Cael gwared ar rwystrau i afonydd iach
Ar ddydd Sadwrn (Ebrill 21) byddwn yn dathlu Diwrnod Pysgod Mudol y Byd (WFMD). Dyma ddigwyddiad undydd sy’n lleol ac yn fyd-eang ar unwaith, digwyddiad a grëwyd er mwyn hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd afonydd agored a physgod sy’n ymfudo.
Yn fy amser hamdden, rwy’n gwirfoddoli gyda Sefydliad Pysgod Mudol y Byd (World Fish Migration Foundation), ac roeddwn yn allweddol wrth sefydlu’r sefydliad hefyd.
Yma yng Nghymru, ynghyd â’r DU ac Ewrop, mae pysgod mudol yn hynod bwysig.
Trwy gael gwared â’r rhwystrau sy’n atal pysgod mudol rydym yn helpu i sicrhau iechyd ein hafonydd, ac mae hynny’n gam hanfodol os ydym am gyrraedd y safonau a osodwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Yn ogystal â hyn, mae’n hollbwysig wrth gynnal poblogaethau pysgod cynaliadwy- rhywbeth sy’n cyfrannu tuag at Gymru lewyrchus trwy roi miliynau o bunnoedd o hwb i’r economi wledig, gan greu cannoedd o swyddi ym meysydd pysgota.
Dros y ddegawd ddiwethaf rydym wedi bod yn cydweithio gyda sawl ymddiriedolaeth afonydd ynghyd â phartneriaid eraill er mwyn cael gwared â rhwystrau ledled Cymru. Weithiau’n gosod bylchau pysgod drud, dro arall yn tynnu rhwystrau bychain pan fydd hynny’n ddiogel.
O ganlyniad rydym wedi adfer mynediad at gannoedd o gilometrau o gynefinoedd afon.
Ond ar raddfa fyd eang, mae cynnal pysgodfeydd hyfyw yn bwysicach fyth.
Yn Ne America, Affrica, a De Ddwyrain Asia, mae cannoedd o filiynau o bobl yn llwyr ddibynnol ar bysgodfeydd afonydd am eu protein. Mae’r pysgodfeydd yma yn eu tro’n ddibynnol ar ryddid y pysgod i fudo hyd afonydd enfawr megis yr Amazon, y Congo, a’r Mekong. Serch hynny, caiff yr afonydd yma a’u pysgodfeydd eu peryglu gan y cannoedd o argaeau sydd wedi’u hadeiladu dros y ddegawd ddiwethaf, a’r cannoedd sydd wrthi’n cael eu cynllunio.
Nid yw’r rhai sy’n adeiladu’r argaeau hyn, sy’n cael eu hariannu’n aml gan fanciau gorllewinol, yn ystyried yr hyn sy’n angenrheidiol wrth gynnal poblogaethau pysgod- megis darparu llwybrau amgen i bysgod, neu gydnabod y difrod a’r dinistr a wneir i gynefinoedd pysgod yn sgil creu’r cronfeydd enfawr.
Mae llawer iawn yn y fantol- ar un ochr ceir lles poblogaethau cynhenid, ac ar y llall anghenion y dinasoedd sy’n datblygu am ragor o ynni hydro-electrig.
Bwriad Sefydliad Pysgod Mudol y Byd yw gwella ymwybyddiaeth o’r materion yma trwy amlygu’r angen tyngedfennol i amddiffyn adnoddau pysgodfeydd, gan sicrhau bod llwybrau mudo pysgod yn cael eu gwarchod. Mae Diwrnod Pysgod Mudol y Byd yn un ffordd o wneud hyn. Yn 2016 bu dros 50 miliwn o bobl yn rhan o ddathliadau oedd yn canolbwyntio ar afonydd di-rwystr i bysgod, a chydnabod yr angen brys i gysylltu pysgod, afonydd, a phobl.
Ar ddydd Sadwrn bydd llyfr newydd y Sefydliad, ‘From Sea to Source’, yn cael ei gyhoeddi. Dyma ddilyniant i gyhoeddiad cynharach, llyfr sydd â thros 10,000 o gopïau wedi’u dosbarthu hyd a lled y byd.
Mae Diwrnod Pysgod Mudol y Byd yn mynd o nerth i nerth, ac nid pysgotwyr yn unig sy’n gefnogol erbyn hyn. Mae cyrff cyhoeddus, gwleidyddion, a chyrff anllywodraethol yn hefyd yn rhan o’r diwrnod, ac eleni rydym yn falch iawn o gael Jeremy Wade, o’r rhaglen River Monsters, a Zeb Hogan o National Geographic, fel llysgenhadon.
Bydd dros 520 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn, gan gynnwys 4 yng Nghymru:
- Cored Radyr ar Afon Taf gydag Ymddiriedolaeth Afonydd De Ddwyrain Cymru, Dŵr Cymru, Awdurdod Harbwr Caerdydd, a CNC
- Magl pysgod Cored Caer ar Afon Dyfrdwy, gyda CNC ac Ymddiriedolaeth Dyfrdwy
- Sadwrn Sewin yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn gyda Cadwraeth Eog a Brithyll Cymru a CNC
- Eogiaid yn Nhalgarth gyda Sefydliad Gwy ac Wysg
- Prosiect AMBER – taith y brithyll gyda Phrifysgol Abertawe a WFMF
Cewch ragor o wybodaeth yma https://www.worldfishmigrationday.com/