Cyfarwyddyd i'ch helpu i gydymffurfio â'ch Trwydded Amgylcheddol

Nod ein Nodiadau Cyfarwyddyd i Sectorau yw rhoi cyngor i weithredwyr a'n swyddogion rheoleiddio ar safonau dangosol o ran gweithredu a pherfformiad amgylcheddol, sy'n berthnasol i'r sector diwydiannol dan sylw.

Yn ogystal â'ch canllawiau sector-benodol, mae Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol yn disgrifio'r safonau a'r mesurau y mae'n rhaid i chi eu defnyddio er mwyn rheoli'r risgiau mwyaf cyffredin o lygredd sy'n deillio o'ch gweithgaredd. Maent yn hanfodol i'ch helpu i ddeall sut i gydymffurfio ag amodau neu reolau eich trwydded.

Mae dogfennau ar gael i'w lawrlwytho ar waelod y dudalen hon. Ceir hefyd ddolenni i ganllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar y wefan .Gov.uk a chanllawiau ategol eraill, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i'w dilyn:

Monitoring of particulate matter in ambient air around waste facilities (Saesneg yn unig)

Landfill sector technical guidance (Saesneg yn unig)

Treating waste to thermal desorption (Saesneg yn unig)

At hynny, mae llawer o ddogfennau cyfarwyddyd diwydiant a allai eich helpu i ddeall safonau a rhoi mesurau priodol ar waith er mwyn rheoli eich gweithgareddau ac atal llygredd.

 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf