Rhaglen Gwella Amgylcheddol

Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am arbenigwyr amgylcheddol uchelgeisiol ac angerddol i fod yn rhan o’n Rhaglen Gwella’r Amgylchedd newydd a fydd yn cyflawni prosiectau er mwyn diogelu ein hamgylchedd a gwella bioamrywiaeth ledled Cymru.

Ydych chi’n hyderus, yn frwdfrydig ac yn drefnus, yn ogystal â bod yn aelod bodlon o dîm sydd â sgiliau pobl ardderchog?

Ydych chi’n teimlo’n angerddol am yr amgylchedd?

Oes gennych chi arbenigedd yn yr amgylcheddau morol, daearol neu ddŵr croyw, a sut y cân nhw eu defnyddio a’u rheoli?

Oes gennych chi unrhyw brofiad o weithio gydag eraill i ddatblygu a chyflawni prosiectau?

Hoffech chi weithio fel rhan o raglen waith gyffrous er mwyn diogelu ein hamgylchedd a gwella bioamrywiaeth ledled Cymru?

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Beth yw beth?

Mae mwy o dystiolaeth ar gael yn fyd-eang am yr argyfwng hinsawdd a byd natur sy’n ein hwynebu - yng Nghymru, mae 1 o bob 6 o’n rhywogaethau daearol mewn perygl o ddiflannu, dim ond 40% o’n dyfroedd wyneb sy’n cyrraedd y safonau ansawdd dŵr Ewropeaidd gofynnol, ac mae ystod o bwysau hanesyddol a chyfredol wedi effeithio ar ein hecosystem forol. Mae bioamrywiaeth a dŵr yn hanfodol i bob ecosystem. Mae’n eu diffinio ac yn sail i’w gweithrediad, eu gwytnwch a’u gallu i ddarparu buddion. Mae’n hanfodol, felly, ar gyfer ein lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo arian cyfalaf ar gyfer y cyfnod 2020/2021 er mwyn sicrhau gwelliannau amgylcheddol ar dir a môr yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyflawni gwelliannau, wedi’u targedu, i rwydwaith Natura 2000, ansawdd dŵr a chynefinoedd mawndiroedd Cymru, er enghraifft.

Pam Cyfoeth Naturiol Cymru?

Ein diben ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod adnoddau naturiol yn eu rheoli’n gynaliadwy. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r Llywodraeth i fynd i’r afael ag argyfyngau sy’n ymwneud â’r hinsawdd a byd natur.

Rydym yn sefydlu nifer o swyddi er mwyn darparu prosiectau penodol, yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth arbenigol i Lywodraeth Cymru ac eraill er mwyn sicrhau bod rhaglen waith effeithiol yn cael ei chyflwyno y flwyddyn nesaf a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd yng Nghymru.

Pa swyddi sydd ar gael?

Mae'r tair swydd gyntaf yn y rhaglen bellach yn fyw a gellir ymgeisio amdanynt ar ein gwefan. Bydd ail gyfres yn cael ei phostio dros yr wythnosau nesaf. Cadwch lygad ar y blog hwn i gael rhagor o fanylion.

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer mwy nag un swydd (un ffurflen gais ar gyfer pob swydd) yn ogystal â cheisiadau ar gyfer secondiadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn secondiad, trafodwch gyda’ch cyflogwr a chysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gynted â phosibl.

Cynghorydd Rheoli Ardal Forol Warchodedig:

Byddwch yn rhoi cyngor strategol ar y camau y mae angen eu cymryd i wella cyflwr safleoedd morol Natura 2000 ledled Cymru.

Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:

Byddwch yn cydgysylltu ac yn rheoli'r gwaith o gyflenwi amrywiaeth eang o brosiectau gwaith cyfalaf ar gyfer adfer mawndiroedd ar raddfa fawr ledled Cymru.

Cynghorydd Rheoli Cynaliadwy Natura 2000:

Mae llawer o rywogaethau a chynefinoedd yng Nghymru yn dirywio'n sylweddol ac o ganlyniad mae Llywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen o waith i ddechrau'r broses o adfer bioamrywiaeth ac adeiladu ecosystemau gwyd

Arweinydd Prosiect Natura 2000:

Mae llawer o rywogaethau a chynefinoedd yng Nghymru yn dirywio'n sylweddol ac er mwyn mynd i’r afael ar sefyllfa mae Llywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen i daclo’r argyfwng natur yn enwedig ar safleoedd Natur 2000, gan wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.

Cynghorydd Arbenigol Cronfa Cyflafaf Dwr Cynliadwy

Byddwch yn cydlynu ac yn goruchwylio gwaith o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau gwelliannau o ran ansawdd dŵr drwy gronfa cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella ansawdd dŵr.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru