Llanelwy – Hanes Llifogydd
Ychwanegwyd at uchder yr amddiffynfeydd hyn eto yn 1975.
Yn fwy diweddar, fis Tachwedd 2012, gorchfygwyd yr amddiffynfeydd unwaith eto ar ôl cyfnod hir o law pan gododd y llif yn Afon Elwy 3 metr yn uwch na'i lefel arferol.
Achosodd hyn lifogydd mewn tua 300 o gartrefi a 70 o garafanau yn y ddinas. Amcangyfrifwyd mai'r tebygolrwydd blynyddol o gael llifogydd fel yr hyn a gafwyd ym mis Tachwedd 2012 oedd rhwng 0.5% ac 1% mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Llifogydd 1964/65
Mae'r lluniau hyn o'r archif yn dangos cymaint o lifogydd oedd bryd hynny.
Llifogydd Tachwedd 2012
Daw’r wybodaeth isod o'r Adroddiad ar ôl Llifogydd a gynhaliwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru, erbyn heddiw).
Cafwyd llifogydd mewn tua 320 o eiddo, yn gymysgedd gartrefi ac eiddo busnes a thua 70 o garafanau, pan dorrodd Afon Elwy dros ei glannau ddydd Mawrth 27ain Tachwedd 2012.
Mae’r amddiffynfeydd ffurfiol yn yr ardal hon yn cynnwys argloddiau pridd uchel - dangosir y lleoliadau yn Ffigur 3. Roedd cymaint ddŵr yn yr ardal nes trechu’r amddiffynfeydd a gorlifodd y dŵr dros yr argloddiau rhwng tua 4.45 a.m. a 3:15 p.m. y prynhawn hwnnw.
Dechreuodd llifogydd yn Llanelwy yn bennaf yn rhan is Afon Elwy. Roedd yr adroddiadau cychwynnol o'r safle yn datgan bod y llifogydd wedi dechrau digwydd i lawr yr afon o'r A55 gyda'r dŵr yn llifo i mewn i ardal 'Spring Gardens'. Mae'r ardal hon yn cynnwys maes carafanau mawr a sawl eiddo. Wedyn cafodd 'Spring Gardens' ei ynysu wrth i'r sefyllfa waethygu.
Mewn dim o dro yn dilyn yr adroddiadau cychwynnol hyn, daeth y newydd i law fod 'Roe Park', sef ardal breswyl o 54 o eiddo, sydd hefyd i lawr yr afon o'r A55, dan ddŵr. Unwaith eto roedd hyn wedi digwydd oherwydd bod lefel y dŵr yn uwch na'r amddiffynfeydd.
Yn dilyn y llifogydd cychwynnol yn y lleoliadau hyn, gorchfygwyd yr amddiffynfeydd i fyny'r afon o'r A55 wedyn.
Map 1 - Rhychwantau'r llifogydd, llwybrau llif a lleoliadau lle cododd lefel y dŵr yn uwch na'r amddiffynfeydd
Parc Carafanau ‘Spring Gardens’ i lawr yr afon o’r A55
‘Roe Park’ i lawr yr afon o’r A55
Rhychwant y llifogydd I lawr yr afon o’r A55
Rhychwant y llifogydd i fyny’r afon o'r A55
Rhychwant y llifogydd. Trosolwg eang gan edrych i lawr yr afon