Trwyddedu Morfilod, dolffiniaid, môr-grwbanod a llamhidyddion
Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.
Morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion yw’r mamaliaid mwyaf o ran maint yng Nghymru, a’r mwyaf carismataidd. Anifeiliaid sy’n anadlu aer ydyn nhw, sydd wedi addasu’n ardderchog i’r amgylchedd morol. Maen nhw’n rhoi genedigaeth, yn magu eu hepil, yn byw mewn grwpiau cymdeithasol, yn ddeallus ac yn arbenigwyr ar ecoleoli.
Ni all y dudalen hon gynnwys pob agwedd ar y gyfraith, ond mae’n gyflwyniad i ddangos sut y gallwch chi helpu i warchod teulu’r morfilod.
Deddfwriaeth Rhywogaethau
Mae anifeiliaid teulu’r morfilod wedi’u gwarchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’.
O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n drosedd:
- Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop,
- Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau,
- Ddifa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath
Mae tarfu’n cynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i, unrhyw darfu sy’n debygol:
- o amharu ar eu gallu –
- i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
- yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
- i effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddi yn lleol
Cyn hir, bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dogfen gyfarwyddyd ar y cyd ar darfu, difrodi a difa safleoedd bridio a mannau gorffwys.
Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu. Fodd bynnag, mae’n gyfreithlon i chi ymgeleddu aelod o deulu’r morfilod sydd wedi tirio gyda’r bwriad o’i ddychwelyd i’r môr, neu i ladd aelod o deulu’r morfilod na ellir ei wella, cyn belled â bod yr anaf heb ei achosi gan weithred anghyfreithlon a gyflawnwyd gennych chi. (Rheoliadau Cynefinoedd 44(2); Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 10(3)(a)(b)).
O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), mae’n anghyfreithlon i:
- aflonyddu ar ddolffin neu forfil yn fwriadol neu’n ddi-hid 9(4A)
- gwerthu unrhyw aelod o deulu’r morfilod, ei gynnig neu ei ddangos ar gyfer ei werthu, 9(5)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd i’ch galluogi i weithio o fewn y gyfraith. Mae’n bosib y bydd angen trwydded arnoch i ymgymryd â rhai datblygiadau morol, er enghraifft:
Gall defnyddwyr cychod, proffesiynol a hamdden, osgoi torri’r gyfraith (ac osgoi’r angen am drwydded) drwy ddilyn y Cod y Môr a chodau morol lleol. Ewch i ‘Trwyddedau Rhywogaethau Morol a Warchodir gan Ewrop’ a ‘Côd y Môr’ i gael rhagor o wybodaeth.