Llanelwy – Cynllunio ac Yswiriant
Yswiriant y Cartref
Mae eiddo sydd mewn perygl o ddigwyddiad llifogydd eithafol yn cael eu categoreiddio'n rhai perygl isel – tebygolrwydd o 0.01% i llai nag 1% mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Bydd cwmnïau yswiriant sy'n aelodau o Gymdeithas Yswirwyr Prydain yn dal i ddarparu yswiriant i ddeiliaid polisi presennol ar yr amod bod safon y diogelwch yn 1.3% neu'n well.
I ddechrau bydd cynllun llifogydd Llanelwy yn darparu diogelwch o 0.5% o bosibilrwydd o lifogydd mewun unrhyw flwyddyn gan leihau i 1% yn 2025 yn unol â'r canllawiau cyfredol ynghylch newid yn yr hinsawdd.
I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Ffeithlen Yswiriant Llifogydd.
Ceisiadau Cynllunio
Nid yw’r rhannau hynny o Lanelwy sydd mewn perygl o ddigwyddiad llifogydd eithafol yn unig (0.01% - llai nag 1%) yn elwa ar hyn o bryd o’r amddiffynfeydd llifogydd presennol yn ôl diffiniad Mapiau Cyngor Datblygu Llywodraeth Cymru.
Bydd angen i unrhyw gynlluniau datblygu newydd o fewn ardaloedd perygl llifogydd o'r fath gael eu hategu a'u llywio gan Asesiadau o Ganlyniadau Llifogydd priodol yn unol â gofynion cyfredol Polisi Cynllunio Cymru (Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl Llifogydd).
Yn dilyn cwblhau'r cynllun amddiffyn rhag llifogydd, byddwn yn ystyried diweddaru'r wybodaeth sydd ar ein Map Llifogydd er mwyn adleisio'r newidiadau sy'n gysylltiedig â'r cynllun. Hefyd byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym am berygl llifogydd â Llywodraeth Cymru, fel y gall y Llywodraeth ystyried diweddaru'r Mapiau Cyngor Datblygu.
Ymgynghorir â ni ynghylch amrywiaeth o geisiadau cynllunio ac ymgyngoriadau gan ystod o gyrff sy'n cymryd penderfyniadau gan gynnwys:
- Awdurdodau cynllunio lleol
- Yr Arolygiaeth Gynllunio
- Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC)
- Y Sefydliad Rheoli Morol
- Llywodraeth Cymru
Ceisiadau Eraill
Mae’n rhaid gael caniatâd ein harbenigwyr ar gyfer gwaith mewn, o dan neu o fewn 7 metr i, "Brif Afon" (e.e. Afon Elwy)