Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Mae dwy rywogaeth o forlo yn y DU, y morlo llwyd a’r morlo cyffredin – mae’r morlo llwyd yn llawer mwy cyffredin yng Nghymru.

Mae Deddf Gwarchod Morloi 1970 yn gwahardd y dulliau canlynol o ladd neu gymryd morloi:

  • Defnyddio unrhyw sylwedd gwenwynig
  • Defnyddio unrhyw ddrylliau heblaw reiffl gyda bwledi penodol

Mae yna dymor caeedig ar gyfer morloi llwyd rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, ac i forloi cyffredin rhwng 1 Mehefin a 31 Awst.

  • Mae cymryd neu ladd yn ystod tymor caeedig yn drosedd

Mae yna rai eithriadau o dan y ddeddfwriaeth hon, nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn droseddau ac nad oes angen trwydded ar eu cyfer:

  • Cymryd / ceisio cymryd morlo sydd wedi anafu at ddibenion gofalu amdano a’i ryddhau
  • Lladd / anafu anochel o ganlyniad i waith anghyfreithlon
  • Lladd / ceisio lladd morlo fel na fyddai’n achosi difrod i rwyd / offer pysgota, neu i bysgod mewn rhwyd, os yw’r morlo ger y rhwyd / offer

Trwyddedau

O dan bwerau a roddwyd iddo gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwyddedau ar gyfer y dibenion canlynol (Adran 10(1)):

  • Dibenion gwyddonol neu addysgol (lladd neu gymryd, ac eithrio defnyddio strycnin)
  • Gerddi / casgliadau sŵolegol (cymryd)
  • Atal difrod i bysgodfeydd (lladd neu gymryd)
  • Lleihau poblogaeth dros ben at ddibenion rheoli (lladd neu gymryd)
  • Defnyddio poblogaeth dros ben fel adnodd (lladd neu gymryd)
  • Gwarchod planhigion ac anifeiliaid mewn ardaloedd a nodwyd yn isadran (4)

Ni fydd trwyddedau i atal difrod yn cael eu rhoi oni bai bod y tri phwynt canlynol yn berthnasol:

  • Mae’r morloi’n achosi, neu’n debygol o achosi, digon o ddifrod difrifol i gyfiawnhau trwydded
  • Mae dulliau rheoli eraill wedi bod yn aneffeithiol neu’n anymarferol
  • Mae’r gweithgarwch a drwyddedir yn debygol o lwyddo i ddatrys y broblem

Pan fo cais am drwydded yn cynnig defnyddio dulliau sydd wedi’u gwahardd o dan Reoliad 45(3) Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, byddwn yn ystyried y cais o dan y Rheoliadau hynny.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf