Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Pont Elái

Y cynllun

Rydym wedi cwblhau'r cynllun hwn i leihau'r perygl o lifogydd i 490 eiddo yn Nhrelái a'r Tyllgoed.

Mae perygl llifogydd yn cynyddu'n sylweddol pan fydd pont Cowbridge Road (A48) dros Afon Elái yn cael ei rhwystro'n rhannol gan falurion, yn enwedig coed a gwrthrychau mawr eraill. Os cedwir y bont yn glir, gall mwy o ddŵr lifo oddi tani ac i lawr yr afon, gan leihau'r perygl o lifogydd i'r ardal gyfagos.

Rydym wedi adeiladu 'daliwr coed' i ddal coed a malurion arnofiol mawr eraill yn ddiogel cyn iddynt gael eu cludo i lawr at y bont. Wrth i lefelau dŵr godi yn ystod llifogydd, bydd malurion sydd wedi cael eu dal gan y polion yn arnofio ar wyneb y dŵr, gan ganiatáu i ddŵr lifo oddi tanynt ac i lawr yr afon.

Cwblhawyd y cynllun ym mis Rhagfyr 2021 a chafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Beth mae’r ‘daliwr coed’ yn ei gynnwys?

Mae'r daliwr coed yn cynnwys saith polyn wedi’u gosod yn eang ar draws yr afon i dargedu malurion mawr a fyddai fel arall wedi'u dal ar y bont.

Wrth i lefelau dŵr godi yn ystod llifogydd, bydd malurion sy'n cael eu dal gan y polion yn arnofio ar wyneb y dŵr, gan ganiatáu i ddŵr basio oddi tano a pharhau i lawr yr afon.

Drwy ddal malurion mewn man diogel i fyny'r afon o Bont Elái, caiff y perygl o lifogydd ei leihau.

Mae creigiau wedi'u gosod o amgylch y polion i'w hamddiffyn rhag erydiad. Mae gwely’r afon yn parhau i fod ar yr un lefel.

Bydd ramp mynediad ac ardal brosesu wedi cael eu hadeiladu er mwyn ei gwneud yn haws i'n gweithwyr gael at y rhwystrau, eu torri yna eu gwaredu. Byddwn yn mynd ati i fonitro’r malurion gan ddefnyddio camera CCTV.

Rydym hefyd wedi plannu rhywogaethau brodorol i sgrinio’r ardal a darparu cynefin i fywyd gwyllt.

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Diweddarwyd ddiwethaf