Gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am drwydded amgylcheddol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwasanaeth cynghori un i un i'ch helpu i ddeall gofynion cyfreithiol wrth ymgymryd â gweithgareddau penodol ac i gynorthwyo gyda'r broses ymgeisio.
Mae dwy awr gyntaf y cyngor yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim. Codir tâl am unrhyw gyngor dilynol sydd ei angen ar gyfradd o £125 + TAW yr awr.
Nid yw'r gwasanaeth yn orfodol ac mae ffynonellau cyngor eraill, ac yn eu plith ymgynghoriaethau sector preifat, cyhoeddus neu academaidd, ar gael.
Sut i gael mynediad i'r gwasanaeth
Cyflwynwch y ffurflen ‘cais am gyngor’ i'n canolfan derbyn trwyddedau fydd yn neilltuo person cyswllt y gallwch siarad ag ef/hi am eich gweithgaredd arfaethedig.
Meysydd eraill rydym yn cynnig cyngor cyn ymgeisio amdanynt
Mae cyngor cyn gwneud cais am drwyddedau a hawlenni eraill ar gael:
- Trwyddedau cwympo coed
- Trwyddedau morol
- Gweithgareddau perygl llifogydd
- Adnoddau dŵr
Os nad yw'r gweithgaredd rydych yn ceisio cyngor yn ei gylch wedi'i gynnwys, anfonwch e-bost i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
Gall CNC ddarparu cyngor ar eich gweithgaredd a'ch safle penodol, er mwyn eich helpu chi i:
- deall a oes angen unrhyw ganiatâd (hawlenni, trwyddedau, awdurdodiadau ac ati) oddi wrthym ni, ar gyfer eich gweithgaredd
- paratoi cais neu gyflwyniad safonol ar gyfer y caniatâd sydd ei angen
Ni fyddwn yn rhoi unrhyw gyngor neu wasanaeth a allai fod yn ‘rhag-gyflyru’ neu'n gwneud niwed i ddyfarniad cyn i’r cais hwnnw gael ei gyflwyno. Mae hyn yn golygu na allwn:
- paratoi adroddiadau ar gyfer ymgeiswyr, neu
- cynnal rhagasesiadau o wybodaeth a ddylai fod yn rhan o'r cais ffurfiol
Rhaid gwneud hyn fel rhan o ddyfarniad technegol y cais. Dim ond ar ôl i ni fod yn fodlon bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi'i chyflwyno y gallwn ddyfarnu cais a’i dderbyn yn ffurfiol.
Oes rhaid i chi ddilyn y cyngor sy’n cael ei roi?
Mae ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio yno i ddarparu cyngor yn unig. Eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar y ffordd orau o weithredu ar y cyngor hwn ynglŷn â chais.
Nid yw cyflwyno cais yn seiliedig ar ein cyngor yn warant y rhoddir hawlen, trwydded neu awdurdodiad.
Ni allwn fod yn gyfrifol am benderfyniadau a wneir gan gyrff eraill fydd â ffactorau eraill i'w hystyried ochr yn ochr â'n cyngor ni.