar gyfer Cynlluniau Rheoli Maetholion dan y Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. At hyn, mae bellach saith grŵp Agrisgôp newydd eu ffurfio sy’n ymroddedig i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol yn nalgylchoedd Gele, Pentywyn, Troddi, Penrhyn Llŷn, Y Bannau, Olwy a Crychiau.
Edrych Ymlaen
Mae arnom angen cyfuniad o ddulliau o fynd i'r afael â llygredd amaethyddol gan fod pob fferm yn wahanol. Gan ddefnyddio'r holl offer sydd ar gael nawr, rwy'n credu ein bod ni'n llawer mwy tebygol o wireddu'r newid sylweddol yn y ddarpariaeth rydym ni i gyd yn chwilio amdani. Rwy'n hyderus y gellir cyflwyno'r rheoliadau newydd gaiff eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd y Cabinet yn y Gwanwyn yn y fath fodd fel y byddan nhw’n ategu, cefnogi ac adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn.
Mae gennym afonydd, llynnoedd a dyfroedd arfordirol gwych yng Nghymru. Maent yn chwarae rhan bwysig yn yr economi a lles pobl ac yn darparu cartref i rywogaethau pwysig fel eogiaid a brithyll môr.
Er lles i bawb, dylem i gyd estyn llaw a gweithredu gyda’n gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem barhaus ac annerbyniol hon.