Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Gwarchodir yr holl rywogaethau ystlumod gan y gyfraith, gan gynnwys eu safleoedd bridio a'u mannau gorffwys.

Ystlumod a'r gyfraith

Mae'n anghyfreithlon gwneud y canlynol:

  • dal, niweidio neu ladd ystlumod yn bwrpasol
  • difrodi neu ddinistrio man bridio neu fan gorffwys
  • rhwystro mynediad i'w mannau gorffwys neu glwydo
  • meddu ar ystlumod byw neu farw, neu rannau ohonynt, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid
  • aflonyddu ar ystlum pan fo mewn strwythur, clwydfan neu fan diogel yn fwriadol neu'n ddi-hid

Efallai y byddwch yn gallu cael trwydded gennym at rai dibenion penodol os ydy’r gwaith rydych chi am ei wneud yn debygol o arwain at drosedd.

Achosion lle nad oes angen trwydded ystlumod

Nid oes angen trwydded ystlumod arnoch er mwyn:

  • gofalu am ystlum anabl
  • lladd ystlum sydd wedi’i anafu’n ddifrifol
  • rhyddhau ystlum o ystafell fyw mewn tŷ

Cael gwybod a oes angen i chi gyflwyno cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Ystlumod yn fy nghartref

Pethau i'w gwneud os ydych yn bryderus am ystlumod yn eich eiddo

Gwneud cais am drwydded ystlumod

Os na allwch osgoi aflonyddu ar ystlumod na difrodi eu clwydfannau, gallwch gyflwyno cais am drwydded rhywogaeth ar-lein.

Gallwch wneud cais am drwydded ar gyfer ystod o wahanol weithgareddau. Ymhlith y mwyaf cyffredin mae:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf