Trwyddedu Pysgod
Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.
Mae rhai rhywogaethau o bysgod yng Nghymru’n cael eu gwarchod gan eu bod yn brin neu’n agored i gael eu niweidio gan rai gweithgareddau. Mae un ymwelydd prin, y Stwrsiwn, yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop gan fod ei niferoedd wedi gostwng ledled Ewrop.
Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg pysgod, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaethau hyn.
Deddfwriaeth y DU
Mae rhywogaethau pysgod sydd wedi’u gwarchod o dan Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) wedi’u rhestru ar y dudalen ‘Pysgod’. Mae’r ddeddfwriaeth yn eu diogelu am bellter o hyd at 12 morfilltir o arfordir Cymru.
Gweler ‘Pysgod a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru’ am fanylion y gwahanol lefelau o warchodaeth. Mae troseddau a nodir yn Adran 9 yn cynnwys cyfuniadau o’r canlynol:
- Dal, anafu neu gymryd yn fwriadol
- Difa neu ddinistrio unrhyw fan cysgodi neu lochesu
- Tarfu ar bysgod wrth iddyn nhw ddefnyddio man cysgodi neu lochesu
- Rhwystro mynediad at fan cysgodi neu lochesu
- Gwerthu, cynnig neu roi i werthu
Mae yna adran unigryw i’r Heulgi yn y Ddeddf sy’n nodi y bydd unrhyw berson sy’n tarfu’n fwriadol neu’n ddi-hid ar heulgi yn cyflawni trosedd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 16 y Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Dibenion gwyddonol ac addysgol
- Gosod modrwy neu nod
- Cadwraeth
- Ffotograffiaeth
Deddfwriaeth Ewropeaidd
Mae’r Stwrsiwn yn cael ei warchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’, oherwydd bod ei niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf.
Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:
- Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop
- Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
- Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
- Ddifa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath
Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:
- o amharu ar eu gallu –
- i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
- yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
- o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol
Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu. Gweler ‘Meddu ar a Gwerthu Rhywogaethau a Warchodir’ am ragor o wybodaeth.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn i chi allu gweithio o fewn y gyfraith. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi'n bodloni'r tri phrawf canlynol:
- mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd (gweler isod);
- does yna ddim dewis arall boddhaol;
- ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol
Dibenion trwyddedu
O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:
- diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd,
- dibenion gwyddonol ac addysgol,
- gosod modrwy neu nod
- gwarchod anifeiliaid gwyllt