Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.


Mae Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 yn gwarchod moch daear a'u deyerydd yn llwyr. Mae troseddau'n cynnwys:

  • lladd, anafu a chymryd (neu geisio gwneud y rhain)
  • meddu ar fochyn daear marw (neu ddarnau sy’n deillio ohono)
  • cam-drin mochyn daear yn greulon
  • difrodi daear moch daear
  • rhwystro mynedfa / mynediad at ddeyerydd moch daear
  • achosi i gi gael mynediad at ddeyerydd
  • tarfu ar foch daear pan fyddant mewn deyerydd

Gallwch gael trwydded ar gyfer gwaith priodol, er mwyn osgoi troseddu.

Trwyddedau

Mae CNC yn awdurdod trwyddedu dan Ddeddf 1992. Rydym ni'n gyfrifol am roi trwyddedau at y dibenion canlynol:

  • At ddibenion gwyddonol neu addysgol neu ar gyfer gwarchod moch daear, i ladd neu gymryd moch daear neu darfu ar ddaear
  • At ddibenion unrhyw erddi neu gasgliadau sŵolegol, i gymryd, meddu ar neu werthu moch daear
  • At ddibenion modrwyo a nodi, i gymryd neu nodi moch daear neu osod dyfais nodi arnyn nhw
  • At ddibenion unrhyw ddatblygiad fel y'u diffinnir yn adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990*, i darfu ar ddaear
  • At ddiben gwarchod heneb, neu gynnal ymchwiliad archaeolegol ar heneb, sydd wedi'i rhestru dan adran 1 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1970, i darfu ar ddaear
  • At ddiben ymchwilio a oes trosedd wedi'i chyflawni neu gasglu tystiolaeth ar gyfer unrhyw achos gerbron unrhyw Lys, i darfu ar ddaear; ac
  • Er mwyn rheoli llwynogod gyda’r nod o warchod bywyd gwyllt neu anifeiliaid hela sydd wedi'u rhyddhau

Yn ogystal â'r rhain, mae gan Lywodraeth Cymru awdurdod dan Adran 10(2) a (3) y Ddeddf i roi trwyddedau i:

  • Darfu ar ddeyerydd moch daear:
    • At ddiben unrhyw weithgaredd amaethyddol neu goedwigaeth
    • At ddiben unrhyw waith i gynnal a chadw neu wella cwrs dŵr sy'n bodoli'n barod neu waith draenio, neu i adeiladu gwaith newydd sydd ei angen i ddraenio tir, yn cynnwys gwaith amddiffyn yn erbyn dŵr y môr neu ddŵr llanw; a
    • Rheoli llwynogod er mwyn gwarchod da byw ac anifeiliaid hela mewn corlannau
  • Lladd neu gymryd moch daear neu i amharu ar eu deyerydd:
    • At ddiben atal clefyd rhag lledaenu; ac
    • At y diben o atal difrod difrifol i dir, cnydau, dofednod neu eiddo o unrhyw fath arall

Beth yw ystyr datblygiad?

Mae Adran 55 (1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) yn diffinio 'datblygiad' fel cynnal gwaith adeiladu, peirianneg, mwyngloddio neu unrhyw weithrediadau eraill mewn, ar, dros neu o dan dir, neu wneud unrhyw newid sylweddol i ddefnydd unrhyw adeiladau neu dir arall.”

Gwaith nad yw'n cael ei ystyried yn ddatblygiad dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref

O dan Ddeddf 1990, mae gwahanol weithrediadau wedi'u heithrio o'r diffiniad o ddatblygiad. Maen nhw'n cynnwys y canlynol:

  • Awdurdod priffyrdd yn cynnal ar dir o fewn ffiniau ffordd unrhyw waith sydd ei angen i gynnal a chadw neu wella'r ffordd ond heb gynnwys unrhyw waith a allai gael unrhyw effeithiau niweidiol sylweddol ar yr amgylchedd
  • Awdurdod lleol neu ymgymerwyr statudol yn cynnal unrhyw waith at ddiben archwilio, atgyweirio neu adnewyddu unrhyw garthffosydd, prif bibellau cyflenwi, pibellau, ceblau neu unrhyw gyfarpar arall, yn cynnwys agor unrhyw stryd neu dir arall at y diben hwnnw
  • Dymchwel unrhyw ddisgrifiad o adeilad a nodir yn y cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru i awdurdodau cynllunio lleol yn gyffredinol neu i awdurdod cynllunio lleol arbennig

Nodwch nad yw'r rhestr hon yn cynnwys pob un dim. Os yw gwaith yn cael ei wneud oherwydd bod moch daear wedi cyfrannu at ddifrod, mae'n bosib y gall Llywodraeth Cymru roi trwydded ar gyfer y gwaith hwnnw. Gall Cynghorwyr Bywyd Gwyllt Llywodraeth Cymru ymweld â'r safle a rhoi cyngor hefyd. Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â CNC neu Lywodraeth Cymru – byddan nhw'n gallu dweud wrthych chi a oes angen trwydded arnoch chi ai peidio.

Gallwch gysylltu â Chynghorwyr Bywyd Gwyllt Llywodraeth Cymru drwy ffonio 0300 061 5920 neu e-bostio wildlife@llyw.cymru.

Gallwch gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio 0300 065 3000 neu e-bostio specieslicence@naturalresourceswales.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf