Gwneud cais ar gyfer : ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir

Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.

Gwiriwch a oes angen caniatâd arnoch i ffilmio, i drefnu digwyddiad neu i gynnal gweithgaredd ar ein tir.

Taliadau

Rydym yn codi taliadau safonol ar gyfer gweithgareddau o fathau gwahanol ar ein tir.

Ffilmio ar ein tir

Dyma’r ffurflen fydd ei hangen arnoch i wneud unrhyw waith ffilmio ar ein tir.

Mae gennym gyfoeth o leoliadau unigryw y gellir eu llogi. Os ydych yn bwriadu cynhyrchu’r ffilm boblogaidd nesaf a fydd yn cipio gwobr Oscar neu os ydych angen cefndir i’ch rhaglen ddogfen, mae ein hystad yn cynnig amrywiaeth o leoliadau i wneuthurwyr ffilmiau.

I ffilmio ar ein tir mae angen o leiaf 3 wythnos o rybudd arnom; gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu ceisiadau.

Rydym yn ystyried ceisiadau o ran ymholiadau’r cyfryngau neu geisiadau am gyfweliad fesul achos. Cysylltwch â'n swyddfa wasg os oes gennych ymholiad o ran y cyfryngau neu i wneud cais am gyfweliad.

Mae swyddfa'r wasg ar agor yn ystod oriau swyddfa, gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Digwyddiadau

Dyma'r ffurflen ar gyfer digwyddiadau untro, p'un ai dros un diwrnod neu nifer o ddiwrnodau. Gall digwyddiadau gynnwys beicio mynydd neu redeg yn y mynyddoedd, triathlonau, gornestau ceffylau, pledu paent, hyfforddiant sgiliau, teithiau cerdded tywys, gyrru cerbyd a cheffyl – a llawer rhagor!

Arolygon

Dyma'r ffurflen i chi os ydych chi am wneud arolygon cadwraeth, treftadaeth neu archeolegol sydd angen hawlen. Gallai hyn gynnwys cloddiadau archeolegol, gweithgareddau ar henebion cofrestredig neu arolygon o rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Caniatâd blynyddol i unigolion

Dyma'r ffurflen i chi os oes angen hawlen neu allweddi i agor clwydi ar gyfer gweithgareddau fel marchogaeth (mewn coetiroedd lle mae angen hawlenni), hyfforddi cŵn llusg, cadw cychod gwenyn ac ati (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol).

Caniatâd blynyddol i fusnesau, clybiau a chymdeithasau

Dyma'r ffurflen i chi os ydych chi'n cynrychioli busnes, clwb neu gymdeithas a bod angen hawlen neu allwedd i agor clwydi ar gyfer gweithgareddau fel gyrru cerbyd a cheffyl neu gasglu dail.

Cytundebau hirdymor i ddefnyddio'n tir

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiectau tymor hir (dros 1 flwyddyn), anfonwch e-bost at Llais y Goedwig: NRWpermissions@llaisygoedwig.org.uk a dywedwch beth hoffech chi ei wneud.

Gall Llais y Goedwig eich helpu i lenwi'r ffurflen gais prosiectau a rhoi cyngor am gyfleoedd am gyllid, cynaliadwyedd y prosiect, a’ch cyflwyno i rwydwaith o brosiectau coetir cymunedol ledled Cymru.

Cysylltu â ni

Os byddwch angen cymorth, cofiwch gysylltu â ni.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf