Costau ffilmio a ffotograffiaeth
Mae gennym gyfoeth o leoliadau unigryw y gellir eu llogi. Os ydych yn bwriadu cynhyrchu’r ffilm boblogaidd nesaf a fydd yn cipio gwobr Oscar neu os ydych angen cefndir i’ch rhaglen ddogfen, mae ein hystad yn cynnig amrywiaeth o leoliadau i wneuthurwyr ffilmiau.
I ffilmio ar ein tir mae angen o leiaf 3 wythnos o rybudd arnom; gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu ceisiadau.
Rydym yn ystyried ceisiadau o ran ymholiadau’r cyfryngau neu geisiadau am gyfweliad fesul achos. Cysylltwch â'n swyddfa wasg os oes gennych ymholiad o ran y cyfryngau neu i wneud cais am gyfweliad.
Mae swyddfa'r wasg ar agor yn ystod oriau swyddfa, gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Ffurflen cais i ffilmio ar ein tir
Prif ffilmiau
Cyllideb gynhyrchu o lai na £2 miliwn
Os oes llai na 100 o aelodau yn y cast a’r criw, dyma’r costau:
- £1,600 i ffilmio
- £800 i baratoi
- £800 i glirio’r set
Os oes mwy na 100 o bobl, bydd y pris yn destun trafodaethau masnachol.
Cyllideb gynhyrchu o fwy na £2 miliwn
Os oes llai na 100 o aelodau yn y cast a’r criw a/neu ei fod yn para tridiau neu lai, dyma’r costau:
- £2,000 i ffilmio
- £1,000 i baratoi
- £1,000 i glirio’r set
Os oes mwy o cast a chriw a/neu ei fod yn para am bedwar diwrnod neu fwy, bydd y pris yn destun trafodaethau masnachol. Efallai y byddwn yn gallu lleihau ein ffi os yw'r ffilmio'n dod â manteision i'r amgylchedd, er enghraifft os yw’n gwella cynefin.
Dramâu teledu
Cyfres gyfyngedig neu ar rwydwaith o’r DU sydd â chyllideb gynhyrchu o lai na £2 miliwn
Os oes llai na 50 o aelodau yn y cast a’r criw a/neu ei fod yn digwydd dros dridiau neu lai, dyma’r costau:
- £1,600 i ffilmio
- £800 i baratoi
- £800 i glirio’r set
Drama ryngwladol, stiwdio neu wedi’i syndicetio sydd â chyllideb gynhyrchu o fwy na £2 miliwn
Os oes llai na 50 o aelodau yn y cast a’r criw a/neu ei fod yn para tridiau neu lai:
- £2,000 i ffilmio
- £1,000 i baratoi
- £1000 i glirio’r set
Os oes mwy o gast a chriw a/neu ei fod yn para am bedwar diwrnod neu fwy, bydd y pris yn destun trafodaethau masnachol. Efallai y byddwn yn gallu lleihau ein ffi os yw'r ffilmio'n dod â manteision i'r amgylchedd, er enghraifft os yw’n gwella cynefin.
Hysbyseb teledu
Ar gyfer unrhyw nifer o bobl, dyma’r costau fesul diwrnod:
- £3,000 i ffilmio
- £1,000 i baratoi
- £1,000 i glirio’r set
Sesiwn ffotograffiaeth
Os oes llai na deg o bobl, y gost yw £500 fesul hanner diwrnod.
Os oes mwy na deg o bobl, bydd y pris yn destun trafodaethau masnachol.
Rhaglenni a ffilmiau dogfen
Os yw'r ffilmio neu ffotograffiaeth yn ymdrin â materion amgylcheddol sy'n rhan o'n cylch gwaith e.e., gwaith cadwraeth natur, gwaith adfer cynefinoedd, gwaith llifogydd ac ati a bod deg o bobl neu lai yn rhan o’r prosiect, rydym yn codi ffi weinyddol untro o £50.
Os yw'r ffilmio neu ffotograffiaeth yn ymdrin â materion amgylcheddol nad ydynt yn rhan o'n cylch gwaith a bod deg o bobl neu lai yn rhan o’r prosiect, y gost yw £300 fesul hanner diwrnod.
Ffilmio gan fyfyrwyr neu ar gyfer cyrsiau
Nid oes ffi ar gyfer myfyrwyr sy’n ffilmio fel rhan o’u cwrs.
Cynyrchiadau annibynnol bach
Ar gyfer cast a chriw o hyd at ddeg o bobl, rydym yn codi £200 y dydd.
Grwpiau cymunedol
Rydym yn codi £200 y dydd os oes mwy na phymtheg o bobl yn eich cast a’ch criw. Os oes llai na 15 o bobl, rydym yn codi ffi weinyddol untro o £50.
Sut rydym yn cyfrifo costau
Mae’r holl gostau’n eithrio TAW.
Mae ein cost fesul diwrnod yn seiliedig ar ein horiau gweithio rheolaidd o 9am tan 5pm.
Rydym yn cynnwys ffi weinyddol heblaw ein bod yn nodi fel arall.
Amser ein staff
Rydym yn codi £250 fesul hanner diwrnod ar gyfer amser ein staff. Mae hyn yn cynnwys amser sydd ei angen ar gyfer chwilio am leoliadau ac unrhyw waith monitro.
Amodau safleoedd lleol
Rhaid i chi ddilyn rheolau ac amodau safleoedd lleol. Gall yr amodau hyn gynnwys difrod i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Bydd eich cytundeb ffilmio ar gyfer y lleoliad yn pennu’r amodau hyn ar gyfer safleoedd lleol.
Faint o amser mae’n ei gymryd i brosesu ceisiadau
Rydym yn prosesu pob cais yn unol â’n hamserlenni safonol.
Os oes arnoch angen i ni brosesu eich cais yn gyflym, efallai y byddwn yn ychwanegu gordal o 5-10%. Bydd y pris yn destun trafodaethau masnachol.
Egwyddorion cynhyrchu cynaliadwy
Rhaid i chi weithio yn unol â'r Egwyddorion Cynhyrchu Cynaliadwy a meddu ar Dystysgrif Albert BAFTA. Rhaid i chi sicrhau bod System Rheoli Amgylcheddol ar waith sy'n gymesur â maint eich cynhyrchiad.
Os nad yw'r rhain ar waith, rydym yn cadw'r hawl i ychwanegu gordal o 5-10%. Bydd y pris yn destun trafodaethau masnachol.