Gwneud cais am ganiatâd 

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cyn trefnu rhai gweithgareddau neu ddigwyddiadau ar y tir rydym yn ei reoli. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Pryd bydd angen cymryd cerbydau ar ein tir
  • Gweithgareddau lle codir tâl ar bobl sy'n cymryd rhan
  • Cyrsiau a digwyddiadau hyfforddiant a byw yn y gwyllt
  • Gosod stondinau neu bebyll
  • Codi arwyddion neu feinciau, neu greu llwybrau
  • Torri llystyfiant yn ôl neu ymgymryd â gwaith rheoli coetir y cytunwyd arno
  • Rhai gweithgareddau addysg ac o fath Ysgol Goedwig
  • Ffilmio neu hedfan dronau
  • Rhai arolygon cadwraeth, treftadaeth ac archaeolegol

Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn – bydd angen trwydded neu ganiatâd ffurfiol ar unrhyw beth a allai arwain at dorri is-ddeddfau coedwig.

Cwblhau ffurflen gais i gynnal digwyddiad neu weithgaredd ar ein tir.

Yr hyn y dylid ei wneud cyn gwneud cais

Mae pob cais yn cael ei ystyried ar sail achos unigol felly mae'n hanfodol eich bod yn cysylltu â ni ynglŷn â'ch digwyddiad neu weithgaredd cyn ichi ddechrau cynllunio.

Weithiau, mae'r tir rydym yn ei reoli wedi'i gau ar gyfer cwympo coed, diogelwch cyhoeddus, atal tân neu resymau cadwraeth. Bydd ein timau lleol yn gallu eich hysbysu am unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd, cynnig arweiniad, a sicrhau bod gennych y ffurflenni cywir.

Bydd hefyd angen i chi ystyried y canlynol:

  • Yr union beth rydych chi'n bwriadu ei wneud
  • Pryd a ble bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ac am ba hyd y bydd yn para
  • Faint o bobl fydd yn cymryd rhan
  • Os bydd angen mynediad i gerbydau arnoch
  • Os bydd angen mynediad cyn ac ar ôl y digwyddiad arnoch er mwyn paratoi a chlirio’r safle
  • Pa gyfleusterau ategol bydd eu hangen arnoch – e.e. toiledau symudol, marsialiaid, arlwyo ac ati
  • Sut byddwch yn sicrhau diogelwch a darparu yswiriant

Byddwch hefyd yn gyfrifol am gael caniatâd (os bydd angen) gan, er enghraifft, yr heddlu neu awdurdod priffyrdd lleol.

Yswiriant

Bydd angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth £5 miliwn arnoch ar gyfer unrhyw weithgaredd, digwyddiad neu brosiect sy’n cael ei gynnal gennych.

Asesiadau risg

Bydd angen i chi ddarparu asesiad risg gyda'ch cais. Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i weld a oes unrhyw risgiau y bydd angen ichi eu hystyried cyn trefnu eich digwyddiad neu weithgaredd, e.e. llinellau pŵer, siafftiau cloddfa, piblinellau a chwareli.

Taliadau

Rydym yn codi taliadau safonol ar gyfer gweithgareddau o fathau gwahanol ar ein tir.

Mae Fframwaith Codi Tâl Caniatadau CNC yn cael ei ddiweddaru a bydd yn mynd yn fyw yn ystod haf 2022.

Codir ffi weinyddol safonol o £50 a TAW am bob cais.

Sut mae cynigion yn cael eu hasesu

Bydd yn cymryd 12 wythnos fel arfer i asesu cais.

Bydd pob cais yn cael ei ledaenu i dîm yn yr ardal leol er mwyn sicrhau bod y gweithgaredd, digwyddiad neu brosiect yn gallu cael ei gynnal yn ddiogel heb effeithio ar eraill sydd yn defnyddio neu'n gweithio ar ein tir.

Hysbysebu eich digwyddiad neu weithgaredd

Bydd angen i chi sicrhau bod pobl yn gwybod am y gweithgaredd neu ddigwyddiad rydych yn ei gynnig a bod ganddynt gyfle i gymryd rhan os yw hynny’n bosibl.

Os byddwch yn cyhoeddi eich digwyddiad cyn bod gennych drwydded wedi’i llofnodi, bydd hyn yn ôl eich menter eich hun os na fydd y cais yn llwyddiannus.

Os bydd angen i chi ymgymryd â gwaith hysbysebu ymhell cyn dechrau eich digwyddiad, neu’r adeg pan fydd yn cael ei gynnal, bydd rhaid i chi gyflwyno eich cynnig ymhell o flaen llaw er mwyn ystyried y cyfnod asesu o 12 wythnos.

Cyngor a chymorth

Gall trefnu a rheoli digwyddiad fod yn gymhleth ac efallai y bydd angen rhywfaint o gyngor ac arweiniad arnoch ar hyd y ffordd.

Bydd ein swyddogion lleol yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu eich cynnig yn weithredol cyhyd ag y bo modd drwy gynnig y canlynol:

  • Cyngor ac arweiniad ynglŷn â'r broses ganiatadau
  • Cymorth gyda mapiau
  • Arferion gorau rheoli coetir a thir
  • Canllawiau Coetiroedd i Gymru
  • Gwybodaeth am ein tir a Chynlluniau Adnoddau Coedwigoedd
  • Gwybodaeth am grwpiau lleol eraill a phartneriaid posibl
  • Eglurhad ynglŷn â phrosesau asesu risg sylfaenol
  • Cyngor ynghylch trwyddedau cwympo a phlannu coed

Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â sefydlu eich grŵp, lle y gellid dod o hyd i ffynonellau cyllid posibl, sut i gyrraedd a chynnwys pob aelod o'ch cymuned, canllawiau cynllunio ac ati, bydd angen i chi siarad â phobl ag arbenigedd penodol yn y meysydd hyn.

Mae llawer o sefydliadau arbenigol yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus sy'n gallu cynnig cymorth – a grwpiau eraill sy'n gallu rhannu eu profiadau ymarferol o ymgymryd â gwaith tebyg.

Mae cyngor ac arweiniad ar drefnu digwyddiad diogel ar gael o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Efallai y bydd cyrff ambarél sy’n cefnogi gweithgareddau, fel, er enghraifft, Cymdeithas Ceffylau Prydain, Cymdeithas Yrru Prydain neu Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain, yn gallu cynnig cyngor penodol.

Diweddarwyd ddiwethaf