Canllawiau EPR
Os bydd angen cael Trwydded Amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd rydych yn bwriadu ei gyflawni, neu os byddwch am wneud newidiadau i weithgaredd sydd eisoes wedi'i gwmpasu gan Drwydded Amgylcheddol, mae gwahanol ganllawiau y gall fod angen i chi edrych arnynt er mwyn ategu eich cais a chydymffurfio â'ch trwydded.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn berchen ar lawer o'i chanllawiau ei hun ac yn eu cynnal. Lle mae canllawiau ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru mae'n rhaid i chi edrych arnynt ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni yng Nghymru. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau, efallai y byddwn yn parhau i ddefnyddio canllawiau a luniwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Darperir dolenni i'r canllawiau hyn lle y bo'n berthnasol.
Mae ein canllawiau ar gyfer gweithgareddau a gwmpesir gan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol wedi'u rhannu'n nifer o gategorïau. Mae'r adrannau isod yn esbonio'r math o ganllawiau sydd ar gael. Bydd y dolenni yn mynd â chi i'r tudalennau perthnasol ar ein gwefan.
Canllawiau llorweddol
Diben canllawiau llorweddol yw rhoi gwybodaeth sy'n berthnasol i bob sector a gaiff ei reoleiddio o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Er enghraifft, sŵn, arogleuon, effeithlonrwydd ynni neu ddiogelu tir. Bydd y ddolen ar waelod y dudalen hon yn mynd â chi i'r canllawiau llorweddol sydd ar gael.
Nodiadau cyfarwyddyd rheoliadol
Mae nodiadau cyfarwyddyd rheoliadol yn ddogfennau cyfarwyddyd y bwriedir iddynt helpu deiliaid trwyddedau i ddeall diffiniadau a thermau a ddefnyddir yn y rheoliadau trwyddedu amgylcheddol.
Pecynnau Cymorth ar gyfer Systemau Rheoli Amgylcheddol
Mae pecynnau cymorth rheoli amgylcheddol i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau) wedi'u datblygu drwy weithio gyda chymdeithasau masnach perthnasol. Gallwch ddefnyddio'r rhain i'ch helpu i lunio eich system rheoli amgylcheddol.
Canllawiau i'ch helpu i gydymffurfio â'ch trwydded amgylcheddol
Nod ein Nodiadau Cyfarwyddyd i Sectorau yw rhoi cyngor i weithredwyr a'n swyddogion rheoleiddio ar safonau dangosol o ran gweithredu a pherfformiad amgylcheddol, sy'n berthnasol i'r sector diwydiannol dan sylw.
Yn ogystal â'ch canllawiau sector-benodol, mae Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol yn disgrifio'r safonau a'r mesurau y mae'n rhaid i chi eu defnyddio er mwyn rheoli'r risgiau mwyaf cyffredin o lygredd sy'n gysylltiedig â'ch gweithgaredd. Maent yn hanfodol i'ch helpu i ddeall sut i gydymffurfio ag amodau neu reolau eich trwydded.
Canllawiau i'ch helpu i gydymffurfio â'ch trwydded amgylcheddol.