Cynllun Llanelwy - newyddion diweddaraf – Mehefin 2019
Erbyn hyn mae dros 400 o eiddo yn cael eu hamddiffyn yn well rhag llifogydd o’r Afon Elwy.
Agorwyd y gwaith o adeiladu cynllun rheoli perygl llifogydd Llanelwy, gan osod pont newydd Spring Gardens, gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd Hannah Blythyn AC ym mis Gorffennaf 2018.
Mae CNC yn monitro’r gwaith er mwyn sicrhau fod popeth yn gweithio yn ôl y bwriad. Rydym yn sicrhau bod yr argloddiau llifogydd yn datblygu gorchudd da o laswellt ac yn gwneud y gwaith o gynnal a chadw fel bo angen .
Byddwn yn ail ymweld â rhai rhannau o’r cynllun llifogydd yn ystod y misoedd nesaf er mwyn gwneud mân waith atgyweirio. Byddwn yn ceisio lleihau’r effaith ar y cyhoedd yn ystod y gwaith hwn.
Mae contractwr tirlunio arbenigol yn monitro ac yn cynnal a chadw’r coed a’r llwyni a blannwyd i ostwng ar effaith y rhai a gollwyd fel rhan o’r prosiect. Mae dal eisiau gwneud ychydig o blannu mewn rhai rhannau.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal gwaith Glascoed yn ddiweddarach yn 2019, a bydd hyn yn cyd-fynd â’r gwaith wnaethom fel rhan o’n cynllun.
Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â James Williams o dîm Rheoli System Asedau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3911.