Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Mae yna ddeddfwriaeth benodol i warchod ceirw, sef Deddf Ceirw 1991 (fel y’i diwygiwyd) a elwir ‘y Ddeddf’. Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg ceirw, ond mae’n gyflwyniad byr.

O dan y Ddeddf, mae’r camau canlynol yn anghyfreithlon:

  • Lladd / cymryd / anafu carw heb ganiatâd perchennog / deiliad y tir
  • Cymryd / anafu unrhyw rywogaeth Atodlen 1 yn ystod y tymor caeedig
  • Cymryd / anafu unrhyw garw yn y nos
  • Defnyddio trap, magl, abwyd gwenwynig neu gyffur syfrdanu, neu unrhyw rwyd i ladd / cymryd carw
  • Defnyddio unrhyw ddryll / bwledi a nodwyd yn Atodlen 2, neu saeth, gwaywffon ac ati
  • Defnyddio unrhyw daflegryn sy’n cynnwys gwenwyn, cyffur syfrdanu neu gyfrwng ymlacio cyhyrau
  • Defnyddio cerbyd mecanyddol i danio unrhyw ddryll neu yrru ceirw

Nid yw’n anghyfreithlon lladd neu gymryd carw er mwyn atal dioddefaint carw sydd wedi’i anafu neu sydd wedi dal clefyd.

Mae Atodlen 1 y Ddeddf Ceirw yn rhestru’r rhywogaethau canlynol: carw coch, danas, iwrch a charw sica. Cliciwch y ddolen ar y dudalen hon i gael fersiwn lawnach o’r Ddeddf.

Trwyddedu

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwyddedau at ddibenion gwyddonol o dan y ddeddfwriaeth. Mae’r trwyddedau yn caniatáu gweithgareddau a fyddai’n anghyfreithlon fel arall. O dan Adran 8(2) y Ddeddf, gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwyddedau i gymryd ceirw er mwyn eu symud o un ardal i’r llall, neu gymryd ceirw byw at ddibenion gwyddonol neu addysgol.

Byddai Cyfoeth Naturiol Cymru’n ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch unrhyw geisiadau i symud ceirw o un ardal i’r llall oherwydd byddai hynny’n cynnwys goblygiadau posibl ar gyfer lledaenu clefydau.

Mae strategaeth ceirw Cymru, Rheoli Ceirw Gwyllt yng Nghymru yn amlinellu’r fframwaith ar gyfer rheoli ceirw yn gynaliadwy yng Nghymru. Cliciwch ar y ddolen ar y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am reoli ceirw.

Mae delwyr anifeiliaid hela wedi’u trwyddedu o dan Ddeddf Helwriaeth 1831 a Deddf Trwyddedau Helwriaeth 1860. Nid Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am roi’r trwyddedau hyn.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf