Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Mae mamaliaid bach, at ddibenion y dudalen hon, yn cynnwys llygod pengrwn, llygon, llygod, llygod mawr, gwahaddod a draenogod. Gallwch gael gwybodaeth am drwyddedau ar gyfer mamaliaid eraill ar y tudalennau canlynol:

Mae mamaliaid bach yn cynnwys pryfysorion, fel draenogod, gwahaddod a llygon, a chnofilod, fel llygod a llygod pengrwn. Nid yw pob rhywogaeth yn cael ei gwarchod, ac mae rhai rhywogaethau'n cael eu gwarchod yn fwy nag eraill.

Ni all y dudalen hon roi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg mamaliaid, ond mae'n gyflwyniad i ddangos sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaethau hyn.

Deddfwriaeth y DU

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), 'y Ddeddf', yn rhestru sawl rhywogaeth o famaliaid ar Atodlen 6, sy'n gwahardd eu lladd neu eu cymryd mewn rhai ffyrdd. Maen nhw'n cynnwys y mamaliaid bach canlynol:

  • Draenog, Erinaceus europaeus
  • Llygon, Soricidae
  • Llygoden bengron y dŵr, Arvicola amphibius

Mae llygoden bengron y dŵr wedi'i rhestru ar Atodlen 5 y Ddeddf hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch 'Trwyddedau llygoden bengron y dŵr'.

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Nid oes yr un o'r rhywogaethau sy'n cael sylw yma yn cael eu gwarchod dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ('y Rheoliadau Cynefinoedd'). Mae'r pathew wedi'i restru ar atodlen 5 y Rheoliadau Cynefinoedd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch 'Trwyddedau pathewod'.

Trwyddedau

Mae CNC yn rhoi trwyddedau dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad at ddibenion penodol, er mwyn i chi allu cyflawni rhai gweithgareddau heb dorri'r gyfraith. Gallwn roi trwyddedau at y dibenion canlynol:

  • Gwyddonol ac addysgol
  • Modrwyo neu farcio
  • Gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt, neu eu cyflwyno i ardaloedd arbennig
  • Gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
  • Ffotograffiaeth
  • Iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
  • Atal clefyd rhag lledaenu
  • Atal difrod difrifol i gnydau, eiddo, pysgodfeydd ac ati

Ni allwn roi trwyddedau ar gyfer gwaith datblygu dan y ddeddfwriaeth hon.

Os ydych chi'n bwriadu trapio llygon, gellir gwneud hyn o dan Drwydded Gyffredinol - cyfeirnod Trwydded gyffredinol 017. Ar ôl ei lawrlwytho rhowch wybod i CNC eich bod yn bwriadu gweithio o dan y drwydded drwy e-bost i trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a chofiwch darllen yr holl amodau sy'n gysylltiedig â'r drwydded gan gymryd sylw arbennig o gyflyrau 97, 98 a 211.

Os ydych chi'n bwriadu trapio rhywogaeth nad yw'n cael ei gwarchod neu sy'n bla, ond bod posibilrwydd y byddwch yn trapio rhywogaeth Atodlen 5 neu Atodlen 6, darllenwch 'Trapio anifeiliaid Atodlen 5 ac Atodlen 6 yn ddamweiniol', 'Adrannau Perthnasol y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad' a 'Nodiadau ar Drapio Llygon'.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf