Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.


Mae morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion (teulu’r morfilod); crwbanod y môr a’r stwrsiwn yn cael eu gwarchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’. Y rheswm am hyn yw bod eu niferoedd wedi gostwng ledled dyfroedd Ewrop yn y degawdau diwethaf. Mae’r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar drwyddedu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yng Nghymru ac nid yw’n adolygiad cynhwysfawr o ecoleg na’r gyfraith.

Mae dyfroedd Cymru’n cynnwys y rhywogaethau canlynol o blith teulu’r morfilod:

  • Llamhidydd, Phocoena phocoena
  • Dolffin trwyn potel, Tursiops truncatus
  • Dolffin cyffredin, Delphinus delphis
  • Dolffin Risso, Grampus griseus
  • Morfil Pigfain, Balaenoptera acutorostrata

Rhywogaethau Morol eraill a Warchodir gan Ewrop a phum crwban y môr:

  • Stwrsiwn, Acipenser sturio
  • Crwban môr pendew, Caretta caretta
  • Crwban môr gwyrdd, Chelonia mydas
  • Crwban môr pendew Kemp, Lepidochelys kempii
  • Crwban môr gwalchbig, Eretmochelys imbricata
  • Crwban môr cefn-lledr, Dermochelys coriacea

Gall gweithgareddau amrywiol fel datblygiadau morol, gwaith ymchwil ac arolygu, cerbydau dŵr a hamdden effeithio ar deulu’r morfilod. Gweler y ddogfen ‘Cod y Môr’ i gael gwybodaeth am sut i gynnal eich gwaith neu ddiddordebau hamdden heb dorri’r gyfraith.

Diweddariad  i trwyddedu rhywogaethau morol alltraeth 

O 30 Tachwedd 2017, cafodd y cyfrifoldeb am drwyddedu rhywogaethau a warchodir yn rhanbarth alltraeth Cymru dan Reoliadau Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 ei drosglwyddo i Weinidogion Cymru. Daeth y trosglwyddiad swyddogaeth hwn i Weinidogion Cymru ar ôl ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i ddatganoli rhagor o bwerau cadwraeth natur i Gymru.

Gwnaeth y Sefydliad Rheoli Morol roi trwyddedau rhywogaethau morol alltraeth yn flaenorol yn rhanbarth alltraeth Cymru; o 1 Ebrill 2018, mae'r cyfrifoldeb am weinyddu ceisiadau wedi cael ei drosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru.

Os ydych wedi cyflwyno cais i'r Sefydliad Rheoli Morol cyn 1 Ebrill 2018, caiff hwn ei benderfynu o hyd gan y Sefydliad Rheoli Morol. Unwaith y penderfynir ar y cais am drwydded, os oes unrhyw ôl-ofynion trwydded, megis monitro neu ryddhau amodau, Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn ystyried y rhain. Llywodraeth Cymru fyddai'n ymgymryd ag unrhyw waith gorfodi o ran trwydded rhywogaethau a warchodir.

Deddfwriaeth

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
  • Difa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i, unrhyw darfu sy’n debygol:

  • amharu ar eu gallu –
    • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
    • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
  • effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol

Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar darfu, difa ar Rywogaethau Morol a Warchodir gan Ewrop.

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu. Gweler ‘Meddu ar a Gwerthu Rhywogaethau a Warchodir’ i gael gwybodaeth am hyn.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi'n bodloni'r tri phrawf canlynol:

  • mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd (gweler isod)
  • does yna ddim dewis arall boddhaol
  • ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Dibenion trwyddedu

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:

  • diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd (yn cynnwys datblygiadau)
  • dibenion gwyddonol ac addysgol
  • gosod modrwy neu nod
  • gwarchod anifeiliaid gwyllt

Gwyddonol neu Addysgol

Byddwch angen trwydded i gymryd neu darfu ar Rywogaethau Morol a Warchodir gan Ewrop, er mwyn gwneud unrhyw waith ymchwil neu arolwg manwl, yn cynnwys tynnu lluniau. I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau arolygu gweler ‘Gwybodaeth gyffredinol am wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru’ a ‘Ffurflen gais Teulu’r Morfilod’. Gallwn roi trwyddedau ar gyfer dulliau arolygu mwy mewnwthiol yn cynnwys rhoi nod ar anifeiliaid neu gymryd samplau.

 Sylwch fod y ffurflenni cais isod yn berthnasol i'r ardal forol ardraeth a'r ardal forol alltraeth

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf